Yr Awr Fwyd – dysgu am fwyd, dysgu trwy fwyd a rhannu bwyd maethlon
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch o gael bod yn rhan o brosiect cynllun peilot Yr Awr Fwyd o dan arweiniad Cyngor Caerdydd mewn cydweithrediad â Gwasanaethau Maeth a Deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Ariennir y prosiect gan Gronfa Arloesi Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, a’i nod yw creu cenedl o ddinasyddion bwyd da drwy neilltuo un Awr Fwyd y dydd ym mhob ysgol i bob blentyn.
Bydd cynllun peilot Yr Awr Fwyd yn rhoi cyfle i blant ysgolion cynradd Caerdydd i dreulio o leiaf awr bob diwrnod ysgol yn dysgu am fwyd, dysgu trwy fwyd a rhannu bwyd maethlon.
Cynlluniwyd Yr Awr Fwyd i wneud y gorau o’r sgiliau, y cysylltiadau a’r buddsoddiadau o fewn ecosystem fwyd bresennol yr ysgol a’r ecosystemau sy’n esblygu, a hynny o’r fferm i’r fforc, ac o’r ysgol i’r cartref.
Rhan o’r prosiect fydd sefydlu gweithgor; creu model cost-effeithiol ar gyfer y ddarpariaeth; profi’r ddarpariaeth mewn chwe ysgol gynradd; llunio achos dros y dull hwn ac ystyried ei effaith ar gymdeithas hefyd.
Mae dull Yr Awr Fwyd yn syml ac yn ychwanegu at yr adnoddau, y rhaglenni a’r cyfalaf dynol sy’n bodoli eisoes yng Nghymru. Yn ystod y cynllun peilot, bydd partneriaid y prosiect yn:
- Cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen hyfforddi’r Awr Fwyd i staff yr ysgol a’r staff arlwyo (hyd at 50 aelod o staff yng Nghaerdydd) gan ychwanegu at adnoddau a rhaglenni presennol ac mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflenwyr bwyd ysgol, er enghraifft.
- Cyd-ddylunio pecyn addysg Yr Awr Fwyd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen (hyd at 1000 o blant) i’w gyflwyno gan staff hyfforddedig mewn ysgolion ac ychwanegu ato drwy ddefnyddio adnoddau a gweithgareddau allanol megis Sgiliau Maeth am Oes, Veg Power, Maint Cymru etc.
- Ymchwilio i’r potensial i rymuso disgyblion blwyddyn 6 i gyflwyno negeseuon allweddol i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen, gan adeiladu ar egwyddorion addysg cymheiriaid.
- Adeiladu ar waith ymgysylltu rhwng yr ysgol a’r cartref drwy weithgareddau megis bagiau rysáit i’w defnyddio gartref (a dreialwyd yn llwyddiannus yn y cynllun Bwyd a Hwyl), cyfleoedd hyfforddi i rieni a rhaglen Veg Power “Eat the Rainbow” mewn cydweithrediad â chwmni animeiddio Aardman.
Mae gan Gymru y capasiti i greu cenedl o ddinasyddion bwyd da a gall pob un ohonynt chwarae rhan hanfodol yn y broses o roi sylw i iechyd y cyhoedd, yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd. Gall prosiect Yr Awr Fwyd helpu i wireddu hyn drwy helpu i feithrin cenedlaethau gwybodus, grymus ac ysbrydoledig sy’n llawn cymhelliant i wneud dewisiadau sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, yr amgylchedd a’u cymunedau lleol.
Caiff Yr Awr Fwyd ei datblygu gan y tîm a gychwynnodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, a enillodd sawl gwobr ac a ddaeth yn Rhaglen Lywodraethu ar ôl hynny ac sy’n cael ei chyflwyno ledled Cymru. Llwyddodd Bwyd a Hwyl i ddangos amryw o fuddion iechyd a chymdeithasol i filoedd o blant, rhieni, gofalwyr a staff ysgol, a rhagwelir y bydd y cynllun peilot hwn yn cael yr un effaith.
Os hoffech wybod mwy am Yr Awr Fwyd, byddwn yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerdydd ddydd Iau, Mawrth 14eg 2024. Gallwch nodi’ch diddordeb drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk