Ymateb Synnwyr Bwyd Cymru i gyhoeddiad dogfen Bwyd o Bwys Llywodraeth Cymru

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei dogfen Bwyd o Bwys lle mae’n amlinellu ei chefnogaeth i ddatblygu partneriaethau bwyd a’r model Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru ar hyn o bryd yn Sioe Frenhinol Cymru yn amlinellu sut mae partneriaethau bwyd lleol yn adeiladu gweledigaethau ar gyfer systemau bwyd lleol iach a chynaliadwy – yn enwedig datblygu cadwyni cyflenwi lleol ar gyfer sicrhau llysiau organig ar gyfer prydau ysgol trwy ein prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn croesawu cyhoeddi’r ddogfen hon sy’n crynhoi polisïau Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â bwyd ar draws portffolios ac edrychwn ymlaen at barhau â’n sgyrsiau adeiladol ag adrannau amrywiol ynghylch llawer o’r meysydd gwaith hyn. Yn y cyfamser, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn parhau i eirioli dros weledigaeth a strategaeth ar gyfer y system bwyd a ffermio gyfan yng Nghymru i gefnogi iechyd a lles ein hamgylchedd a lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Synnwyr Bwyd Cymru, Gorffennaf 22ain, 2024