Mynd i'r cynnwys

Partneriaethau Bwyd Lleol

Mae partneriaethau bwyd lleol yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o sectorau gwahanol at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan gydweithio i sicrhau bwyd da i bawb.

Mae Partneriaethau Bwyd lleol yn gweithio ar draws sectorau, gan ddod â phobl allweddol ynghyd i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd mwy cynaliadwy sydd wedi’i theilwra i’r ardal leol ac sy’n ymateb i’w hanghenion penodol.

Darllenwch ein Adroddiad Statws ar Bartneriaethau Bwyd Lleol yma.

Cafon nhw eu cyflwyno gyntaf yn y Deyrnas Unedig gan fudiad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig sy’n gwneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd benodol o ble mae pobl yn byw.

Yng Nghymru, mae 22 o bartneriaethau bwyd – un ym mhob ardal awdurdod lleol – sy’n hyrwyddo arloesedd ac arfer gorau mewn systemau bwyd iach a chynaliadwy.  Mae deg o’r partneriaethau bwyd eisies yn aelodau o Leoedd Bwyd Cynaliadwy, sef Bwyd CaerdyddBwyd y FroPartneriaeth Bwyd Sir FynwyBwyd RCTPartneriaeth Bwyd Blaenau GwentBwyd Powys FoodBwyd Sir Gâr Food, Partneriaeth Bwyd Torfaen, Bwyd Abertawe a Phartneriaeth Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae Cymru’n ymfalchïo yn y ffaith bod ganddi bartneriaethau bwyd sydd wedi ennill gwobrau efydd, arian ac aur – sy’n dyst i’r gwaith caled a’r cydweithio sy’n digwydd ledled y wlad.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn cefnogi ac yn meithrin y partneriaethau bwyd, gan ddod â nhw ynghyd, darparu arweiniad a chreu cyfleoedd i gydweithio.

Mae partneriaethau’n cynnwys cyrff cyhoeddus fel Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol, yn ogystal â dinasyddion, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, busnesau bwyd, manwerthwyr, cyfanwerthwyr, tyfwyr a ffermwyr.  Maent yn cael eu harwain gan gydlynydd ac yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Partneriaethau Bwyd yn defnyddio dull gweithredu ar sail systemau – sy’n golygu eu bod yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion bwyd gwahanol, ond cysylltiedig, ac yn cydweithio i gyflawni newid.  Materion fel ansicrwydd bwyd i aelwydydd – sicrhau mynediad at fwyd iach, maethlon i bawb – a datblygu cadwyni cyflenwi lleol gwydn sy’n lleihau allyriadau carbon, yn hybu natur ac yn cefnogi’r economi leol.

Ond mae partneriaethau bwyd lleol yn gwneud llawer mwy na dim ond canfod atebion i broblemau cymhleth.  Mae nhw’n ysgogi newid, yn ysbrydoli syniadau, yn hwyluso arloesedd ac yn annog cymunedau i ymgysylltu â gweithgareddau a mentrau sy’n ymwneud â bwyd.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn credu bod buddsoddi mewn systemau bwyd lleol, gwydn a chysylltiedig yn datblygu ein cyfoeth ac yn ei gadw yng Nghymru – yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ac yn helpu i hybu cydweithio a chynhwysiant.  Mae Partneriaethau Bwyd Lleol yn ganolog i’r weledigaeth hon a gallant helpu i wneud newid gwirioneddol, cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru gyfan.  Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol bwyd gwell, mwy cynaliadwy i Gymru.

Darllenwch ein Adroddiad Statws ar Bartneriaethau Bwyd Lleol yma.

Gallwch hefyd ddarllen rhai astudiaethau achos yma neu wylio’r fideo esboniadol isod.

 

Logo Llywodraeth Cymru

 

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at foodsensewales@wales.nhs.uk

I gael mynediad at adnoddau defnyddiol ar gyfer datblygu partneriaethau bwyd, cliciwch ar y teil isod.