Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Ynys Môn: Creu Economi Fwyd Dda

Economi Fwyd Gynaliadwy ar Ynys Môn: creu economïau bwyd lleol ffyniannus drwy gefnogi busnesau bwyd lleol i dyfu a datblygu.

Sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Ynys Môn yn 2020 gyda’r nod o ddarparu ffocws strategol ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd ar Ynys Môn. Mae’r bartneriaeth, sy’n cael ei chynnal gan Menter Môn, yn cael ei harwain gan reolwr busnes ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi arferion bwyd cynaliadwy sy’n fuddiol i fusnesau lleol a’r gymuned.

Mae Partneriaeth Ynys Môn yn gweithio tuag at y nodau sydd wedi’u hamlinellu yn siarter fwyd Ynys Môn; sy’n hyrwyddo bwyd cynaliadwy i bobl leol, yn atgyfnerthu cysylltiadau cymunedol ac yn datblygu economi fwyd gynaliadwy.

Er mwyn cryfhau a chefnogi’r economi leol ymhellach, lansiodd y Bartneriaeth Bwyd Lleol Gronfa Partneriaeth Bwyd Ynys Môn yn 2023 i roi cefnogaeth ariannol i brosiectau bwyd lleol a chynaliadwy. Ers ei sefydlu, mae’r gronfa wedi cefnogi ystod eang o fentrau, gan ddarparu cyfleoedd a chyllid hanfodol i ddatblygu tirwedd bwyd cynaliadwy Ynys Môn.

Cefnogi busnesau bwyd lleol

Wrth drafod y cynnydd hyd yma, esboniodd David Wylie, Rheolwr prosiect Partneriaeth Bwyd Ynys Môn;  “Rydym wedi cefnogi 11 o brosiectau hyd yma, gan gynnwys ysgolion, grwpiau cymunedol, Bwyd Da Môn, busnesau addysgiadol, ynghyd â chymuned ffermio Ynys Môn. Mae pob un ohonynt yn gweithio tuag at nodau Siarter Fwyd Ynys Môn. Rydym wedi derbyn cyfanswm o 46 o geisiadau ar gyfer y rownd ddiweddaraf o gyllid, sy’n dangos maint y galw am gefnogaeth gan y Bartneriaeth.”

 

 

Un o’r busnesau cyntaf i elwa ar y cyllid oedd Gwenyn Môn, busnes lleol sy’n arbenigo mewn cyrsiau cynhyrchu mêl a chadw gwenyn. Gyda chymorth y grant, gallai Dafydd a Dawn Jones, perchnogion Gwenyn Môn, brynu offer hanfodol a oedd yn gwella effeithlonrwydd eu gweithrediadau’n sylweddol.

“Gyda’r arian fe wnaethom brynu’r holl arwynebau gwaith dur di-staen, y sinc, y lloriau is-lawr glân a’r wasg fêl, sy’n bwysig iawn pan mae’n rhaid i chi wasgu’r mêl allan o’r grib,” eglura Dawn, “Mae wedi gwneud bywyd yn llawer haws i ni.”

Ychwanegodd Dafydd Jones sut mae cyfleoedd rhwydweithio’r bartneriaeth wedi bod o fudd i’w busnes: “Rydym wedi cael llawer o help i rwydweithio gyda chynhyrchwyr bwyd eraill. Rydym wedi cael llawer o help a chyngor drwy hynny, ac rydyn ni’n gallu cynnig cyngor nawr hefyd. Mae’n dda gallu cydweithio a gwneud cynnyrch gyda’n gilydd hefyd gyda chynhyrchwyr bwyd lleol eraill.”

Mae Gwenyn Môn yn ymrwymedig i gadw’r busnes yn lleol, gan ganolbwyntio ar leihau milltiroedd bwyd drwy werthu ar yr ynys yn unig. Fel yr esboniodd Dafydd: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gadw’r busnes yn lleol er mwyn cadw’r milltiroedd bwyd yn isel, ac mae’r holl fêl rydym yn ei gynhyrchu yn cael ei greu ar Ynys Môn ac mae’r cyfan yn cael ei werthu yma hefyd. Fe wnaethom ennill Gwobr Great Taste yn ddiweddar, ac mae hynny wedi helpu gyda’n gwerthiannau, ac mae llawer o bobl yn dod yma i brynu mêl ac i ddilyn y cyrsiau ac yn y blaen.

“Rydym yn byw ar safle Geoparc Unesco, ac mae hynny’n creu mêl sy’n unigryw i ni oherwydd dylanwad y creigiau ar y pridd, y pridd ar y planhigion a’r planhigion ar y mêl, felly mae’r amgylchedd yn bwysig iawn i ni allu creu ein cynnyrch artisan.”

Grymuso Cymunedau

Prosiect arall sydd wedi derbyn arian gan Bartneriaeth Bwyd Ynys Môn yw Caru Amlwch, sefydliad dielw wedi’i leoli yn ardal Amlwch, Ynys Môn, a sefydlwyd i ddarparu cyfleoedd newydd a chyffrous i drigolion. Un o’u mentrau yw rhandiroedd yn Amlwch, a sefydlwyd yn 2019. Fodd bynnag, cafwyd heriau o ran cael mynediad at ddŵr ar y safle, ac fe wnaeth y grant gan y Bartneriaeth Bwyd Lleol ei alluogi i oresgyn y rhwystr hwn.

Eglurodd Julie Hughes, un o Gyfarwyddwyr Caru Amlwch sut y mae’r cyllid yn gwneud gwahaniaeth. “Mae gennym ddŵr yma nawr oherwydd yr arian grant a gawsom gan y Bartneriaeth Bwyd Lleol, sy’n golygu y gall pobl dyfu mwy yma gan nad oes angen iddyn nhw gario dŵr draw. Rydym hefyd wedi dechrau ‘trol gonestrwydd’ felly os ydym yn tyfu gormod gallwn roi’r bwyd hwnnw ar y drol gonestrwydd ac mae’r arian yn mynd yn ôl i’r rhandiroedd felly mae’n cwblhau’r cylch ac mae’n gweithio’n dda iawn.”

 

Ymchwil mewn Amaethyddiaeth

Yn ogystal â chefnogi busnesau bwyd lleol, mae’r bartneriaeth wedi ariannu mentrau ymchwil hefyd. Un enghraifft o hyn yw prosiect ADAS, a dderbyniodd £3,000 i astudio allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sector amaethyddiaeth yr ynys.

“Bu ADAS yn cefnogi grŵp o ffermwyr i gasglu a dadansoddi data priodol o’u mentrau fferm, i’w helpu i ddeall beth oedd eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr sylfaenol a sut y gellid lleihau’r rhain,” meddai David Wylie wrth iddo egluro arwyddocâd y prosiect hwn. “Yna cymharwyd yr archwiliadau yn erbyn aelodau eraill y grŵp ac yn erbyn meincnodau addas diwydiant yn Agrecalc. Rhoddwyd argymhellion a chynlluniau gweithredu i’r ffermwyr mewn adroddiadau unigol gyda chanllawiau ar sut y gallent ystyried lleihau eu hallyriadau.”

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ffermydd glaswelltir, sydd â rôl arwyddocaol yn y gadwyn cyflenwi bwyd lleol. Drwy ddarparu cynlluniau gweithredu wedi’u teilwra i ffermwyr a chanllawiau ar leihau allyriadau, nod y prosiect yw creu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn.

Cydweithredu

Wrth drafod effaith y Bartneriaeth Bwyd Lleol, mae David Wylie yn gweld ymdrech unedig ar Ynys Môn gydag unigolion, cymunedau, cyrff cyhoeddus a busnesau yn dod ynghyd i wella amgylchedd bwyd yr ynys.  Daw David i’r casgliad: “I mi, mae’r bartneriaeth fwyd yn bwysig oherwydd mae’n dod â chymaint o bobl at ei gilydd. Mae bwyd yn effeithio ar fywyd pawb, felly nid dim ond busnesau bwyd ond y sector cyhoeddus hefyd.”

Gwyliwch y fideo sy’n cydfynd â’r astudiaeth achos isod.