Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent: Bwyd Da i Bawb

Trechu Tlodi Bwyd, Salwch sy’n Gysylltiedig â Deiet, a Sicrhau Mynediad at Fwyd Iach, Fforddiadwy ym Mlaenau Gwent

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, dan arweiniad y Cydlynydd Chris Nottingham, yn ceisio sicrhau bod holl breswylwyr Blaenau Gwent yn cael mynediad cyfartal at fwyd iach, fforddiadwy ac mae hyn yn cynnwys cydweithio ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a sefydliadau’r trydydd sector.

“Prif elfen ein cenhadaeth yw gwneud yn siŵr bod gan bob preswylydd ym Mlaenau Gwent fynediad teg at fwyd iach a fforddiadwy ,” meddai Chris. “Mae mynd i’r afael â thlodi bwyd, salwch sy’n gysylltiedig â deiet a bwyd fforddiadwy yn hollbwysig ym mhopeth a wnawn.”

Argyfwng sy’n Tyfu

Mae Blaenau Gwent yn wynebu cyfraddau gordewdra dychrynllyd, gyda 70% o oedolion a 29% o ferched sy’n dechrau’r ysgol dros eu pwysau neu’n ordew. Mewn ymateb i hyn, mae’r bartneriaeth yn gweithio ar draws y system fwyd gyfan, gan ganolbwyntio’n benodol ar leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella mynediad at fwyd iach.

“Yr hyn rydym yn ceisio ei wneud yw adeiladu ar fentrau cymunedol sy’n digwydd ar draws y fwrdeistref i roi mwy o sylw i’r gwaith da sy’n cael ei wneud ym Mlaenau Gwent,” eglura Chris. “Rydym yn gweld anawsterau o ran cael mynediad at fwyd – p’un a yw hynny’n gost bwyd, trafnidiaeth wael neu’n syml, argaeledd bwyd. Cael gafael ar fwydydd nad ydynt yn iach yw’r opsiwn hawsaf, felly rydym yn gweithio’n galed iawn yn y gymuned i wneud dewisiadau bwyd iach, cynaliadwy yn fwy cyffredin ac yn haws i bobl gael gafael arnynt.”

Mae mentrau allweddol yn ceisio grymuso preswylwyr i wneud dewisiadau maethol gwell, creu llwybrau at ffordd iachach o fyw i bobl ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae nifer o brosiectau lleol eisoes yn cael effaith sylweddol ym Mlaenau Gwent ac maent yn gweithio i bontio’r bylchau mewn mynediad at fwyd gan feithrin ymgysylltiad cymunedol ar yr un pryd.

Hyb Bwyd Sefydliad y Glowyr Llanhiledd

Mae Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd i bobl o bob oed.

“Rydym yn cynnal dosbarthiadau bwyd amrywiol, o fwyta’n iach i fwydydd arbenigol. Rydym yn cynnal dosbarthiadau coginio i bobl ifanc; clwb popty araf; prosiect o’r enw coginio ffres; pantri bwyd mewn argyfwng ……eithaf tipyn o bethau mewn gwirionedd!” meddai Jamie Nethercott, rheolwr yr hwb bwyd. “Rydym hefyd yn cynnal sesiynau i blant bach, coginio i bobl ifanc…mae gennym famau sengl…teuluoedd sy’n gweithio….rydym yn cynnal sesiynau hyfryd i deuluoedd ac rydym yn dueddol o weld llawer o bobl hŷn.”

Mae Jamie yn canmol y bartneriaeth am chwarae rhan ganolog yn llwyddiant y mentrau hyn. “Mae gennym ni i gyd syniadau gwahanol ynglŷn â sut rydyn ni eisiau rhedeg pethau a gwneud pethau, ond fel maen nhw’n dweud, mae dau ben yn well nag un – ac yn sicr mae gan y bartneriaeth lawer o greadigrwydd a syniadau.”

Ymddiriedolaeth Coetiroedd Bryn Sirhywi

Mae gwaith Ymddiriedolaeth Coetiroedd Bryn Sirhywi wedi esblygu o waith rheoli coetir i ddarparu rhandiroedd cymunedol a sesiynau coginio i blant. Mae’r bartneriaeth bwyd wedi bod yn cefnogi ei gwaith, ac wedi darparu cyllid i greu gwelyau plannu uwch.

Mae Susy Arnold o Ymddiriedolaeth Coetiroedd Bryn Sirhywi yn credu bod cynnwys plant mewn coginio a maetheg yn hanfodol ac mae’n cynnal gweithdai i ysgolion a theuluoedd, gan fynd â’r cynnyrch o’r rhandiroedd a’i goginio yn eu cegin ar y safle.

“Rwy’n credu ei fod i gyd yn dechrau gyda phlant,” meddai Susy.  “Heddiw, mae plant wedi bod yn coginio myffins sawrus….rydym yn ceisio dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio cynhwysion go iawn, bwyd go iawn, ac nid gormod ohono, a heb unrhyw sothach ynddo.

“Ni fyddai’r gwaith hwn yn bodoli heb y bartneriaeth fwyd. Mae ei chefnogaeth yn bwysig iawn, iawn, oherwydd ni allwch wneud y math hwn o beth ar eich pen eich hun, ac rydym i gyd yn wirfoddolwyr, felly mae’r cyllid yn hollbwysig.”

Cydweithio gyda Dechrau’n Deg: Codi Ymwybyddiaeth a Grymuso Teuluoedd

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent wedi bod yn cydweithio gyda’r tîm Dechrau’n Deg i godi ymwybyddiaeth o fudd Cychwyn Iach, gan gynyddu’r nifer sy’n ei dderbyn yn sylweddol.

“Gwelsom fod Cychwyn Iach yn fudd nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol ym Mlaenau Gwent, felly buom yn gweithio gyda’r tîm Dechrau’n Deg i godi ymwybyddiaeth,” meddai Chris. “Rydym wedi gwneud hyn drwy arolygon, ymgysylltu â’r rhieni ac mae’r bartneriaeth fwyd wedi gallu cynnal sesiynau hyfforddiant i’r staff Dechrau’n Deg, felly rydym wedi bod yn datrys problemau y maent wedi’u hwynebu ar lawr gwlad, ac mae hynny wedi’i drosi’n gynnydd yn y nifer sy’n manteisio ar Dechrau’n Deg.”

Hyfforddiant ac Addysg: Rhoi Gwybodaeth am Faeth i Ymarferwyr

Mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent wedi darparu hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes i ymarferwyr Dechrau’n Deg, gan sicrhau bod teuluoedd yn derbyn y wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewisiadau iachach.

Sherelle Jago yw Rheolwr Rhaglen Dechrau’n Deg ym Mlaenau Gwent ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r bartneriaeth fwyd dros y pedair blynedd diwethaf.

“Mae cael mynediad at fwyd maethlon o ansawdd uchel yn broblem wirioneddol i rai teuluoedd….felly, mae’r prif ffocws wedi canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi mynediad at fwyd iach a hefyd sicrhau bod ein teuluoedd yn deall gwerth maethol bwyd hefyd,” meddai Sherelle.

“Rydym yn cynnal nifer o wahanol fathau o weithgareddau a digwyddiadau i sicrhau bod teuluoedd yn deall pa gymorth sydd ar gael. Mae maeth yn rhywbeth y mae pob un o’n gweithwyr cymorth i deuluoedd yn angerddol amdano, ond roeddem yn credu bod angen sicrwydd arnom ein bod yn derbyn y wybodaeth gywir,” ychwanegodd.  “Felly, fel rhan o’n gwaith Dechrau’n Deg a thrwy gyllid ychwanegol a sicrhawyd drwy Chris, roeddem yn gallu darparu hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes i alluogi pob un o’n hymarferwyr i gael eu hyfforddi’n briodol er mwyn gallu rhoi’r negeseuon cywir i deuluoedd a fydd, gobeithio yn ei dro yn newid eu harferion bwyta a’u galluogi i wneud dewisiadau iachach. Rydym mewn sefyllfa yn awr i droi ein hybiau cymunedol Dechrau’n Deg yn ardaloedd bwyta iach ac rydym yn hyderus y gallwn gyflawni hynny drwy ein gwaith gyda’r bartneriaeth bwyd.”

Rhanbarth Marmot: Cam Strategol Tuag at Leihau Anghydraddoldebau Iechyd

Mae Gwent yn Rhanbarth Marmot dynodedig, sy’n golygu bod ei Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymroddedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau drwy weithredu ar benderfynyddion cymdeithasol iechyd.

“Mae dod yn rhanbarth Marmot wedi bod yn gam defnyddiol iawn i Flaenau Gwent ac mae’n golygu bod gan fwyd rôl ganolog yn awr mewn penderfyniadau allweddol. Mae’n golygu bod gan fwyd rôl ganolog yn awr i lunwyr polisi yn y fwrdeistref, ac effaith fwyaf pwerus hynny yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn ym Mlaenau Gwent, ac mae maeth da yn allweddol ar gyfer hynny. Ac os gallwn roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant ym Mlaenau Gwent drwy eu galluogi i gael mynediad at ddeiet gwell, yna mae gennym gyfle gwell o sicrhau dyfodol iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd.”

Mynd i’r Afael ag Achosion Sylfaenol Tlodi Bwyd

Mae mynediad at fwyd iach yn broblem sylfaenol ym Mlaenau Gwent, sy’n effeithio ar iechyd a llesiant y preswylwyr. Fel y dywedodd Chris, “Os yw ble mae pobl yn byw yn pennu pa fwyd maen nhw’n ei brynu – ac ym Mlaenau Gwent, mae mynediad uchel i siopau tecawê neu fwydydd cyfleus sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr – ac mae cost bwyd iach yn golygu bod cael mynediad at fwyd iach yn foethusrwydd…mae pobl yn fwy tebygol o gael mynediad at fwydydd sy’n cynnwys llawer o galorïau, sy’n brin o faetholion, bwydydd sy’n gyfleus ac yn llawer mwy fforddiadwy i bobl fwydo eu teuluoedd o blant sy’n dechrau’r ysgol.”

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn enghraifft o bŵer cydweithredu rhwng unigolion, cymunedau a sefydliadau ymroddedig. Drwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol diffyg diogeledd bwyd, ehangu mynediad at fwyd maethlon, a rhoi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen ar breswylwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch bwyd, mae’r bartneriaeth yn meithrin system fwyd iachach a mwy cyfartal i Flaenau Gwent.

Mae Chris yn cloi drwy ddweud: “Dechreuais yn y swydd hon yn llawn brwdfrydedd ynghylch bwyd, cynhwysion, sut i goginio, o ble mae bwyd yn dod – ond mae fy ngwaith sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned wedi gwneud i mi deimlo’n angerddol ynghylch pŵer bod yn rhan o’r mudiad cymdeithasol hwn – gweld yr holl waith da sy’n digwydd ar lawr gwlad a bod yn rhan o’r newid hwnnw.”

Gwyliwch y fideo sy’n cydfynd â’r astudiaeth achos isod.