Bwyd Sir Gâr: Arlwyo a Chaffael
Arlwyo a Chaffael: cyflwyno dulliau arloesol i arlwywyr gaffael bwyd, a gwneud cadwyni cyflenwi lleol yn fwy gwydn a chynaliadwy.
Mae Bwyd Sir Gâr yn ymrwymedig i greu system bwyd lleol iachach a mwy cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin. Wedi’i sefydlu yn 2021, mae’r bartneriaeth fwyd yn ymrwymedig i gryfhau rhwydweithiau bwyd lleol a chreu newid parhaol.
Gydag un cydlynydd rhan-amser a staff ychwanegol sy’n cael eu hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Bwyd Sir Gâr yn fenter sy’n cael ei chynnal gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys grŵp llywio gweithredol gydag aelodaeth traws-sector. Fel yr esbonia Augusta Lewis, cydlynydd Bwyd Sir Gâr, “Mae Bwyd Sir Gâr yn bartneriaeth gydweithredol draws-sector, sy’n dod â sefydliadau’r sector cyhoeddus, partneriaid yn y sector preifat a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i ddatblygu system bwyd lleol mewn ffordd gyfannol.”
Bwyd ar gyfer y plât cyhoeddus
Mae Sir Gaerfyrddin yn gymuned amaethyddol, ond mae hefyd yn un ôl-ddiwydiannol, sy’n wynebu heriau fel diffyg diogeledd bwyd. “Nid yw’r bwyd a gynhyrchir yma bob amser yn cyrraedd y bobl sy’n byw yn y sir,” meddai Carwyn Graves, Cadeirydd Bwyd Sir Gâr. “Fel partneriaeth bwyd, rydym yn gweithio i ailgysylltu prosesau cynhyrchu bwyd a defnydd lleol, yn arbennig mewn sefydliadau cyhoeddus. Ein nod yw sicrhau bod cymaint â phosibl o fwyd a gynhyrchir yn lleol yn cyrraedd ein plant, yr henoed, a’r rhai sy’n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus am eu prydau bwyd.”
Bremenda Isaf: Cryfhau Systemau Cynhyrchu Bwyd Lleol
Mae Bremenda Isaf yn fferm iseldir 100 erw ym mhentref Llanarthne yng nghanol dyffryn Tywi sy’n rhan o ystâd wledig Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r tir cyhoeddus hwn bellach yn cael ei ddefnyddio fel lleoliad treialu ar gyfer menter gyffrous i dyfu llysiau ffres, o ansawdd uchel a fforddiadwy ar gyfer y plât cyhoeddus – ysgolion, cartrefi gofal a chaffis.
“Y Cyngor Sir sy’n berchen ar Bremenda Isaf, ac fel cynllun peilot, mae’r Cyngor wedi penderfynu sefydlu’r fferm fel lle i arbrofi gyda thyfu bwyd i’r gymuned, i gadw’r bwyd sy’n cael ei dyfu mor agos â phosibl at ble mae’n cael ei fwyta,” esbonia Carys Jones, Aelod y Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio.
“Gweledigaeth y cyngor yw bod plant a phobl hŷn yn gallu cael mynediad at fwyd sydd wedi’i dyfu’n lleol – a dyna pam ein bod wedi dechrau ystyried cyflenwi ysgolion a chartrefi gofal yn y sir.”
Ychwanegodd Augusta Lewis: “Rydym yn defnyddio tir cyhoeddus yma yn Bremenda Isaf i dyfu bwyd ar gyfer y plât cyhoeddus a chefnogi tyfwyr drwy eu galluogi i gael mynediad at beiriannau ac rydym yn archwilio cyfleusterau prosesu a chydgrynhoi ar y cyd i symleiddio mynediad at y farchnad.
“Mae caffael cyhoeddus yn ffordd wirioneddol warchodedig a phwerus o gefnogi sector garddwriaeth newydd. Yma yn Sir Gaerfyrddin, gallwn ddefnyddio tir cyhoeddus a chyfleusterau cyhoeddus, er mwyn gallu magu hyder a datblygu’r cadwyni cyflenwi hynny a fydd yn galluogi mwy o fwyd o Gymru i gyrraedd y plât cyhoeddus.”
Mae Carys Jones, Aelod y Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, yn cytuno, gan ychwanegu: “Mae bwyd lleol yn hollbwysig oherwydd drwy broses gaffael leol, gallwn wella deiet ein poblogaeth a darparu dewisiadau bwyd iachach a mwy cynaliadwy.”
Rhan annatod o’r bartneriaeth fwyd
“Mae’r fferm yn rhan annatod o weithgarwch a chyflawni gwaith partneriaethau bwyd,” meddai Alex Cook, Rheolwr Datblygu Systemau Bwyd yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin. “Oherwydd yma yn Bremanda Isaf, rydym yn tyfu, rydym yn cynhyrchu bwyd ac rydym yn darparu cyfle i gydgrynhoi sy’n cyd-fynd yn dda â llawer o’n gwaith i ddatblygu bwydlenni mewn ysgolion ac adeiladu ar flynyddoedd o waith hyd yma gan y bartneriaeth a’i phartneriaid.
“Y camau nesaf i ni yma ar y fferm yw cynyddu’r hyn a gynyrchir i raddfa lawer mwy na maint cae, galluogi tyfwyr eraill i ddefnyddio’r uned brosesu fel hyb cydgrynhoi, ond hefyd datblygu rhywfaint o’r seilwaith er mwyn galluogi mwy o grwpiau cymunedol, grwpiau presgripsiynu iechyd a llesiant i gael eu sefydlu drwy ardd gymunedol newydd, a fydd yn gweithredu fel math o fodel rhandir modern”
Tyfu yn Bremenda Isaf
Y tymor diwethaf, tyfwyd amrywiaeth eang o gnydau yn Bremenda Isaf, gan gynnwys tomatos, ciwcymbrau, brocoli, ysgewyll, moron, ffenigl, a mwy. Eleni, mae’r fferm yn bwriadu gwthio’r ffiniau gyda chnydau cynnar a chynhyrchu ar raddfa fwy.
Mae Piers Lunt, Prif Dyfwr Bremenda Isaf yn credu, drwy dyfu llysiau’n dda iawn, ar ddarn o dir cymharol fach, y gallwch ddangos beth sy’n bosibl mewn ardal fel Cwm Tywi.
“Mae’n bwysig iawn gallu cael bwyd tymhorol, organig, maethlon ar y plât cyhoeddus am lawer o resymau, gyda’r holl fanteision iechyd a ddaw yn sgil hynny,” ychwanega Piers. “Rydym yng nghanol argyfwng natur a hinsawdd, ac mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella bioamrywiaeth ar ffermydd yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr. Ac yna, dros amser, gallwn wahodd pobl i’r fferm a dangos iddynt sut beth yw gwella bioamrywiaeth.”
Bwyd Lleol i fusnesau lleol
Mae The Warren, bwyty tymhorol ac organig yng Nghaerfyrddin, yn gefnogwr brwd y mudiad bwyd lleol. Mae’r perchennog, Deri Reed hefyd yn rhedeg Cegin Hedyn, prosiect cymunedol sy’n cynnig model talu-beth-allwch-chi-ei-fforddio am fwyd organig tymhorol, lleol.
“Mae cael cynnyrch o ffynonellau lleol yn ganolog i’n gwerthoedd,” meddai Deri Reed. “Mewn economi fyd-eang, mae’n gynyddol anodd dod o hyd i dyfwyr llysiau lleol. Bremenda Isaf yw’r agosaf sydd gennym, ac mae maint y fferm yn ein galluogi i ddibynnu arni am gynnyrch cyson, ffres. Mae’r ymrwymiad i arferion tyfu cynaliadwy, cyfeillgar i natur yn cadw arian yn lleol a chynnig blas arbennig a ffresni ar yr un pryd.”
Edrych i’r Dyfodol
Wrth i Bwyd Sir Gâr barhau i dyfu, mae’r weledigaeth yn glir: datblygu system fwyd leol gynaliadwy a gwydn sy’n gwasanaethu’r gymuned a’r amgylchedd. Drwy gefnogi systemau cynhyrchu bwyd yn lleol, cynyddu’r cyflenwad a gweithio gyda’r gwasanaethau caffael ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, mae’r bartneriaeth bwyd lleol yn helpu i greu dyfodol lle mae bwyd iach, lleol ar gael i bawb.
Gwyliwch ffilm sy’n esbonio mwy isod.