Bwyd Powys: Bwyd ar gyfer y Blaned
Bwyd ar gyfer y Blaned ym Mhowys: Mynd i’r Afael â’r Argyfwng Hinsawdd a Natur drwy Fwyd a Ffermio Cynaliadwy
Wedi’i lansio ym mis Mawrth 2022, mae Bwyd Powys yn ceisio darparu Bwyd Da i Bowys, a chefnogi bwyd iach lleol a chynaliadwy i gymunedau a’r amgylchedd. Mae gan y bartneriaeth bedwar nod clir ac mae hefyd yn annog pawb i ymuno â’i Siarter Fwyd, sy’n hybu arferion bwyd cynaliadwy ar draws y sir. Mae eu gwaith yn ymestyn o dref Aberhonddu yn y de i’r Drenewydd yn y gogledd, gan greu effaith ar bob cymuned ar draws y rhanbarth gwledig helaeth hwn.
Mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd drwy Systemau Bwyd Cynaliadwy
Mae Bwyd Powys yn ymrwymedig iawn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur drwy ganolbwyntio ar gynhyrchu a bwyta bwyd cynaliadwy. Esboniodd Richard Edwards, Cadeirydd Bwyd Powys, bod gweithio gyda llawer o bartneriaid yn eu galluogi i gysylltu â gwahanol brosiectau o dan themâu penodol, fel Bwyd ar gyfer y Blaned, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd gyda datrysiadau sy’n gysylltiedig â bwyd.
Prosiectau Allweddol sy’n Gwneud Gwahaniaeth
Ffermydd y Dyfodol
Un o’r mentrau mwyaf y mae Bwyd Powys yn gysylltiedig â hi yw Ffermydd y Dyfodol, sy’n helpu tyfwyr newydd i ddechrau arni. Fel rhan o’r prosiect mae fferm sirol 36 erw yn cael ei rhannu’n dair uned 8 erw a’i chynnig i dyfwyr lleol, gan roi tir a seilwaith iddynt dyfu bwyd. Bydd y tyfwyr newydd hyn yn cyflenwi’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a byddant yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd caffael lleol eraill i’w cyflenwi i’r sector cyhoeddus.
Fel yr eglura Lydia, un o’r tyfwyr, “Rydyn ni’n tyfu cyn lleied o’r ffrwythau a’r llysiau sy’n cael eu bwyta yng Nghymru ac mae hynny’n golygu bod y cynnyrch hwnnw’n dod o wledydd eraill…o bob cwr o’r byd ac ar yr un pryd, mae llawer o’r bwyd rydyn ni’n ei gynhyrchu yng Nghymru yn cael ei gludo i lefydd eraill, felly mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd ac mae angen i ni feddwl o ble mae ein bwyd yn dod ac i ble mae’n mynd….a cheisio tyfu bwyd yma sy’n mynd i fwydo’r bobl sy’n byw yma.”
Mae’r bartneriaeth hefyd wedi helpu i ariannu seilwaith allweddol fel twnelau polythen i helpu’r tyfwyr gyda’u costau sefydlu cychwynnol.
Mae Tilly, tyfwr arall, yn gwerthfawrogi’r ffocws lleol, gan ddweud, “Mae gennym dir gwych ar gyfer tyfu…ac mae cael cadwyni cyflenwi llai yn bwysig iawn ac rydym yn gobeithio gallu bwydo pobl leol yn uniongyrchol. Mae hefyd yn bwysig cadw gwybodaeth a sgiliau lleol wrth dyfu bwyd.”
Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Bwyd Lleol
Er mwyn helpu i gludo bwyd yn gynaliadwy, mae Bwyd Powys wedi gweithio gyda Dial a Ride y Drenewydd i sicrhau cyllid ar gyfer bws mini trydan. Bydd hyn yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl a bwyd, ac yn lleihau ôl-troed carbon wrth ddosbarthu bwyd lleol, yn ogystal â galluogi pobl i gysylltu â chymunedau lleol.
“Os oes gennym ni’r holl lysiau newydd yma sy’n cael eu symud o gwmpas, gyda rhywfaint ohonynt yn mynd i’r sector cyhoeddus gobeithio, a rhywfaint yn mynd i mewn i’r economi leol hefyd, i siopau, busnesau lletygarwch, bocsys llysiau, yna mae angen trafnidiaeth arnom ni ar gyfer hynny hefyd.,” Richard Edwards.
Llwybrau Bwyd Lleol
Mae Bwyd Powys yn y broses o adfywio llwybrau bwyd lleol er mwyn i gynhyrchwyr allu arddangos eu cynnyrch a gall preswylwyr lleol ac ymwelwyr gael mwy o wybodaeth am y bwyd lleol y gallent ei fwynhau, gan helpu i gadw arian yn yr economi leol a chreu budd i’r amgylchedd hefyd.
Mae Ifor Humphreys yn un o’r cynhyrchwyr sy’n gobeithio cymryd rhan fel ffordd i rannu ei stori am ei ddulliau ffermio sy’n ystyriol o natur a’r cig eidion wagyu wedi’i besgi ar borfa yn lleol y mae’n ei gynhyrchu yng ngogledd y sir:
“Rydyn ni’n cynhyrchu digon o silwair yma yn yr haf i bara dros y gaeaf, a dyna beth maen nhw’n ei fwyta gan fwyaf. Rydyn ni hefyd yn ychwanegu haidd a gwenith o’r fferm gyfagos i’r stoc ifanc a’r gwartheg pesgi sy’n dod o fferm gyfagos dros yr allt – gan ddefnyddio cynnyrch lleol a chwtogi ar y milltiroedd bwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r cig eidion Wagyu sy’n cael ei werthu yn y DU yn dod o Awstralia neu Dde America, felly rydyn ni’n ceisio gwneud rhywbeth arbennig drwy gynhyrchu’n lleol yma.”
Prosiect Teithiwr Amser
Mae Bwyd Powys yn gweithio mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn awr ar y Prosiect Teithiwr Amser, sy’n defnyddio bwyd i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn newid hinsawdd. Mae’r prosiect yn mynd â’r bobl ifanc yn ôl mewn amser i archwilio dulliau cynhyrchu bwyd yn y gorffennol a’u cymharu â’r arferion heddiw.
Fel yr esbonia Eleanor Greenwood, hwyluswr y prosiect, “Mae bwyd yn bwnc defnyddiol iawn i drafod newid hinsawdd a’i effaith ar fwyd oherwydd mae’n cwmpasu popeth. Pan fyddwn yn edrych ar gynhyrchu bwyd ym Mannau Brycheiniog, rydym hefyd yn edrych ar greu swyddi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ar gyfer y genhedlaeth nesaf a fydd yn gallu aros a chyfrannu at y gymuned a’r dirwedd arbennig hon. Mae hefyd yn ffordd o ganolbwyntio ar yr heriau y mae’r parc cenedlaethol yn eu hwynebu; sy’n cynnwys yr hinsawdd, natur, afonydd, pobl a lle.”
Cydweithio ar gyfer Dyfodol Cryfach
Drwy gydweithio, gall Bwyd Powys uno syniadau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i wella prosiectau presennol a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd.
Fel y dywedodd Richard Edwards: “I mi, y peth gorau am fod yn rhan o bartneriaeth bwyd yw’r syniadau…clywed am sefydliadau eraill a darganfod ein bod i gyd ar yr un daith gyda’n gilydd. Yn y gorffennol, roedd syniadau ac roedd pobl yn eu datblygu, ond nid oeddynt gyda’i gilydd mewn un lle. Gallwch wneud cymaint mwy gyda’ch gilydd nag y gallwch chi ar wahân.”
Gwyliwch y fideo sy’n cydfynd â’r astudiaeth achos isod.