Mynd i'r cynnwys

Bwyd Caerdydd: Llywodraethu a Strategaeth

Bwyd Caerdydd: mabwysiadu dull strategol a chydweithredol o lywodraethu a gweithredu mewn perhynas â bwyd da.

Mae trawsnewid diwylliant a system fwyd rhywle yn galw am ddull gweithredu strategol cydlynus a chydweithrediad hirdymor rhwng unigolion a sefydliadau ar draws pob sector a lefel – o grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i fusnesau a chyrff cyhoeddus.

Ers i Bwyd Caerdydd, partneriaeth bwyd y ddinas, gael ei sefydlu ddeng mlynedd yn ôl, mae wedi cydweithio’n gyson gydag ystod eang o randdeiliaid ac mae eu Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddiweddar yn dyst i lwyddiant y bartneriaeth wrth ddod â sectorau ynghyd i ysgogi newid ystyrlon a strategol yn system fwyd y brifddinas.

Wedi’i chydlynu gan Pearl Costello, mae partneriaeth Bwyd Caerdydd yn gweithredu drwy gydlynu, strategaeth a gweithrediad, a oruchwylir gan y Bwrdd Strategaeth. Mae’r Bwrdd hwn yn cynnwys aelodau craidd o sefydliadau fel Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau’r trydydd sector a gweithwyr proffesiynol a dinasyddion sy’n rhan o’r mudiad bwyd cynaliadwy lleol.

Mae’r bartneriaeth ehangach yn cynnwys 250 a mwy o aelodau sy’n cynnwys busnesau, sefydliadau cymunedol ac unigolion. Gyda’i gilydd, mae eu hymdrechion ar yn cyd-fynd â’r Strategaeth Bwyd Da, a ddatblygwyd ar y cyd i lywio nodau hirdymor cynaliadwyedd bwyd a mynediad at fwyd y ddinas.

Mae Bwyd Caerdydd hefyd yn cydlynu is-grwpiau fel Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd sy’n cynnwys bron i 30 o brosiectau bwyd cymunedol lleol. Mae Cydweithfa Fwyd Gymunedol Caerdydd yn cyflwyno llais cyfunol dros newid i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd; ac yn gweithio ar y cyd i gyflawni prosiectau, er enghraifft ar sicrhau ffynonellau cadarn o gyflenwadau bwyd.

“Rwy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod holl elfennau gwahanol y bartneriaeth yn cydweithio,” meddai Pearl.  “Y syniad yw, drwy’r haenau gwahanol hyn, o’r prosesau cydlynu i’r rhai strategol i’r rhai gweithredol, ein bod yn creu mudiad bwyd da ar draws y ddinas sy’n cyrraedd cannoedd o filoedd o bobl.”

Cenhadaeth a Strategaeth

Yr hyn sy’n ganolog i lwyddiant Bwyd Caerdydd yw ei strategaeth glir sydd wedi’i siapio gan breswylwyr Caerdydd, gyda’r nod o gyflawni anghenion y cymunedau amrywiol sy’n rhan o’r ddinas. Mae’r bartneriaeth wedi datblygu Strategaeth Bwyd Da  map trywydd ar gyfer trawsnewid systemau bwyd y ddinas drwy gydweithio, cynhwysiant a chynaliadwyedd – yn ogystal â’r pum Nod ar gyfer Bwyd Da sy’n allweddol ar gyfer cyflawni newid.

“Mae gwaith y Bwrdd Strategaeth a phartneriaeth bwyd ehangach Caerdydd wedi’i lywio gan ein strategaeth bwyd da, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â dinasyddion a sefydliadau o bob rhan o Gaerdydd,” eglurodd Pearl.

“Heb bartneriaeth fwyd yng Nghaerdydd, rwy’n gwybod y byddai llawer o waith gwych yn digwydd drwy lawer o wahanol bobl a sefydliadau, oherwydd mae cymaint o egni a brwdfrydedd ar gyfer sicrhau bod bwyd da ar gael yn y ddinas. Heb y strategaeth a’r weledigaeth honno, mae’n debygol y byddem wedi gweld llawer mwy o ddyblygu, ni fyddem yn gweld cymaint o effaith o ran pobl yn cydweithio ac yn creu pethau sy’n fwy na chyfanswm eu rhannau.”

Cydweithredu Strategol ar Draws Sectorau

Cydweithredu yw conglfaen model Bwyd Caerdydd.

“Mae cymaint o wahanol brosiectau a gwahanol grwpiau ar draws y ddinas sy’n gwneud pethau gwych, ond mae angen ffordd i ddod â’r holl leisiau a phrosiectau hyn at ei gilydd er mwyn sicrhau nad yw pobl yn gweithio ar eu pen eu hunain,” meddai Jane Cook, cynghorydd llawrydd cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol ac aelod o’r Bwrdd Strategol.

Mae Jane wedi byw yng Nghaerdydd ar hyd ei hoes ac mae’n teimlo’n gryf am fod yn rhan o fudiad sy’n gwneud gwelliannau amlwg i system fwyd y ddinas.  Fel rhywun sy’n ymddiddori’n fawr mewn cynaliadwyedd ac amgylcheddau trefol, mae’r profiad o weithio’n strategol yn y bartneriaeth yn rhoi boddhad mawr iddi er mwyn pwysleisio’r newid cadarnhaol yng Nghaerdydd.

“Mae bod yn rhan o’r bwrdd strategaeth hwnnw a bod yn rhan o Bwyd Caerdydd yn gyffredinol, yn golygu y gallwch ddechrau dod â’r holl elfennau hynny ynghyd a gwneud yn siŵr bod pawb yn dilyn yr un trywydd, neu’n gallu helpu ei gilydd, gan ehangu’r rhwydwaith hwnnw a chynyddu effaith yr hyn y mae pawb yn ei wneud,” esboniodd Jane.

“I mi, mae’n golygu gallu cymryd rhan mewn pethau sydd o ddiddordeb i mi ac sy’n agos at fy nghalon, a theimlo fy mod yn rhan o’r mudiad hwnnw. Rwyf wir yn mwynhau’r ffaith fy mod mewn prifddinas ond fy mod wedi’m cysylltu â’r holl wybodaeth yma, y prosiectau hyn ar fwyd a ffermio. Mae’n teimlo’n anrhydedd cael bod yn rhan o hyn.”

Mae Camilla Lovelace, aelod allweddol arall o’r Bwrdd Strategaeth, yn pwysleisio’r angen am dull gweithredu cyfannol i sicrhau bod gan bobl ar draws y ddinas fynediad at fwyd iach a maethlon sydd wedi’i gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy.

“Os ydym am gael effaith fawr ar fwyd – y bwyd mae pobl yn ei fwyta – mae angen i ni feddwl yn strategol. Mae angen i ni gysylltu popeth er mwyn gweld y darlun mawr,” meddai Camilla.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig bod y GIG yn rhan o hyn, mae gennym grwpiau cymunedol, mae gennym y sector preifat, mae gennym yr awdurdodau lleol. Ac mae angen synergedd gan bawb i gydweithio i greu’r newidiadau sydd eu hangen.”

Mae’r gydnabyddiaeth a gafodd Caerdydd drwy’r Wobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ategu effeithiolrwydd y dull gweithredu strategol hwn ar draws y ddinas, ac mae Camilla yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesaf ar draws Caerdydd.

“Rwy’n meddwl bod lle i wella bob amser. Mae lle bob amser i fwy o gydweithio. Mae lle bob amser i brosiectau newydd, ac mae lle bob amser i ehangu prosiectau presennol. Ac rwy’n teimlo’n bositif am ddyfodol Bwyd Caerdydd a bwyd yng Nghaerdydd yn cyrraedd y bobl y mae angen iddo eu cyrraedd.”

Arbenigedd Deieteg ar Waith

Un o gryfderau unigryw Bwyd Caerdydd yw ei fod wedi ymgorffori arbenigedd maetheg a deieteg yn ei weithrediadau. Mae Emma Holmes, Pennaeth Gwasanaethau Maetheg a Deieteg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn gysylltiedig â Bwyd Caerdydd o’r dechrau ac mae’n pwysleisio rôl hollbwysig deietegwyr wrth wireddu egwyddorion bwyd da i holl breswylwyr Caerdydd.

Drwy weithio o fewn y fframwaith strategol a bennwyd gan Bwyd Caerdydd, mae deietegwyr yn gwneud yn siŵr bod eu harbenigedd ar gael i bawb, sy’n galluogi’r bartneriaeth i wneud gwahaniaeth ystyrlon.

“O’m rhan i, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod deietegwyr yn rhan o hyn…oherwydd mae gennym y wybodaeth a’r arbenigedd deietegol, ond rydym yn gallu eu trawsnewid yn negeseuon real, bob dydd, y gallwn eu cynnwys yn strategaeth Bwyd Caerdydd” meddai Emma.

Drwy fentrau fel Sgiliau Maeth am Oes a Bwyd a Hwyl, mae Emma a’i chydweithwyr yn gwneud yn siŵr bod preswylwyr yn gallu cael mynediad at gyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chyngor ymarferol ar wneud dewisiadau bwyd iachach.

“Mae gennym raglenni gwaith ar addysg maeth a gallwn sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu cael mynediad atynt. Ond hefyd, mae’n ymwneud â sut rydym yn gweithio gydag unigolion, gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i wneud yn siŵr bod y negeseuon hynny yr ydym yn eu rhannu yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol, yn glir, yn syml ac yn hawdd i bobl eu deall.”

Mae Emma’n mynd ymlaen i bwysleisio’r ffaith bod cydweithredu yn hollbwysig. “Mae bwyd yn berthnasol i bawb, ac ni all unrhyw sefydliad neu grŵp unigol wneud hyn ar eu pen eu hunain. Mae gormod o agweddau iddo, felly mae’n rhaid inni ddod at ein gilydd i alluogi hynny i ddigwydd.”

Y Strategaeth Fwyd ar waith

Un o brosiectau blaenllaw presennol Bwyd Caerdydd yw’r Cerdyn Planed, menter sy’n ceisio sicrhau bod ffrwythau a llysiau iach, sy’n ystyriol o’r blaned yn fwy hygyrch a fforddiadwy i bawb – yn arbennig pobl ar incwm isel neu sy’n wynebu anghydraddoldebau iechyd. Mae’r Cerdyn Planed yn brosiect peilot, a gynhyrchwyd ar y cyd gan ddinasyddion a ffermwyr ac sy’n cael ei arwain yn awr gan dîm sy’n cynnwys Marchnadoedd Ffermydd Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Bwyd Caerdydd.

Mae’r Cerdyn Planed yn cynnig gostyngiadau ar gynnyrch organig ym Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd a chafodd ei greu i fynd i’r afael â diffyg diogeled bwyd ac i wella mynediad at opsiynau bwyd iach, cynaliadwy i bobl ar incwm isel.

“Mae’r Cerdyn Planed yn un enghraifft o sut y gallwn ddarparu bwyd organig i fwy o bobl, drwy gydweithrediad strategol. Ni fyddai’r fenter hon wedi bod yn bosibl heb fewnbwn a chefnogaeth ein partneriaid amrywiol,” meddai Pearl.

Yn ogystal â’r Cerdyn Planed, mae Bwyd Caerdydd yn parhau i archwilio prosiectau newydd, adnewyddu partneriaethau presennol ac ehangu ei effaith. Adnewyddir aelodaeth y Bwrdd Strategaeth yn flynyddol, gan alluogi syniadau a safbwyntiau newydd i arwain gwaith y bartneriaeth.

Y Dyfodol

Er bod gan Gaerdydd bellach statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae Bwyd Caerdydd wedi ymrwymo i ddwysáu’r cydweithredu ar draws sectorau, ehangu mentrau llwyddiannus, ac archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer newid cadarnhaol. Gyda’i sylfaen gref a momentwm cynyddol, mae Bwyd Caerdydd mewn sefyllfa dda i barhau i drawsnewid systemau bwyd y ddinas a sicrhau bod bwyd da yn dod yn realiti i holl breswylwyr Caerdydd.

Gwyliwch y fideo sy’n cydfynd â’r astudiaeth achos isod.