Mynd i'r cynnwys

Bwyd Abertawe: Datblygu Mudiad Bwyd Da

Creu Mudiad Bwyd Da yn Abertawe : cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o fwyd, grymuso dinasyddiaeth bwyd lleol a chynyddu momentwm mudiadau bwyd da lleol.

Mae creu symudiad tuag at fwyd iachach a mwy cynaliadwy yn gofyn am fwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus a chyfranogiad gweithredol gan unigolion a sefydliadau. Mae’n ymwneud â datblygu mudiad o ddinasyddion bwyd drwy gyfathrebu ysbrydoledig; digwyddiadau sy’n amlygu pwysigrwydd bwyd da a’r pleser a ddaw ohono; cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ymarferol fel tyfu, coginio a rhannu bwyd; a datblygu rhwydwaith cryf sy’n cysylltu grwpiau sy’n ymwneud â bwyd.

Mae Bwyd Abertawe yn enghraifft wych o sut y gall mudiad bwyd cryf rymuso unigolion a chymunedau i greu newid ystyrlon yn y system fwyd.

Mae’r bartneriaeth yn rhychwantu rhanbarth amrywiol, o ddinas brysur Abertawe i arfordir garw Penrhyn Gŵyr ac fel aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, derbyniodd wobr efydd yn 2024 am ei gwaith ar draws y rhanbarth. Hyd yma, mae gan Bwyd Abertawe 600 a mwy o aelodau, gan gynnwys unigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol, gyda phawb yn cydweithio i hyrwyddo systemau bwyd cynaliadwy yn Abertawe.

Y Mudiad Bwyd Da

“Mae ein mudiad bwyd da yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y boblogaeth o fanteision bwyd cynaliadwy – iddyn nhw, yr economi leol, yr amgylchedd – a deall hefyd sut y gallant gysylltu â’r system bwyd cynaliadwy fel asiantau dros newid,” meddai Mary Duckett, cydlynydd Bwyd Abertawe.  “Dyma sy’n gwneud mudiad bwyd da yn fy marn i – ein bod i gyd yn cymryd rhan, ac yn wirioneddol fwynhau hyfrydwch system fwyd gynaliadwy.”

“I Abertawe, mae’n bwysig iawn annog dinasyddion a sefydliadau i gymryd rhan….deall manteision bwyd cynaliadwy – a phan rydym yn cyfeirio at fwyd cynaliadwy, rydym yn golygu symud oddi wrth system argyfwng bwyd i un sy’n cyd-fynd yn well â’r tymhorau, system â gwerth maethol gwell, ac sydd felly’n well i’n llesiant ni ein hunain, yr economi leol a’r amgylchedd.”

Iechyd a Llesiant
Un o’r ffyrdd mae Bwyd Abertawe wedi bod yn datblygu’r momentwm hwn yw drwy weithio gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (SCVS) i gynnig cyrsiau yn y gymuned.

“Mae cael y cysylltiad hwn gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau yn hollbwysig i fudiad bwyd da, ac mae’r Cyngor gwirfoddol yn gyfrwng gwych ar gyfer hynny, er mwyn i ni allu helpu i godi ymwybyddiaeth o’r mudiad bwyd cynaliadwy ar lefel gymunedol, gan ymgysylltu â’r holl wahanol bobl o wahanol gefndiroedd a rhannau o Abertawe,” ychwanegodd Mary.

Mae Arron Ring o SCVS yn cynnal rhaglenni iechyd a llesiant yn Abertawe ac mae hefyd yn cynrychioli’r trydydd sector ar grŵp llywio Bwyd Abertawe.

“Rwy’n cynnal rhaglen chwe wythnos ar goginio a maeth, gan ddatblygu sgiliau coginio yr un pryd, a hybu maeth da yn unol â chanllawiau’r llywodraeth,” meddai Arron. “Mae’r bobl sy’n mynychu’r cwrs yn dod o’r gymuned leol yng Ngorseinon a Gogledd-orllewin Abertawe, sydd wedi cyfeirio eu hunain at y prosiect neu sydd wedi cael eu cyfeirio ato drwy eu meddyg teulu lleol, ac maen nhw eisiau rhywfaint o gymorth i wella eu maeth a’u ffordd iach o fyw yn gyffredinol, gan ddatblygu sgiliau coginio a gwneud newidiadau cynaliadwy.

“Rydym yn ceisio teilwra ein rhaglenni cymaint â phosibl i weddu i anghenion pobl,” esbonia Arron. “Rydym yn dueddol o ddechrau ar lefel sylfaenol, gan ganfod beth mae pobl ei eisiau ac yna creu prydau bcyflym, hawdd y gall pobl eu haddasu, gan ddefnyddio gwahanol gynhwysion, a defnyddio beth bynnag sydd ganddyn nhw….yn syml iawn rydym yn ceisio gwneud newidiadau bach a all gael effaith hirdymor ar eu hiechyd a’u llesiant.”

Cyfleoedd gwirfoddoli

Mae Bwyd Abertawe wedi bod yn gweithio gyda’r tîm yng Nghae Tân i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli i ddinasyddion ar hyd a lled Abertawe.

“Mae Cae Tân yn enghraifft o arweinydd gwirioneddol ym maes Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned yng Nghymru ac yn wir yn y DU ac mae wedi llwyddo i ymgysylltu’n wych gyda’u cwsmeriaid eu hunain. Rydym wedi ymuno â nhw i sicrhau bod dinasyddion ardaloedd trefol Abertawe, yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio gan incwm isel, er enghraifft, yn cael profiadau o dyfu bwyd yn y lleoliadau gwledig hyn,” esbonia Mary Duckett.

Mae Eva Walter Jones, y Prif Dyfwr yng Nghae Tân wedi mwynhau’r cyfle i weithio gyda Mary a’r tîm.

“Mae Bwyd Abertawe wedi ein galluogi i gynnwys mwy o bobl yn y broses o dyfu bwyd a’r system fwyd – ac i ni mae hyn wedi golygu llawer o bobl yn dod o ganol dinas Abertawe; ac nid yw rhai ohonynt erioed wedi gadael y ddinas, doedden nhw’n gwybod dim am dyfu bwyd felly, gall fod yn dipyn o sioc!”

Mae Eva’n esbonio hefyd rai o’r gweithgareddau a gynigiwyd ganddynt drwy eu cydweithrediad gyda’r bartneriaeth fwyd.

“Bydd y gwirfoddolwyr yn gwneud pob math o dasgau, o hau hadau a phlannu i gynaeafu. Mae’n dibynnu i raddau helaeth ar y gwirfoddolwyr eu hunain a lefel eu sgiliau, a pha waith sydd gennym i’w wneud ar y diwrnod – ond yn sicr un dasg fawr i ni yw cynaeafu. Rydym yn ceisio cynnwys ein gwirfoddolwyr yn y gwaith cynaeafu, oherwydd rwy’n credu ei bod yn dasg bleserus iawn i bobl ei gwneud – gallu gweld ffrwyth eu llafur, a chynaeafu llysiau hyfryd, a mynd â rhai ohonynt adref gyda nhw ar ddiwedd y dydd.”

Datblygu perthnasoedd ystyrlon mewn mannau gwyrdd

Mae Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Wales) yn darparu cyfle i bobl lleiafrifoedd ethnig gyflawni eu potensial drwy raglenni cyfannol, wedi’u targedu, sy’n ddiwylliannol sensitif sy’n cwmpasu addysg, cyflogaeth, addysg, diogelwch a chydlyniant cymunedol.

Yn Abertawe, mae’r tîm EYST wedi gweithio gyda’r bartneriaeth fwyd i gynnig gweithgareddau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â bwyd ar draws y ddinas, gan gynnwys gwirfoddoli yng Nghae Cae Tân.

“Dywedodd ein gwirfoddolwyr yn EYST bod angen y cysylltiad hwn â’r amgylchedd gwledig arnynt,” meddai Najma Ali, cydlynydd gwirfoddolwyr yn EYST.  “Dechreuais chwilio am ddulliau eraill i ddarparu’r cysylltiad hwnnw a dyna pryd y dechreuodd ein perthynas â Bwyd Abertawe.  Fe wnaethom ddechrau cysylltu â’n gilydd ac un o’r prosiectau oedd prosiect tyfu llysiau ar Benrhyn Gŵyr. Rhoddodd hyn gyfle i’n gwirfoddolwyr ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli eraill, ond gan deimlo cysylltiad â’r amgylchedd ar yr un pryd.”

Yn ogystal ag ysu am le gwyrdd, roedd y rhai a fu’n gwirfoddoli yng Nghae Tân drwy EYST yn chwilio am gysylltiad dyfnach â bwyd.

“Roedd llawer o’n gwirfoddolwyr yn chwilio am y math hwnnw o gyfle, i allu ymlacio a chael heddwch yn eu bywyd bob dydd ….dywedodd y rhan fwyaf ohonynt fod hyn yn gwella eu llesiant a’u bod yn chwilio am rywbeth mwy. Felly, edrychais ar brosiectau eraill a sut i’w cysylltu â’r rhain,” meddai Najma. “Fe wnaethon nhw ailgysylltu â chynnyrch ffres, a dechrau tyfu eu bwyd eu hunain. Mae hynny ynddo’i hyn yn destament i’r gwaith positif a gychwynwyd gan y prosiect – yn arbennig os edrychwch ar y gwirfoddolwyr rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn EYST – maen nhw’n chwilio am y cysylltiad hwnnw. Maen nhw wedi dod i ardal lle nad oes ganddyn nhw deulu, does ganddyn nhw ddim teulu estynedig. Maen nhw’n chwilio am y cysylltiad dynol hanfodol hwnnw.”

Busnesau lleol fel rhan o’r Mudiad Bwyd Da

 Mae Bwyd Abertawe hefyd yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, yn annog cadwyni cyflenwi byr ac yn hyrwyddo cynnyrch lleol.

“Rwyf bob amser yn dweud, ochr yn ochr â’r pridd, mai ffermwyr yw conglfaen ein system fwyd felly, yn amlwg, mae angen cynnwys ffermwyr mewn rhwydwaith bwyd cynaliadwy,” ychwanega Mary.  “Ac enghraifft dda iawn yw Alison yn Gower Coast Meats.”

Mae Alison Groves, perchennog Gower Coast Meat, yn magu ei gwartheg ar Gomin Fairwood ar Benrhyn Gŵyr ac mae’n gwerthu ei chig cynaliadwy ar draws y rhanbarth.

“Rydym yn pori ein gwartheg yma, yna rydym yn cynhyrchu cig eidion ac yn ei werthu’n lleol,” meddai Alison.  “Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni geisio cael cefnogaeth gan bobl leol, i gefnogi busnesau lleol. Os wyf yn chwilio am unrhyw beth, rwy’n ceisio dod o hyd i bethau’n lleol. Mae hynny’n well; mae’n gynaliadwy, llai o filltiroedd bwyd.”

Mae Alison yn edrych ymlaen at weithio gyda Bwyd Abertawe i godi ymwybyddiaeth o fusnesau bwyd cynaliadwy sy’n gweithredu ar draws y rhanbarth.

“Drwy weithio gyda Bwyd Abertawe, mae pobl yn dod i glywed amdanom felly gallwn gynnig ein cynnyrch yn lleol i unrhyw un sydd eisiau ei flasu,” ychwanega Alison.  “Os gallwch brynu a chefnogi busnesau lleol; cefnogi teuluoedd, rydych yn ein helpu i wneud ein bywoliaeth. Rydym hefyd yn rhoi cynnyrch da i chi hefyd, yn hytrach na chynnyrch sydd wedi teithio o wlad arall ar draws y byd.”

Newid mewn ymwybyddiaeth
Mae Aaron Ring yn crisialu beth yw hanfodion mudiad bwyd da: “Mae’n digwydd o’r ddaear i fyny…..y broses gyfan o ddeall a dysgu mwy am fwyd a sut y gallwn fwyta mewn ffordd sy’n fwy cynaliadwy ac iach. Rwy’n credu mai’r peth mwyaf buddiol i Abertawe gyfan yw cysylltu sefydliadau a phobl…mae’n ein galluogi i ddod i adnabod sefydliadau yn well a gallu eu gwasanaethu’n well, oherwydd bod gennym ddealltwriaeth well o beth sy’n digwydd.”

Gwyliwch y fideo sy’n cydfynd â’r astudiaeth achos isod.