Trydedd Gŵyl Flynyddol yr Hydref Bwyd Da Caerdydd i ddangos ysbryd cymunedol drwy fwyd
Bydd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd yn dychwelyd rhwng 10 Medi a 18 Hydref gyda dwsinau o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar draws y ddinas.
Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion, gerddi a busnesau yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau gyda choginio, rhannu a thyfu bwyd yn ganolog iddynt. Bydd nifer o ddigwyddiadau’r hydref hwn yn canolbwyntio ar sut y mae cymunedau’n dod at ei gilydd i helpu pobl i barhau i gael gafael ar fwyd iach a maethlon drwy’r argyfwng costau byw.
Mae Bwyd Caerdydd a C3SC wedi rhoi grantiau i 20 o ysgolion a grwpiau cymunedol i gynnal digwyddiadau fel rhan o raglen Gŵyl yr Hydref, gyda llawer o sefydliadau cymunedol eraill hefyd yn ymuno â digwyddiadau a gaiff eu hariannu ganddyn nhw eu hunain yn ystod y pum wythnos.
Caiff Gŵyl Hydref Bwyd Da ei lansio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar benwythnos 10-11 Medi. Bydd gan yr Ŵyl Ardal bwrpasol Bwyd Da Caerdydd gyda rhaglen o weithdai ac arddangosiadau drwy gydol y ddau ddiwrnod, sy’n cynnwys arddangosiad coginio gan yr awdur, y cyflwynydd a’r deietegydd cofrestredig, Beca Lyne-Pirkis, tyfu bwyd a gweithdai bywyd gwyllt gan Cadwch Gymru’n Daclus a Grow Cardiff.
Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw, bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar gael gafael ar fwyd iach a maethlon. Bydd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn dathlu’r gwaith y mae grwpiau cymunedol yn ei wneud ledled Caerdydd a darperir bysiau i helpu pobl na allant gael gafael ar gludiant i ymuno yn yr Ŵyl.
Mae cydweithfa fwyd sydd wedi’i lleoli yn Sblot, Splo-down yn cynnal Gwledd Undod ar 25 Medi. Maen nhw’n darparu bocsys llysiau a mathau eraill o fwyd a diod ar ‘fodel undod’ – maen nhw’n prynu swmp i gadw costau’n isel, wedyn yn gwerthu ar y sail bod rhai pobl yn talu mwy ac eraill yn talu llai am yr un bwyd, yn dibynnu ar faint o fodd sydd ganddynt. Bydd y Wledd Undod yn bryd cymunedol a gaiff ei gynnal ym Mharc Sblot gyda phobl yn coginio gyda chynhwysion o focsys bwyd Splo-down a ryseitiau sydd wedi’u darparu iddynt. Mae Splo-down yn helpu pobl ar incwm isel, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl nad oes ganddynt gefnogaeth arall yn Sblot, Tremorfa ac Adamsdown.
Mae CEYZ, sefydliad sy’n cefnogi pobl ifanc yn Nhrelái a Chaerau yn cynnal Edrych, Coginio a Bwyta!, sef digwyddiad cyd-goginio i deuluoedd â phlant oed ysgol gynradd. Bydd y digwyddiad yn seiliedig ar gynhwysion y gellir dod o hyd iddynt yn lleol ac yn cynnwys ffrwythau a llysiau sydd wedi pasio eu dyddiad ‘gwerthu erbyn’ i ddangos y gellir lleihau gwastraff bwyd drwy ddefnyddio cynnyrch sy’n dal yn dda i’w fwyta. Bydd y sesiwn yn cyflwyno ffrwythau a llysiau newydd (edrych), yn dangos i bobl sut i baratoi’r cynhwysion (coginio) ac yna’n dod â phawb at ei gilydd am bryd a gaiff ei rannu (i fwyta!).
Bydd Llamau yn cynnal nosweithiau bwyta’n iach a choginio yn ei brosiect llety â chymorth newydd i bobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar thema Ffecawê iach o bob cwr o’r byd. Bydd gweithwyr cymorth a’r bobl ifanc yn ymchwilio i ryseitiau ar gyfer eu dewis o fwyd – Arabia, Americanaidd, Asiaidd ac Eidalaidd – a byddant yn siopa’n lleol cyn coginio a rhannu pryd bob nos Iau yn ystod yr ŵyl. Mae’r rhaglen yn cefnogi sgiliau bywyd allweddol i helpu pobl ifanc i ennill annibyniaeth yn ogystal â helpu i godi hyder a chreu rhwydweithiau cymunedol.
Mae CIC Urban Vertical yn cynnal gweithdai ar safle newydd Gerddi Rheilffordd yn y Sblot, yn addysgu pobl am Ffermio Fertigol – O’r Fferm i’r Fforc. Gall pobl ddysgu sut i dyfu mân lysiau i ychwanegu at eu cyflenwad bwyd arferol. Yn y cyntaf o ddau weithdy, bydd y cyfranogwyr yn dysgu am y syniadau y tu ôl i ffermio fertigol ac yn edrych ar ryseitiau a bwydlenni ar gyfer defnyddio’r cynnyrch. Bydd yr ail weithdy yn swper cynhaeaf cymunedol, a rennir yn Niwrnod Agored Gerddi Rheilffordd ar 12 Hydref.
Mae Grŵp Cymunedol Love Yourself yn dod â menywod o’r gymuned at ei gilydd na fyddai ganddyn nhw le diogel fel arall i gysylltu a rhannu eu hangerdd tuag at goginio. Bydd y menywod yn siopa’n lleol i weini brecinio cymunedol wythnosol yn Butetown sy’n arddangos eu sgiliau coginio ac yn annog eraill i ddefnyddio’r cynhwysion ffres a lleol sydd ar gael yn eu cymunedau eu hunain.
Mae nifer o ysgolion cynradd y ddinas hefyd yn cymryd rhan. Mae Ysgol Gynradd Herbert Thomson yn Nhrelái yn cynnal diwrnod agored yn ei ystafell ddosbarth fwytadwy a siop gymunedol ‘talu fel rydych chi’n teimlo’. Mae ysgol gynradd Eglwys Sant Paul yn Grangetown yn cynnal sesiwn goginio i helpu plant a theuluoedd i wneud dewisiadau iach ar gyfer pecynnau bwyd a choginio gartref. Bydd ysgol gynradd Ton Yr Ywen yn y Mynydd Bychan yn trosglwyddo ei rhandir ysgol i ddisgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn cynaeafu cnydau a phlannu llysiau newydd ar gyfer yn ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol. Bydd Rhandir Pafiliwn Pengam yn croesawu Ysgol Feithrin Tremorfa gyda’i gofod tyfu ei hun ar y rhandir a’u dysgu i blannu a gofalu am blanhigion bwyd.
Cliciwch yma i weld y rhaglen lawn.
Strategaeth Bwyd Da
Mae pob un o’r digwyddiadau hefyd yn cefnogi Strategaeth Bwyd Da Bwyd Caerdydd ar gyfer y ddinas sy’n gosod pum nod bwyd – Caerdydd iach; Caerdydd amgylcheddol gynaliadwy; economi leol ffyniannus; system fwyd deg a chysylltiedig; a mudiad bwyd grymusol.
Pearl Costello yw trefnydd yr ŵyl a chydlynydd Bwyd Caerdydd. Dywedodd:
“Mae gŵyl yr hydref yn gyfle i gymunedau, ysgolion a busnesau lleol ddod at ei gilydd dros fwyd da. Mae’n gyfle i edrych ar sut rydyn ni’n dod yn ddinas iachach a mwy cynaliadwy, a hefyd i gymunedau fynd i’r afael â rhai o’r problemau mawr rydyn ni’n eu hwynebu’n fwy uniongyrchol.
“Mae gwyliau blaenorol wedi targedu materion fel ansicrwydd bwyd, unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn sgil y pandemig. Mae’r problemau hyn yn dal yno, ac maen nhw bellach yn cael eu gwaethygu gan yr argyfwng costau byw. Mae’n hanfodol bod pawb sy’n rhan o’r system fwyd yn y ddinas yn cael cyfleoedd i gyrraedd pobl a chymunedau sydd mewn angen a chael help i gael gafael ar fwyd fforddiadwy, maethlon.
“Mae’r ŵyl yn ddathliad o’r mudiad bwyd da sy’n tyfu yn y ddinas ac, yn bwysicach fyth, yn gyfle i unrhyw un ddysgu mwy am yr hyn maen nhw’n ei fwyta a meithrin eu sgiliau wrth goginio a thyfu bwyd,” meddai.
Dyma drydedd Gŵyl Hydref Bwyd Da Caerdydd a drefnir gan Bwyd Caerdydd i gefnogi a hyrwyddo’r genhadaeth ledled y ddinas i wneud Caerdydd yn un o Ddinasoedd Bwyd Mwyaf Cynaliadwy y Deyrnas Unedig. Mae dros 5,000 o bobl wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau dros wyliau hydref blaenorol, gyda thros 5,000 o blanhigion llysiau wedi’u dosbarthu a channoedd o brydau bwyd wedi’u coginio a’u rhannu.
Os hoffai sefydliadau neu grwpiau cymunedol gynnal digwyddiadau fel rhan o’r rhaglen, gallant gysylltu â Bwyd Caerdydd drwy’r wefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.