Dr Angelina Sanderson Bellamy
Mae Dr Sanderson Bellamy yn Athro Cyswllt Systemau Bwyd yn Adran y Gwyddorau Cymhwysol a’r Ganolfan Ymchwil Biowyddorau ym Mhrifysgol Dwyrain Lloegr (UWE) ym Mryste. Cyn gweithio yn UWE, roedd Angelina yn Uwch Gymrawd Ymchwil a Deon Cyswllt ar gyfer Cynaliadwyedd Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Cadernid Stockholm a Sefydliad Amgylcheddol Prifysgol Stanford Woods.
Mae arbenigedd Angelina yn cwmpasu systemau cynhyrchu bwyd, y bwyd a fwyteir gan aelwydydd, cadwyni cyflenwi byr, defnydd tir a newid yng ngorchudd y tir, cadernid ecolegol a gwasanaethau ecosystem. Mae Dr Sanderson Bellamy yn defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar systemau a lleoedd i ddeall heriau mawr cymdeithas yn enwedig mewn perthynas â’u cysylltiad â’r system fwyd. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd targedau sero net, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â systemau bwyd. Mae angen y newidiadau hyn arnom hefyd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a’r cynnydd mewn diffyg diogeledd bwyd. Dyna pam mae dull sy’n seiliedig ar systemau yn hollbwysig, a dyma’r math o arbenigedd sydd gan Angelina—dealltwriaeth o gymhlethdod y system fwyd a’r angen am newid sy’n cyd-fynd â’r cyd-destun ehangach.
Ar hyn o bryd mae Angelina yn cynghori Llywodraeth Cymru ar weithrediad ei Chynllun Adfer Natur, bu’n arwain ar weithredu’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chynghori ar ddatblygu Strategaeth Un Blaned Dinas Caerdydd (sy’n cynnwys bwyd fel un o’i 6 maes thematig ar gyfer newid). Mae’r profiadau hyn yn sail i’w dull ymarferol o gymryd camau i weithredu strategaethau’n effeithiol.