Synnwyr Bwyd Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru
Mae gan Synnwyr Bwyd Cymru bresenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ar stondin Cymuned + Bwyd + Agroecoleg (rhif safle 860).
Bydd y gofod newydd a chydweithredol hwn yn archwilio cymuned, bwyd ac agroecoleg a bydd yn gartref i nifer o sefydliadau o’r un anian, pob un ohonynt â diddordeb mewn creu system fwyd gynaliadwy i Gymru. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Rhwydwaith Bwyd Agored, Gweithwyr y Tir, y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur a llawer mwy.
Yn ogystal â chynnig arddangosiadau ymarferol, fel gwasgu afalau ac arbed hadau, a gweithgareddau hwyliog i blant, bydd y gofod Cymuned + Bwyd + Agroecoleg hefyd yn cynnig lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau yn ymwneud â pholisi. Bydd y sesiynau hyn yn amrywio o lansio adroddiadau a chyflwyniadau ar ganfyddiadau prosiectau ymchwil, i drafodaethau panel bywiog gydag Aelodau’r Senedd a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru. Darganfyddwch fwy a darllenwch y rhaglen lawn yma.
Mae’r gofod Cymuned + Bwyd + Agroecoleg yn cael ei gydlynu gan Gerddi a Ffermydd Cymdeithasol er mwyn dathlu penllanw ‘Mannau Gwyrdd Gwydn’ – prosiect partneriaeth gwerth £1.27m i dreialu systemau bwyd wedi’u hail-leoli gan ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel yr ysgogiad dros newid ledled Cymru. Nod y gofod yw cynnig cyfle i edrych yn ôl ar y prosiect a’r hyn y mae wedi’i gyflawni yn ogystal â chwrdd â’r gymuned a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda sefydliadau eraill tebyg.
Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar stondin Cymuned + Bwyd + Agroecoleg (safle 860) drwy gydol yr wythnos, cliciwch yma.