Partneriaeth Gwydnwch Bwyd Torfaen: Arian Ar Unwaith
Sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Torfaen ym mis Ionawr 2022, a daeth y Bartneriaeth yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym mis Mehefin 2023. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, erbyn mis Gorffennaf 2024, roedd y bartneriaeth wedi ennill gwobr arian fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n cydnabod gwaith arloesol y sir i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.
Mae cynnydd Partneriaeth Torfaen ers ei sefydlu hyd at ennill gwobr arian arbennig Lleoedd Bwyd
Cynaliadwy wedi bod yn gyflym o fewn amser cymharol fyr. Yn hytrach na dringo ysgol wobrau
Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn raddol, mae Partneriaeth Torfaen wedi llwyddo i fynd yn syth o statws
aelodaeth i’r wobr arian, a hynny heb orfod ennill y wobr efydd yn gyntaf.
Gadewch i ni edrych yn fanylach ar gyflawniadau’r bartneriaeth a sut y mae wedi llwyddo i gyflawni
cymaint mewn cyfnod mor fyr.
Darllenwch yr astudiaeth achos llawn yma: Astudiaeth-Achos-Torfaen-Medi-2024.pdf (foodsensewales.org.uk)