Mis Plannu a Rhannu: Ebrill 20fed – Mai 20fed
Mae Plannu a Rhannu yn ymgyrch mis o hyd sy’n cael ei arwain gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ac sy’n cael ei chynnal ledled y DU sy’n annog pob un ohonom i fynd allan i’r ardd, y rhandir neu’r llain llysiau. Cynhelir yr ymgyrch rhwng Ebrill 20fed a Mai 20fed.
Yn ogystal â helpu cymunedau i ddod at ei gilydd unwaith eto, mae Plannu a Rhannu yn ffordd wych o ailgysylltu â tharddiad ein bwyd, ac i gefnogi ein hamgylchedd.
Dyma sut i gymryd rhan
P’un a ydych yn grŵp cymunedol, yn glwb ar ôl ysgol, yn glwb ieuenctid neu’n grŵp ffydd, beth am gynnal gweithgaredd Plannu a Rhannu?
- Anfonwch wahoddiad at bobl i’ch digwyddiad Plannu a Rhannu
- Plannwch eich hadau – dyma sut i uwchgylchu esgidiau glaw!
- Helpwch yr hadau i dyfu – darllenwch sut yr aeth y grŵp hwn ati i helpu pobl i dyfu bwyd mewn man gwyrdd bach
- Rhannwch yr eginblanhigion, neu’r ffrwythau a’r llysiau! Dwedwch wrth griw Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes gyda phwy y gwnaethoch eu rhannu ar Facebook neu Twitter gan ddefnyddio #FFLGetTogethers
Cymorth ac adnoddau
Gall pawb gymryd rhan – ac mae digon o adnoddau am ddim ar gael i gynnal eich gweithgaredd tyfu nesaf yn llwyddiannus.
- Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Mis Plannu a Rhannu i gael awgrymiadau ar sut i dyfu bwyd
- Ymunwch â’r gymuned ar Facebook i gyfnewid awgrymiadau a syniadau
- Cymerwch ran yn yr hyfforddiant ar-lein am ddim er mwyn rhoi hwb i’ch sgiliau
Digwyddiadau Diogel o ran Covid
I gael y canllawiau diweddaraf ar gynnal digwyddiad diogel o ran Covid, edrychwch ar yr adnodd hwn..
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes.