Mis Coginio a Rhannu
Mis Coginio a Rhannu 2022
Rhwng 16 Hydref a 18 Tachwedd 2022, ymunwch gyda rhaglen Dewch At Eich Gilydd Bwyd Am Oes i ddod â’ch cymuned at ei gilydd i rannu’r pleser o fwynhau bwyd da!
Dechreuodd yr ymgyrch ar Ddiwrnod Bwyd y Byd, sef diwrnod sydd wedi’i neilltuo i sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb. Wrth i fwy o bobl wynebu tlodi bwyd, mae Coginio a Rhannu yn ffordd o ddod at ein gilydd drwy fwyd.
Cofrestrwch eich digwyddiad yma.
Ar hyd a lled y wlad yr hydref hwn bydd grwpiau cymunedol, ysgolion, canolfannau i blant, grwpiau ffydd a mwy wrthi’n brysur yn y gegin yn paratoi bwyd i’w rannu â’i gilydd.
P’un a fyddwch yn cyd-fwyta cyri, yn rhannu brechdanau neu’n pasio pasta o amgylch y bwrdd, mae bwyd yn ffordd wych o chwalu rhwystrau a dod â phobl at ei gilydd. Beth am rannu eich hoff brydau bwyd, eich ryseitiau a’ch atgofion am fwyd hefyd?
- Cofrestrwch am ddim ar y wefan
- Coginiwch bryd, byrbryd, unrhyw beth!
- Rhannwch gyda’ch cymuned
Pecyn cymorth Coginio a Rhannu
Mae adnoddau Coginio a Rhannu am ddim ar gael yma.
I gael blas o’r hyn y gallwch ei wneud, darllenwch am weithgaredd Coginio a Rhannu ‘Bwyd Bendigedig. Llwyddodd i ddod â’r gymuned at ei gilydd i fwynhau cawl cynnes hydrefol a myffins sawrus.