Llywodraeth Cymru’n lansio Ymghynghoriad Amgylchedd Bwyd Iach
Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn a’ch sylwadau ar gynigion i wella’r sefyllfa er mwyn ei gwneud yn haws dewis bwyd iach. Mae’r ymgynghoriad Amgylchedd Bwyd Iach yn archwilio’r camau y gellid eu cymryd i wella’r amgylchedd bwyd yng Nghymru a helpu i sicrhau mai’r dewis iach yw’r dewis hawdd. Mae’n gam gweithredu sy’n deillio o Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion o dan dair thema:
-
- Basgedi Siopa Iachach – newid pwyslais cynigion a marchnata tuag at
ddewisiadau iachach er mwyn gwneud dewisiadau iachach yn fwy
fforddiadwy. - Bwyta’n Iachach y Tu Allan i’n Cartrefi – gwella’r wybodaeth sydd ar gael i ni
wrth fwyta y tu allan i’r cartref ac adeiladu ar lwyddiant y Dreth Siwgr ar
ddiodydd meddal. - Amgylcheddau Bwyd Lleol Iachach – newid y cydbwysedd er mwyn sicrhau
bod ein teithiau dyddiol drwy’r lleoedd rydym yn byw ynddynt yn gallu helpu i
hyrwyddo dewisiadau iach, gan gynnwys archwilio rôl siopau Tecawê Bwyd
Poeth o gwmpas ysgolion.
- Basgedi Siopa Iachach – newid pwyslais cynigion a marchnata tuag at
Sut i ymateb:
Dylech gyflwyno’ch sylwadau erbyn 1 Medi 2022, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:
- Cwblhau ffurflen ar-lein
- Dogfen hawdd ei ddeall
- Lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen ymateb, a’i dychwelyd mewn e-bost neu drwy’r post i’r cyfeiriadau isod:
Y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: PwysauIachCymruIach@llyw.cymru
Darllenwch fwy yma am yr Ymghynghoriad Bwyd Iach yn ogystal â’r cynnig i ddod â gwerthiant diodydd egni i blant o dan 16 oed i ben.
* Gallwch hefyd gofrestru i fynychu digwyddiad rhanddeiliad i drafod y cynigion ddydd Mawrth, Gorffannaf 19eg *
Gweler isod am fanylion pellach: