Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynlluniau Garddwriaethol Newydd
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a’n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth.
Mae’r cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:
- rheoli tir ar raddfa ffermydd; camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein
- gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd; gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
- effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd; helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol
- rheoli tir ar raddfa’r dirwedd; mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy’n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau
- coetiroedd a choedwigaeth; cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi’r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren
- cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio; creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol.
Mae cynlluniau hefyd i gefnogi sector garddwriaeth Cymru:
- Datblygu Garddwriaeth i gynhyrchwyr garddwriaethol presennol – agorodd y cynllun ar y 4ydd o Ebrill 2022 a bydd yn cau 10fed o Fehefin 2022.. Darllenwch fwy yn y llyfryn Canllawiau Datblygu Garddwriaeth
- Cynllun Garddwriaeth – Cychwyn – Cynllun i gefnogi newydd-ddyfodiaid i sector garddwriaeth Cymru. Agorodd y cyfnod datgan diddordeb 25ain o Fai 2022 a bydd yn cau 29ain o Fehefin 2022. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.
- Y Cynllun Troi at Ffermio Organig – Cynllun i gefnogi ffermwyr i droi at ddefnyddio systemau cynhyrchu organig. Mae disgwyl i’r cyfnod datgan diddordeb agor ym mis Gorffennaf
Darllenwch ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru yma a darllenwch yr atodiad sy’n amlinellu’r gwahanol gynlluniau yma. Cewch restr lawn o’r dyddiadau ymgeisio yma.
Am wybodaeth bellach, ebostiwch garddwriaeth@llyw.cymru
Gallwch hefyd ymweld â gwefan Tyfu Cymru am fwy o fanylion.
DIWEDD.