Llysgenhadon Cymru ymgyrch Hawl Plant i Fwyd yn rhannu eu barn ynghylch mynediad plant i fwyd yng Nghymru
Yr wythnos ddiwethaf, yn ystod cyfarfod o grŵp trawsbleidiol Senedd Cymru ar dlodi, anerchwyd y grŵp gan Beth a Fayeth, dau o Lysgenhadon Cymru Hawl Plant i Fwyd, a rhannwyd eu barn a’u gwybodaeth am Dlodi Bwyd a’u profiad ohono, ac yn benodol, prydau ysgol am ddim.
Mae Hawl Plant i Fwyd yn fenter ledled y DU a gydlynir gan y Sefydliad Bwyd ac a gefnogir yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru, i sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn gallu cael mynediad at fwyd da, ac yn gallu ei fforddio. Fe’i harweinir gan dîm o Lysgenhadon Bwyd Ifanc, tebyg i Beth a Fayeth, sy’n galw ar i’r llywodraeth gymryd camau i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd i blant a gordewdra yn ystod plentyndod a achosir gan anghydraddoldebau deietegol.
Yma, mae Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru, yn amlinellu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru o ran mynediad pobl at fwyd, ac yn archwilio rhai o bryderon Beth a Fayeth – a’u dyheadau – sy’n gysylltiedig ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn byw mewn cyfnod lle mae’r wasgfa o ran costau byw yn gorfodi aelwydydd incwm isel i feddwl am y modd y gallant fforddio bwydo eu teuluoedd a gwresogi eu cartrefi. Mae pobl sy’n cael trafferth fforddio’r bwyd y mae arnynt ei angen ar gyfer eu haelwydydd yn symptom o incwm annigonol – naill ai oherwydd cyflog isel neu rwydi diogelwch annigonol, a/neu gostau byw cynyddol. Mae chwyddiant prisiau bwyd yn gyffredinol bron yn 5%, ond mae aelwydydd incwm isel yn profi lefel arall o chwyddiant yn gyfan gwbl – weithiau cymaint â 50% – gan fod archfarchnadoedd, mewn llawer o achosion, wedi rhoi’r gorau i werthu cynnyrch rhad dan eu brand eu hunain yn llwyr.
I lawer o deuluoedd, mae cael pryd maethlon rhad ac am ddim wedi’i ddarparu i’w plant amser cinio yn arf hanfodol wrth reoli cyllidebau’r cartref ac i gynnal llesiant eu plant. Mae llawer o bobl wedi bod yn dadlau y dylai cinio ysgol maethlon rhad ac am ddim fod yn hawl y dylai pob plentyn yng Nghymru ei gael bob dydd. Yn ddiweddar, yn ystod cyfarfod o grŵp trawsbleidiol Senedd Cymru ar dlodi, bûm yn ddigon ffodus i arwain trafodaeth â dau eiriolwr o’r fath: Beth a Fayeth, a gofynnais iddynt am eu barn ar ymrwymiad cytundeb cydweithio Plaid Cymru-Llafur i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i Bawb, a hynny ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yr ymrwymiad hwn yn drawsnewidiol o ran newyn plant a thlodi plant, ond hefyd wrth gefnogi cyrhaeddiad addysgol a maethiad plant tra hefyd yn gwella’r broses o gynhyrchu bwyd yn lleol a gwella cadwyni dosbarthu lleol, gan fod o fudd i economïau lleol.
Mae Beth (16 oed) a Fayeth (15 oed) wedi bod yn ymgyrchu am fwy na thair blynedd i wella bwyd a deietau ers lansio eu Siarter Hawl i Fwyd yn Stryd Downing yn 2019. Maent yn teimlo’n arbennig o angerddol ynghylch gwneud prydau ysgol yn fwy fforddiadwy, yn fwy hygyrch ac yn fwy maethlon, ac am sicrhau yn benodol fod plant o gefndiroedd incwm is yn cael cymorth i fwyta’n dda.
Yn ystod y cyfarfod o’r grŵp trawsbleidiol, gofynnais iddynt dynnu ar eu profiad a’u hannog i fynegi eu barn ar y cynnydd yng Nghymru yn unol â’r Siarter Hawl i Fwyd, yn enwedig ymrwymiadau i roi prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru. Buom hefyd yn archwilio eu barn ar y modd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ennyn diddordeb pobl ifanc yn y gwaith o ailgynllunio’r broses prydau ysgol, a’r modd y gallwn sicrhau bod pob plentyn yn achub ar y cyfle i gael pryd am ddim yn yr ysgol.
Dyma rai o’u sylwadau:
Beth: “Pan gyhoeddwyd y newyddion gyntaf am ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb yng Nghymru, roeddem mor hapus oherwydd roedd yn ymddangos bod yr holl waith caled yr ydym wedi bod yn ei wneud yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dylanwadu ar hyn mewn rhyw ffordd – a hoffwn bwysleisio pa mor hapus yr ydym am hyn. Mae’n golygu y bydd oddeutu 196,000 yn rhagor o blant yn cael cinio ysgol am ddim, felly bydd hynny’n wych. I mi, y peth mawr (ac yn ein rôl o fod yn llysgenhadon, rydym wedi siarad llawer am hyn) yw ei fod yn mynd i’r afael â’r stigma sy’n ymwneud â chinio ysgol am ddim. Os yw pawb yn cael eu trin yn yr un modd mewn ysgolion cynradd, dylem weld y stigma hwnnw’n lleihau, felly dyna un fantais enfawr – ar wahân i’r manteision eraill, megis gwerth maethol. Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud yw ei fod ar hyn o bryd, yn amlwg, yn canolbwyntio ar ysgolion cynradd. Gobeithio y gallwn ymestyn hynny i ysgolion uwchradd hefyd, oherwydd gallem weld bod teuluoedd yn ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod o newid rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Mae eich blynyddoedd yn yr ysgol uwchradd yn rhan mor bwysig o’ch bywyd ysgol, ac os bydd plant yn cael cymorth o ran bwyd o oedran ifanc, ond yna, yn sydyn, bod hynny’n dod i ben pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol uwchradd, yna gallai hynny gael effaith andwyol ar eu cyrff ac, yn y pen draw, eu canlyniadau. Efallai, yn rhyw fath o dir canol, a phe byddai cyllid ar gael, byddwn yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu’r cymhwystra ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd hefyd. Byddai hyn yn golygu y gallai’r teuluoedd sy’n cael eu taro waethaf gan y bwlch hwn gael mynediad at y bwyd y mae arnynt ei angen. Byddwn yn ymgyrchu i gael prydau ysgol rhad ac am ddim mewn ysgolion uwchradd hefyd.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig iawn cynnwys pobl ifanc wrth feddwl am y math o fwyd a gynigir mewn ysgolion. Ni yw cwsmer y llywodraeth. Ni sy’n bwyta’r bwyd, a dylem gael dweud ein dweud o ran yr hyn a gawn. Byddai’n wych cael grwpiau ffocws ac arolygon – ac edrych ar ffyrdd gwahanol o gael pobl i gymryd rhan.
Ar nodyn cadarnhaol, rwyf wedi bod yn gweithio ar yr ymgyrch hon gyda Fayeth a’r llysgenhadon eraill ers i mi fod yn 12 oed, felly rwyf wedi bod wrthi ers amser maith bellach. Ar y dechrau, nid oeddwn yn obeithiol iawn. Gwelais yr holl rwystrau hyn a oedd yn atal plant rhag cael mynediad at eu hawl i fwyd, ond wrth i ni ymgyrchu a dal ati, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol trwy ein gwaith a thrwy waith pobl megis Marcus Rashford, a helpodd yr ymgyrch yn fawr iawn.
Ac rwy’n obeithiol iawn, iawn y gallwn oresgyn amgylchiadau anodd, megis yr argyfwng costau byw, os caiff y syniadau cywir eu rhoi ar waith.
Dylai pob un ohonom weithio gyda’n gilydd, ond mae’n rhaid i ni wrando ar leisiau pobl ifanc a’r rheini sy’n profi tlodi bwyd yn ddyddiol. Bydd hyn yn ein helpu i ddatrys rhai o’r problemau systemig enfawr hyn.”
Fayeth: “Mae sicrhau ymrwymiad i ddarparu prydau ysgol am ddim ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru yn gyflawniad enfawr. Rydym oll wedi gweithio mor galed i gyrraedd yma – mae cymaint i’w wneud o hyd – ond mae hwn yn gam enfawr. Rwy’n credu mai’r peth nesaf i’w wneud yw ceisio sicrhau’r un ymrwymiad ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd.
Rwyf hefyd yn credu bod angen cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy wrth feddwl am y modd y mae bwydlenni ysgolion yn cael eu cynllunio, y ffordd y mae’r ymrwymiad yn cael ei gyflwyno, a’r modd y gellir ymgysylltu â phobl ifanc fel ein bod yn gwybod, pan fydd prydau ysgol am ddim yn cyrraedd, fod pawb a fyddai’n cael budd o fanteisio ar brydau ysgol am ddim yn gwneud hynny. Un ffordd o gael y plant i gymryd rhan fyddai sicrhau eu bod yn cael mewnbwn o ran yr hyn sydd ar fwydlen yr ysgol. Rwy’n meddwl mai un rheswm nad yw llawer o bobl ifanc yn bwyta bwyd ysgol yw am nad yw bob amser yn iach, nid yw’n faethlon. Mae ysgolion yn gweini pethau megis pizza a/neu fwydydd nad ydynt yn iach. Felly, os byddwn yn cynnwys pobl ifanc yn y broses o gynllunio’r bwydlenni, byddant yn cofrestru i gael prydau ysgol am ddim pan fyddant yn gallu gwneud hynny.
Byddwn hefyd yn annog rhagor o bobl ifanc i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd tebyg i’n un ni. Mae cymryd rhan yn rôl llysgennad wedi golygu ein bod wedi gallu cael effaith mor fawr. Ar y dechrau, ni feddyliais erioed y gallem gael effaith o’r fath oherwydd dim ond pobl ifanc ydym ni. Nid oeddwn yn meddwl y byddai’r Llywodraeth am wrando ar yr hyn a oedd gennym i’w ddweud. Ond rydym wedi cyflawni cymaint. Byddwn wrth fy modd yn cael rhagor o bobl ifanc i gymryd rhan, fel y gall pob person ifanc – ni waeth faint o arian y mae ei rieni yn ei ennill, a lle bynnag y mae’n byw – gael bwyd boddhaol yn yr ysgol a pheidio â bod dan anfantais; gall wneud yn dda yn ei arholiadau. Gallai hynny gael effaith enfawr ar ei ddyfodol.”