Bydo Ein Dyfodol – Ymchwiliad i lysiau mewn bwyd ysgol y DU 2021
Dyma adroddiad diweddaraf Pys Plîs sy’n ymchwiliad i lysiau mewn bwyd ysgol ar draws y DU.
Prosiect partneriaeth sy’n gweithio ar draws pedair gwlad y DU i annog pawb i fwyta mwy o lysiau yw Pys Plîs – a Synnwyr Bwyd Cymru sy’n arwain y prosiect yng Nghymru.
Mae plant ysgol yn ffocws arbennig i ni o ystyried y lefelau pryderus o isel o lysiau sy’n cael eu bwyta gan y grŵp oedran hwn, ac mae bwyd ysgol yn gyfle gwych i wella maeth plant a chynyddu’r llysiau y maent yn eu bwyta. Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn onest ar system bwyd ysgol y DU, gan nodi enghreifftiau o arfer da o bob rhan o’r pedair gwlad, cyfleoedd ar gyfer newid cadarnhaol, a gwneud argymhellion ar gyfer llunwyr polisïau a phenderfyniadau.
Mae’r adroddiad yn cyd-fynd â’r adroddiad cryno Cyflwr y Genedl sy’n rhoi rhagor o fanylion am y ddarpariaeth bwyd ysgol ym mhob un o’r gwledydd unigol.
Darllenwch adroddiad Cyflwr y Genedl