Gweinidog yn ymweld â phrosiect yng Nghaerdydd sy’n cael ei ariannu gan Grant Tlodi Bwyd Llywodraeth Cymru
Ddoe, (Dydd Iau, 3 Chwefror), bu Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymweld â Phantri Dusty Forge yng Nghaerdydd i ddysgu mwy am nifer o fentrau a sefydlwyd drwy gyllid gan Grant Tlodi Bwyd Llywodraeth Cymru – cynllun a gyflwynwyd i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau i gydweithio i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
Mynychodd y Gweinidog gyfarfod Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol a drefnwyd gan Bwyd Caerdydd a chafodd daith o’r ganolfan gymunedol hefyd, gan gynnwys y Pantri Lleol a’r Caffi Cymunedol, yn ogystal â chyfle i sgwrsio ag aelodau’r rhwydwaith.
Dyfarnwyd £150,000 o gronfa’r Grant Tlodi Bwyd i Bwyd Caerdydd, partneriaeth bwyd lleol y ddinas, er mwyn helpu i ddatblygu a chyflawni ystod o brosiectau bwyd diddorol ac ychwanegu capasiti atynt, ac un o’r cynlluniau a gefnogir gan y gronfa yw’r Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol.
Nod y Grant Tlodi Bwyd yw mynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â bwyd mewn ffordd fwy cynaliadwy ac annog sefydliadau i gydweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i ddiwallu anghenion penodol eu cymunedau. Bydd y grant a neilltuwyd i Bwyd Caerdydd yn helpu i gynyddu mynediad at fwyd iach, fforddiadwy a fydd yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd i’w galluogi i fyw bywydau iach a chynaliadwy. Drwy wneud hyn, mae Bwyd Caerdydd – aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – yn cefnogi pobl sy’n cael anhawster i gael gafael ar fwyd yn ogystal â helpu i atal mwy o bobl rhag profi tlodi bwyd neu ansicrwydd bwyd.
“Rydym yn falch ac yn ddiolchgar iawn o fod yn un o’r sefydliadau sydd wedi elwa o Grant Tlodi Bwyd Llywodraeth Cymru,” meddai Pearl Costello, cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, Bwyd Caerdydd.
“Mae Bwyd Caerdydd eisoes yn cynnal ac yn hwyluso amrywiaeth o fentrau sy’n gysylltiedig â bwyd yn y ddinas sy’n canolbwyntio ar fwyta’n iach a bwyd cynaliadwy, yn ogystal â helpu’r dinasyddion mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd i gael mynediad at fwyd maethlon o safon. Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig gyda nifer o bartneriaid yng Nghaerdydd er mwyn cynyddu effeithiolrwydd y prosiect i’r eithaf a datblygu capasiti a seilwaith cynaliadwy a pharhaol. Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu’r prosiectau bwyd cymunedol; helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol er mwyn lleihau ansicrwydd bwyd yn ogystal ag annog cyfranogiad mewn nifer o brosiectau bwyd da.
Yn ystod ei hymweliad, dysgodd Jane Hutt MS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fwy am waith y prosiect ehangach yn ogystal â chlywed am effaith y Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol.
Mae’r rhwydwaith, sy’n cael ei hwyluso gan Bwyd Caerdydd, yn dod â 28 o unigolion ynghyd o brosiectau amrywiol, gan gynnwys Eich Pantri Lleol, Cydweithfeydd Bwyd, Clybiau FOOD, Big Bocs Bwyd, Oergelloedd Cymunedol, ochr yn ochr â phartneriaid fel Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, Ysgol Fusnes Caerdydd, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Fareshare Cymru.
Mae’r rhwydwaith yn helpu prosiectau i rannu gwybodaeth ac adnoddau ac i gydweithio i gydlynu camau gweithredu ar draws y ddinas, drwy ddulliau amrywiol, fel rhannu arferion gorau; creu map cydweithredol neu gyfeirlyfr o brosiectau; datblygu cadwyni cyflenwi lleol ychwanegol; creu pecyn hyfforddi ar gyfer datblygu prosiectau newydd, thrwy gynnig darpariaeth mentora cymheiriaid rhwng prosiectau. Mae’r rhwydwaith hefyd wedi datblygu cyfeirlyfr yn esbonio’r gwahanol fodelau manwerthu sydd ar gael sy’n cynnwys astudiaethau achos yn seiliedig ar brosiectau sydd wedi’u sefydlu yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt: “Rwy’n falch o weld gyda’m llygaid fy hunan y gwaith gwych y mae Grant Tlodi Bwyd Llywodraeth Cymru wedi gallu ei gefnogi. Rydym yn benderfynol y dylai’r cyllid gefnogi camau sydd nid yn unig yn helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd – ond hefyd y prosiectau tymor hwy hynny a’r rhai sy’n canolbwyntio ar weithgarwch sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Mae Bwyd Caerdydd wedi gallu cydweithio â rhwydweithiau a phartneriaethau presennol i roi’r ethos hwnnw ar waith gyda’u prosiect yma yn y Dusty Forge.
Mae ymdeimlad gwirioneddol o gymuned yma yn y Pantri a’r Caffi, sy’n cefnogi pobl leol i ganfod a pharatoi bwyd maethlon o safon yn lleol, a chanolbwyntio ar waith atal ac atebion cynaliadwy.”
Dywedodd Sam Froud-Powell, Cydlynydd Cymorth Cymunedol ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái): “Mae cydweithio â phrosiectau bwyd cymunedol eraill wedi bod o gymorth mawr, gan helpu Pantri Dusty Forge i ddatblygu’n brosiect llwyddiannus sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd yn Nhrelái a Chaerau. Mae aelodau a gwirfoddolwyr ein Pantri yn elwa o gyfleoedd hyfforddi a chefnogaeth i gael mynediad at ddewis ehangach o fwydydd iach gan fusnesau a thyfwyr cymunedol. Mae gweithio gyda rhwydwaith Bwyd Caerdydd yn golygu ein bod yn teimlo’n rhan o fudiad bwyd da sy’n datblygu yn y ddinas, sy’n ein galluogi i rannu syniadau ac ysbrydoliaeth gydag eraill.”
Mae Bwyd Caerdydd yn ceisio creu system bwyd lleol iach a chynaliadwy sy’n helpu i fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd. Mae partneriaeth Bwyd Caerdydd yn cynnwys 200 a mwy o unigolion o 90 a mwy o sefydliadau ac mae’n ymgysylltu â miloedd o bobl ar draws Caerdydd drwy ei wefan, cylchlythyrau a’r cyfryngau cymdeithasol. Fel un o aelodau cyntaf y rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, mae Bwyd Caerdydd wedi helpu i arloesi dull cydweithredol yn seiliedig ar leoliad ar gyfer bwyd. Dyfarnwyd statws arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy arian iddo’n ddiweddar, y lleoliad cyntaf yng Nghymru a dim ond un o chwe lleoliad yn y DU i gyflawni’r statws mawreddog hwn, sy’n cydnabod gwaith arloesol y ddinas o ran hybu bwyd iach a chynaliadwy a dangos effaith gadarnhaol pobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cydweithio i greu newid.
Yn ogystal â helpu i ddatblygu capasiti prosiectau bwyd cymunedol drwy fentrau fel y Rhwydwaith Manwerthu Bwyd Cymunedol; mae’r Grant Tlodi Bwyd hefyd yn cefnogi Bwyd Caerdydd i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol i liniaru ansicrwydd bwyd. Un o’r ffyrdd y mae’n bwriadu gwneud hyn yw drwy brynu fan oergell drydan a fydd yn cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr i ddosbarthu bwyd dros ben sy’n cael ei dyfu ar randiroedd, gerddi cymunedol a chan gynhyrchwyr a phrosiectau bwyd cymunedol lleol.
Mae Bwyd Caerdydd hefyd yn derbyn cymorth i annog pobl i gymryd rhan mewn prosiectau bwyd da ac mae’n edrych ymlaen at ail-lansio foodcardiff.com fel hyb gwybodaeth ar gyfer bwyd da. Bydd hefyd yn cynnwys detholiad eang o adnoddau, cyngor ar fwyd, hybu gwasanaethau cymorth lleol a chyfleoedd i helpu pobl i symud o ansicrwydd bwyd a chymryd camau cadarnhaol tuag at fyw bywydau iachach.
Ychwanegodd Pearl Costello. “Er ei bod yn bosibl cynnal pob un o’r prosiectau hyn ar eu pen eu hunain, mae Partneriaeth Bwyd Caerdydd yn credu y bydd defnyddio dull cydlynol a chydweithredol yn cael mwy o effaith.” Ychwanegodd, “Mae’r prosiectau hyn hefyd yn ein helpu i ymchwilio i achosion sylfaenol ansicrwydd bwyd a’r ffactorau sy’n cyfrannu at hynny a fydd yn ein helpu i fod mewn sefyllfa well i leihau a goresgyn y materion hyn ar draws y ddinas.”