Pum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru yn cael grantiau i’w helpu i gynhyrchu mwy o lysiau

Bydd pum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru yn elwa o gyllid ychwanegol i helpu i ehangu eu busnesau cynnyrch garddwriaethol bwytadwy er mwyn gwasanaethu cymunedau ar draws Cymru.

Mewn ymgais i helpu busnesau bach o Gymru i gynyddu’r llysiau y maent yn eu cynhyrchu ac, o ganlyniad i hynny, y llysiau sy’n cael eu bwyta, mae Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’i bartneriaid Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, wedi dyfarnu grantiau i fentrau a chanddynt ddim mwy na 5-hectar o dir cynhyrchu.

Mae’r grantiau bach hyn, sy’n werth rhwng £2,500 a £5,000, wedi’u cynnig fel rhan o’r prosiect Pys Plîs, rhaglen ledled y DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol a’i phrif nod yw cynyddu’r llysiau sy’n cael eu bwyta. Mae’r gefnogaeth hon yn cael ei darparu yng Nghymru gan Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n arwain ar waith Pys Plîs yng Nghymru, mewn partneriaeth â Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.

Y pum prosiect llwyddiannus sydd wedi derbyn yr arian hwn yw Fferm Paramaethu Henbant yng Ngwynedd; Troed y Rhiw Organics, Ceredigion; Gardd Furiog Angle, Sir Benfro; Ash & Elm Horticulture yn Llanidloes a Chwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Glasbren o Sir Gaerfyrddin.  Bydd pob un o’r pum busnes yn defnyddio’r cyllid i ganolbwyntio ar ddarparu gwahanol atebion a fydd yn galluogi eu mentrau i ehangu er mwyn cynyddu faint o lysiau maen nhw’n eu cynhyrchu ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Fferm gymunedol yng Ngwynedd yw Paramaethu Henbant sydd wedi’i hysbrydoli gan baramaethu a bydd yn defnyddio ei chyllid i greu ‘Sied Lysiau’ – adeilad a fydd yn dod yn ganolbwynt i’w fusnes ac yn helpu i wella ei effeithlonrwydd, ei broffidioldeb a’i hygyrchedd. Bydd hyn yn cynnwys gorsaf olchi a sied pacio a chasglu ar gyfer y cynllun blychau llysiau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned sy’n prysur ehangu, gan ganiatáu i’r busnes werthu cynnych fferm a chynnyrch lleol arall sy’n aildyfu i’w cymuned leol.

Fferm organig gymysg yw Troed y Rhiw Organics yng Ngheredigion ac  mae ei hethos yn seiliedig ar gred yn yr angen i ffermio’n gynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n canolbwyntio ar gynnyrch garddwriaethol bwytadwy ac yn gwasanaethu ei chymuned leol drwy gynllun bocsys nwyddau, marchnad cynhyrchwyr lleol yn ogystal â gwerthu i siopau.   Bydd y Fferm yn defnyddio’r grant i gyfrannu tuag at brynu turniwr rhesi compost wedi’i dynnu gan dractor, i’w galluogi i greu compost o ansawdd uwch ar y fferm a gwneud defnydd llawn ohono – a fydd yn ei dro yn cyfrannu at gynnydd mewn cynhyrchiant.

Mae’r tîm yng Ngardd Furiog Angle yn Sir Benfro yn gyffrous o fod yn defnyddio’i grant i godi Twnnel Polythen i helpu i ymestyn hyd ei thymor tyfu a gwerthu.  Bydd yn caniatáu i Ardd Furiog Angle ddarparu llysiau ffres i gymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn; tyfu llysiau’r gaeaf carbon isel; ehangu cnydau salad a dyfir dan do; ehangu cnydau sy’n dibynnu ar luosogi dan do a darparu ardal fwy ar gyfer aeddfedu yn yr hydref, gan gynyddu faint o lysiau y mae’n eu cynhyrchu a’u gwerthu yn yr ardal leol.

Bydd Ash & Elm Horticulture o Lanidloes yn gosod twll turio i ddarparu dŵr i’r safleYn ardd marchnad gymdeithasol amaeth-ecolegol, mae Ash & Elm eisoes yn darparu llysiau, ffrwythau a blodau a dyfir yn lleol i’r gymuned ac yn rhedeg cynllun bocsys Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned yn ogystal â darparu addysg garddwriaethol a phrofiad gwaith preswyl oddi ar y grid.  Bob blwyddyn mae Ash & Elm yn gosod mwy o danciau i gasglu a storio glaw ond dim ond digon o ddŵr i bara 3 wythnos heb law sydd ganddynt – sydd ond yn ddigon ar gyfer y twneli polythen. Mae’r grant hwn yn golygu y gall y cwmni edrych ymlaen at osod twll turio y gaeaf hwn fel eu bod yn barod ar gyfer dechrau tymor tyfu y flwyddyn nesaf – gan gynyddu ymhellach faint o lysiau y mae’n eu cynhyrchu.

Mae CIC Glasbren  wedi ei leoli ym Mancyfelin ar gyrion Caerfyrddin ac yn 2020 roedd yn bwydo 40 o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin drwy ei gynllun bocsys llysiau Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned.  Gyda ffocws ar gyfleu gwerth a realiti cynhyrchu bwyd y gellir ei aildyfu, ar raddfa fach, mae Glasbren hefyd yn hybu iechyd a llesiant; cysylltiad â byd natur ac yn cynnig cyfle i ymwneud yn uniongyrchol â thyfu.  Bydd y grant a gaiff Glasbren yn galluogi’r tîm i ymestyn ei sied bacio yn ogystal â gosod ystafell oeri wedi’i hinswleiddio. Bydd yr estyniad hwn yn caniatáu i’r cwmni ddarparu deg yn rhagor o focsys llysiau.  Bydd y grant hefyd yn cyfrannu at ail dwnnel polythen, gan ehangu ei ofod tyfu a chynyddu ei gynhyrchiant 8%.

Nododd Adroddiad Tyfu Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar fo 117 o blith 204 o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau masnachol yn cael eu hystyried yn gynhyrchwyr bach, sy’n gweithio ar lai na 5 hectar o dir.  Mae llawer o’r busnesau bach hyn eisiau cynyddu eu cynhyrchiant ond mae gagendor yn y gefnogaeth a gynigir gan y Llywodraeth wedi golygu bod cynhyrchwyr llai yn cael peth anhawster.

Mae darganfyddiadau’r adroddiad bellach wedi cyfrannu at Gynllun Garddwriaeth Fasnachol 2020 sy’n cynnig ffordd ymlaen sy’n cydfynd gydag amcanion strategol Llywodraeth Cymru.

Dan arweiniad Tyfu Cymru, prosiect a reolir gan Lantra, a chyda chyllid o gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun Gweithredu Garddwriaeth Fasnachol hwn ar gyfer Cymru yn amlinellu dull aml-randdeiliad, cadwyn gyflenwi gyfan, i ddatblygu a chynnal y cynhyrchiad masnachol o gynnyrch garddwriaeth bwytadwy ac addurnol yng Nghymru am y tymor hir.

Ar hyn o bryd, mae Cymru ond yn cynhyrchu digon o ffrwythau a llysiau i gyflenwi ¼ dogn y pen y dydd i bawb.  Byddai cynhyrchu ‘5 y dydd’ ar gyfer poblogaeth Cymru yn golygu y byddai angen i Gymru gynyddu maint y tir sy’n ofynnol ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau o 931 hectar i 26,991 hectar, sy’n cyfateb i 2% o gyfanswm tir Cymru.  A phe bai Cymru eisiau cynhyrchu ei ‘5 y dydd’ ei hun, byddai angen cynnydd sylweddol yn nifer y cynhyrchwyr bach – i 3,480.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi, bod gan sector ffrwythau a llysiau Cymru botensial mawr i ddatblygu a bod grŵp craidd o gynhyrchwyr ymroddedig a digonedd o alw am gynnyrch. Gallai cynllunio a buddsoddi yn y sector weld nifer y cynhyrchwyr a chynhyrchiant gwych o Gymru yn ehangu’n sylweddol er budd busnesau lleol ac iechyd y genedl gyfan.

Mae Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yn falch iawn bod cynllun cyllido ar gael i helpu i gefnogi busnesau bach yn y maes garddwriaeth fwytadwy a fydd yn helpu i gynyddu cynhyrchiant llysiau yng Nghymru, diolch i’r bartneriaeth hon gyda Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.

“Mae hwn yn gynllun hynod gyffrous a fydd yn edrych ar yr effaith y gall buddsoddiadau cyfalaf bach ei chael ar y busnesau garddwriaethol llai hyn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r pum derbynnydd ledled Cymru i fesur llwyddiant y cynllun,” meddai Katie.

“Ers blynyddoedd lawer mae garddwriaeth, yn enwedig cynhyrchu ar raddfa fach, wedi bod yn brin o adnoddau gan nad yw cynhyrchwyr a chanddynt lai na 5 hectar o dir wedi bod yn gymwys i gael cymhorthdal.  Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn awgrymu y gallent ehangu eu gwerthiant a’u cyrhaeddiad yn sylweddol pe bai buddsoddiad mewn seilwaith ar gael.”

Mae Gary Mitchell, Rheolwr Cymru o Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, hefyd yn falch o allu helpu i gyflawni cynllun cyllido sy’n cyfrannu at dwf mentrau garddwriaethol yng Nghymru.

“Mae bwyd lleol, sy’n cael ei dyfu’n gynaliadwy, yn gwbl allweddol o ran mynd i’r afael â materion pwysig sy’n ymwneud â’n system fwyd, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, a bydd ar frig yr agenda i lawer o bobl yn ein cymunedau,” meddai Gary.

“Mae gan y safleoedd yr ydym yn eu cefnogi drwy’r cynllun peilot hwn gysylltiadau dwfn â’r cymunedau y maent wedi’u lleoli ynddynt ac yn cael cefnogaeth gan y cymunedau hynny.  Dim ond rhan fach o’r sector Tyfu Bwyd yn y Gymuned amrywiol yng Nghymru yw’r busnesau bwyd cymunedol hyn. Gyda thros 970 o safleoedd tyfu cymunedol ledled Cymru gan gynnwys rhandiroedd, Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, Perllannau, gerddi cymunedol a grwpiau Bwyd Bendigedig,” ychwanegodd.

“Drwy ddatblygu busnesau bach yn ogystal â buddsoddi mewn mentrau tyfu cymunedol, bydd Cymru’n gallu cynyddu faint o ffrwythau a llysiau y mae’n eu cynhyrchu ac yn ei dro, faint y mae ei phoblogaeth yn ei fwyta, gan sicrhau bod modelau tyfu yn dod yn gynaliadwy ac y gall ein poblogaeth fwyta mwy o gynnyrch iach, cynaliadwy sydd wedi’i dyfu’n lleol.”

Mae Synnwyr Bwyd Cymru a Ffermydd a Gerddi Cymunedol yn aelodau o Gynghrair Polisi Bwyd Cymru, sef cyfuniad o sefydliadau a rhanddeiliaid sy’n datblygu a hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gynghrair ei Maniffesto ar gyfer 2021 lle mae’n argymell creu Comisiwn System Fwyd i ystyried chwe maes blaenoriaeth:

  1. Bwyd i bawb
  2. Bwyd er budd iechyd y cyhoedd
  3. System fwyd Sero Net
  4. Ffermio er budd natur a’r hinsawdd
  5. Bwyd Môr Cynaliadwy
  6. Swyddi a bywoliaethau cynaliadwy yn y sector bwyd

O ran Bwyd er budd Iechyd y Cyhoedd, mae’r Gynghrair yn galw am gynhyrchu tri chwarter ein llysiau dyddiol mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru erbyn 2030.  Mae’r grantiau hyn yn cynnig cyfle i fusnesau bach yng Nghymru ehangu a chynyddu eu cynhyrchiant ac yn ei dro, helpu i gynyddu’r llysiau a fwyteir.  Mae hon yn elfen allweddol i alluogi Cymru i gynhyrchu llysiau ar gyfer ei phoblogaeth mewn ffordd gynaliadwy.

Bydd yn ofynnol i’r pum derbynnydd grant llwyddiannus gwrdd â’r ymchwilydd, Dr Amber Wheeler cyn ac ar ôl y buddsoddiad i werthuso pa effaith y gall y grant ei chael ar gynhyrchiant, gwerthiant a chynaliadwyedd y sefydliad.

Dyluniwyd y peilot hwn ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol a bydd effaith gyffredinol y peilot yn cael ei gwerthuso ac adroddiad astudiaeth achos yn cael ei lunio yn tynnu sylw at arferion da, a bydd ei ganfyddiadau’n cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

DIWEDD