Mynd i'r cynnwys

Bwyd Powys Food

Mae partneriaeth Bwyd Powys Food yn credu bod bwyd nid yn unig wrth wraidd rhai o’n problemau mwyaf ond hefyd yn rhan hollbwysig o’r ateb. Er mwyn mynd i’r afael â materion fel gordewdra ac afiechydon sy’n gysylltiedig â deiet, tlodi bwyd a gwastraff bwyd, newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, dirywiad mewn ffyniant ac dadleoliad cymdeithasol, mae’n hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar systemau sy’n cynnwys ac yn cysylltu gweithredwyr allweddol ar bob lefel ac ar draws pob rhan o’r system fwyd.

Daeth Bwyd Powys Food yn aelod o Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng ngwanwyn 2022.  Mae’n darparu llwyfan i bawb gyfrannu at greu mudiad bwyd cynaliadwy, neu gynyddu eu cyfranogiad ynddo, ar draws Powys.

Aelodau presennol y bartneriaeth yw Cultivate (sy’n cynnal Bwyd Powys Food), Cyngor Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Grwp Colegau Castell-nedd Port Talbot, Gerddi a Ffermydd Cymdeithasol, Bannau Brycheiniog, Cyfoeth Naturiol Cymru, Coleg y Mynyddoedd Duon, Mach Maethlon, Our Food 1200 ac Eco Dyfi.

Mae Bwyd Powys Food bellach yn rhan o Grŵp Llywio Strategol Dull System Gyfan o Bwysau Iach Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sy’n adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Croesawodd y bartneriaeth hefyd Gydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy De Powys, Chloe Masefield, ym mis Gorffennaf 2023.

Cynhaliodd y bartneriaeth Uwchgynhadledd Bwyd Powys ar 16 Hydref 2023 yn Hafan-yr-Afon yn y Drenewydd. Cymerodd tri deg pump o unigolion

o amrywiaeth o sefydliadau ran, gan gynnwys: Cyngor Sir Powys; Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, ac agorwyd yr uwchgynhadledd gan Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru. Canlyniad yr uwchgynhadledd fydd ‘Strategaeth Fwyd Powys’ a fydd yn arwain gwaith Bwyd Powys Food am y blynyddoedd nesaf.

Mae staff o’r bartneriaeth yn parhau i fynychu fforymau a chyfarfodydd rhwydwaith, gan gynnwys Hyb Croeso’r Drenewydd, Rhwydwaith Gweithwyr y Drenewydd, cysylltwyr cymunedol PAVO, atgyfeiriadau Ponthafren a POBL, a grŵp llywio Pwysau Iach y Bwrdd Iechyd. Mae fforymau rhanddeiliaid hefyd wedi’u sefydlu yn rhai o brif drefi marchnad Powys, fel Llanidloes a Machynlleth. Trwy’r rhwydweithiau hyn, mae’r bartneriaeth yn gallu llywio nifer o bartneriaid strategol ac ar lawr gwlad ac adeiladu’r Mudiad Bwyd Da ym Mhowys.

Gallwch ddarllen strategaeth Bwyd Powys yma.

Am fwy o wybodaeth, ar gyfer Gogledd Powys (hen ffiniau Sir Drefaldwyn), cysylltwch â: nicb@cultivate.uk.com

Am fwy o wybodaeth ar gyfer De Powys (hen ffiniau Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog), cysylltwch â: chloem@cultivate.uk.com

Neu ewch i’r wefan, sef www.cultivate.uk.com