Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent ym mis Mai 2021 gyda’r nod o roi strategaeth uchelgeisiol ar waith sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd o fewn system fwyd Blaenau Gwent.  Mae’r Bartneriaeth yn chwarae rhan ganolog wrth gydlynu camau gweithredu lleol ar faterion megis mynediad at fwyd, yr amgylchedd a datblygu ‘Mudiad Bwyd Da’.

Mae’r bwrdd partneriaeth, sy’n cael ei gynnal gan Cartrefi Cymunedol Tai Calon, yn cynnwys aelodaeth o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd i greu system fwyd leol sy’n iach, yn fforddiadwy, yn wydn ac yn deg.

Mae’r Bartneriaeth yn cydnabod gwerth aruthrol ymgysylltu a gweithredu cymunedol. Mae pobl o bob oed o bob rhan o’r fwrdeistref yn cael eu cefnogi i ddod yn ddinasyddion bwyd a datblygu gweithgareddau bwyd cadarnhaol yn eu cymuned.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chris Nottingham, Cydlynydd Partneriaeth Fwyd Blaenau Gwent neu ewch i’r wefan  www.bgfoodpartnership.co.uk