Mynd i'r cynnwys

Partneriaeth Bwyd Torfaen

Sefydlwyd Partneriaeth Bwyd Torfaen ym mis Ionawr 2022, a daeth y Bartneriaeth yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ym mis Mehefin 2023. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, erbyn mis Gorffennaf 2024, roedd y bartneriaeth wedi ennill gwobr arian fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, sy’n cydnabod gwaith arloesol y sir i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Mae’r bartneriaeth wedi ei hysgogi gan Raglen Gwydnwch Bwyd Torfaen, a’i nod yw creu twf yn Nhorfaen drwy gyfrwng bwyd, a hynny drwy gynyddu faint o fwyd fforddiadwy sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol sydd ar gael, yn ogystal â chefnogi ffyrdd cynaliadwy o drechu tlodi bwyd.

Mae Partneriaeth Gwydnwch Bwyd Torfaen, ynghyd â gwaith ehangach Rhaglen Gwydnwch Bwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn cael eu harwain yn frwdfrydig gan Sam Evans, Rheolwr Rhaglen Gwydnwch Bwyd y Sir a thîm o dri unigolyn egnïol, pob un ohonynt yn llwyr ymrwymedig i greu dyfodol gwell o ran bwyd i bobl Torfaen.

Mae gan y Bartneriaeth grŵp llywio sy’n cynnwys:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cymdeithas Wirfoddol Torfaen
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Tai Cymunedol Bron Afon
  • Tasty Not Wasty
  • Trussell Trust
  • Fairshare Cymru
  • Zero Waste Torfaen
  • Tîm Arlwyo Ysgolion Torfaen a Deietegwyr
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r bartneriaeth wedi cyd-greu siarter fwyd sy’n anelu at wella iechyd a llesiant trigolion a chreu dyfodol mwy bywiog, mwy cydgysylltiedig a gwydn. Datblygodd y bartneriaeth hefyd weledigaeth glir, ac mae’n ymdrechu i ddatblygu system fwyd gynaliadwy a theg sy’n darparu bwyd fforddiadwy ac iach i bawb.

Mae Partneriaeth Gwydnwch Bwyd Torfaen yn credu y dylai pawb yn Nhorfaen gael mynediad at fwyd iach, blasus a fforddiadwy. Drwy hyrwyddo Blaenoriaethau Bwyd Da, mae’r bartneriaeth am sicrhau bod bwyd iach, cynaliadwy a moesegol yn rhan annatod o economi leol ffyniannus.

Blaenoriaethau Bwyd Da y bartneriaeth yw:

  • Iechyd
  • Cymuned
  • Swyddi
  • Addysg
  • Dyfodol

Gallwch ddarllen mwy am y bartneriaeth yma ac i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Tîm Gwydnwch Bwyd yn Nhorfaen, cysylltwch â Sam Evans, Rheolwr y Rhaglen Gwydnwch Bwyd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: Samuel.Evans@torfaen.gov.uk