Bwyd Sir Gâr Food
Drwy rymuso cymunedau drwy ddull cydgynhyrchiol, gweledigaeth Bwyd Sir Gâr Food yw galluogi adfywio cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’n anelu at weithio mewn ffordd sy’n ddiwylliannol sensitif, yn flaengar ac yn gynhwysol drwy addysg, cyfathrebu a mynediad i gyfleoedd, er mwyn hyrwyddo system fwyd leol sy’n ffynnu ac sy’n gadarn a maethlon er mwyn cefnogi adferiad natur, yn ogystal ag iechyd a llesiant. Cefnogir y bartneriaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, Adran Maetheg a Deieteg Hywel Dda, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin.
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn gweithio’n agos gydag aelodau Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin i ddarparu llwyfan i weithredwyr ar lawr gwlad yn y system fwyd i ddylanwadu ar ddyfodol bwyd yn y sir. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys grwpiau clwstwr sy’n cynnwys tyfwyr cymunedol, busnesau a ffermwyr garddwriaethol, pen-cogyddion sy’n hyrwyddo bwyd lleol, darparwyr bwyd cymunedol a sefydliadau ehangach sy’n cefnogi’r gymuned. Mae’r rhwydwaith yn hwyluso gwaith o fewn a rhwng y grwpiau clwstwr, gan ddarparu cyfleoedd i rannu sgiliau ac adnoddau, a gweithio tuag at system fwyd gysylltiedig ledled y sir.
Daeth Sir Gaerfyrddin yn aelod o Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng ngwanwyn 2022, ac mae’n ddechrau taith gyffrous iawn i wneud Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy drwy sicrhau mynediad cyfartal i fwyd lleol iach o safon uchel.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch ag Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd Sir Gâr Food.