Bwyd RCT
Mae Bwyd RCT yn bartneriaeth fwyd newydd a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Ei gweledigaeth yw sicrhau bod gan bawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Rhondda Cynon Taf fynediad at fwyd iach, blasus a fforddiadwy sy’n dda i’r amgylchedd a’r economi leol.
Yn ddiweddar, mae Bwyd RCT wedi dod yn aelod o’r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, ac fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn dilyn digwyddiad y Rhwydwaith Atebion Tyfu Cymunedol a gynhaliwyd gan Interlink ym mis Gorffennaf 2020. Fe wnaeth nifer o randdeiliaid â diddordeb fynychu’r digwyddiad, gan gynnwys grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau’r trydydd sector, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a busnesau lleol. Ar ôl trafod y ffordd orau ymlaen, argymhellwyd y dylai’r bartneriaeth wneud cais am gymorth gan Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i lansio dull cydweithredol ar gyfer datblygu Mudiad Bwyd Da yn Rhondda Cynon Taf.
Am wybodaethbellach, cysylltwch â Rhiannon Edwards, Cydlynydd Bwyd RCT.