Bwyd Caerdydd
Partneriaeth dinas gyfan o unigolion a sefydliadau yw Bwyd Caerdydd. Mae’n gweithredu fel canolbwynt ar gyfer cysylltu’r bobl a’r prosiectau sy’n gweithio i hyrwyddo bwyd iach ledled y ddinas, sy’n amgylcheddol gynaliadwy a moesegol; mae’n gweithredu fel llais ar gyfer newid ehangach.
Mae Bwyd Caerdydd yn credu bod y bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn cael effaith fawr ar fywyd yng Nghaerdydd – nid yn unig ar iechyd pobl, ond ar gymunedau a busnesau, ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, a’r amgylchedd hefyd. Mae bwyd da yn creu cymunedau cryf, iach a gwydn.
Mae Bwyd Caerdydd yn rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy’n anelu at ddylanwadu ar sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermydd a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, cysylltiedig a ffyniannus.
Yn 2021, cyhoeddwyd bod Caerdydd wedi ennill statws Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy – y lle cyntaf yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd.
Darllenwch fwy am waith Bwyd Caerdydd yma.