Pys Plîs
Mae Pys Plîs yn fenter ar draws y DU sydd â chenhadaeth glir iawn: ei gwneud hi’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Synnwyr Bwyd Cymru sy’n arwain ar waith Pys Plîs yng Nghymru ac mae’n ymgysylltu â chyfranogwyr ac asiantau ar draws y system fwyd i helpu i achosi newid mewn diet ac i fynd i’r afael â’r arafu yn niferoedd y llysiau a fwytawn. Partneriaid eraill y prosiect ar draws y DU sy’n ymwneud â’r fenter hon yw The Food Foundation, Nourish Scotland, Food NI a Belfast Food Network.
Nod y rhaglen arloesol hon sy’n canolbwyntio’n benodol ar lysiau, yw sicrhau ymrwymiadau gan ddiwydiant a’r llywodraeth i wella argaeledd, derbynioldeb (gan gynnwys cyfleustra), fforddiadwyedd ac ansawdd y cynnig llysiau mewn siopau, ysgolion, bwytai a thu hwnt, ac yn ei thro, ysgogi mwy o gymeriant o lysiau ymhlith cyhoedd y DU, yn enwedig plant a’r rhai ar incwm isel.
Gan ganolbwyntio’n benodol ar lysiau, mae Pys Plîs yn dod â ffermwyr, cyflenwyr, manwerthwyr, cadwyni bwytai, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd gyda’r nod cyffredin o’i gwneud hi’n haws i bawb fwyta llysiau.
Mae Pys Plîs yn gwella’r ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi sydd â’r potensial i gynyddu’r defnydd o lysiau mewn modd cynaliadwy ac mae’n cydnabod nad yw rhaglenni addysg, hyd yma, wedi cael yr effaith a ddymunwyd. Felly mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y cyfoeth o gyfleoedd sydd yn y gadwyn gyflenwi i wella cymeriant llysiau.
Ers i’r proiect lansio pedair blynedd yn ôl, mae Pys Plîs wedi helpu gweini neu werthu 162 miliwn o ddognau ychwanegol cronnus o lysiau. Mae dros 100 o sefydliadau hefyd eisoes wedi gwneud adduned i chwarae eu rhan i helpu pawb ym Mhrydain i fwyta dogn ychwanegol o lysiau bob dydd. Gelwir yr addunedau hyn yn Addunedau Llysiau. Yng Nghymru, rydym ar hyn o bryd yn rheoli 8 o addunedwyr cenedlaethol, 24 adduned leol trwy Fwyd Caerdydd a’r 25 o addunedwyr Dinas llysiau mewn partneriaeth â Sustain/Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Un enghraifft yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n parhau i arloesi gyda’i safonau manwerthu a bwytai iach a’i fwyty blaenllaw Y Gegin yn ogystal â stondin llysiau yn yr ysbyty.
Mae Pys Plîs hefyd wedi recriwtio 25 o bobl o bob rhan o Gymru i fod yn Hyrwyddwyr Llysiau, gan weithio fel asiantau newid unigol yn eu cymunedau lleol ac i helpu i yrru’r newidiadau enfawr sydd eu hangen yn ein hymgais i gael pawb i fwyta mwy o lysiau.
Ac mewn ymgais i gynyddu cynhyrchiant lleol, fe dyfarnodd Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’n partneriaid Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, bum grant Pys Plîs rhwng £2500 a £5000 yn ddiweddar er mwyn cynorthwyo busnesau garddwriaethol bwytadwy llai sy’n gweithredu yng Nghymru.
Dyma fideo o’n Cynhadledd Lysiau Pys Plîs a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023.
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2023
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2022
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2021
Lawrlwythwch Adroddiad Bwydo Ein Dyfodol 2021: Ymchwiliad Bwyd Ysgol
Lawrlwythwch Adroddiad Cyflwr y Genedl Cymru 2021: Bwyd Ysgol
Lawrlwythwch Adroddiad y Cynllun Peilot Grantiau Cymorth Bach i Fusnesau Cynnyrch Garddwriaethol Bwytadwy 2021/2022
Lawrlwythwch Adroddiad Ffeithiau am Lysiau 2021
Lawrlwythwch Adroddiad Llysiau Covid
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2020
Lawrlwythwch Adroddiad Cynnydd Pys Plîs 2019
Os ydych chi’n mwynhau gwrando ar bodlediadau, dyma un ddiddorol sy’n cyd-fynd â’n Adroddiad Cynllun Peilot Grantiau Cymorth Bach i Fusnesau Cynnyrch Garddwriaethol Bwytadwy (2022):