Pwysau Iach: Cymru Iach
Pwysau Iach: Cymru Iach yw strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru. Fel rhan o’i huchelgeisiau, mae Llywodraeth Cymru am:
- I bobl Cymru, a chenedlaethau’r dyfodol, gael y cychwyn gorau mewn bywyd a byw bywydau hirach, gwell a hapusach
- Cefnogi gwneud y dewis iachach yn ddewis hawdd ac i bobl deimlo eu bod yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol am eu ffordd o fyw er mwyn cynnal pwysau iach.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn un o’r sefydliadau hynny sy’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i weithredu a chyfleu ei strategaeth yn effeithiol gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru.