Cychwyn Iach
Menter gan y Llywodraeth yw Cychwyn Iach sy’n darparu cerdyn gydag arian wedi llwytho arno i deuluoedd cymwys i’w wario ar laeth; ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi ac mewn tun; corbys ffres, sych ac mewn tun, a llaeth fformiwla i fabanod.
Mae’r cynllun yn cefnogi teuluoedd sy’n cael mathau penodol o fudd-daliadau, gan helpu mamau beichiog a’r rhai sy’n bwydo ar y fron, a phlant o dan bedair oed yn benodol. Gall teuluoedd cymwys hefyd ddefnyddio eu cerdyn i gasglu fitaminau Cychwyn Iach i gefnogi mamau yn ystod beichiogrwydd a thra’u bod yn bwydo o’r fron yn ogystal â diferion fitaminau ar gyfer babanod a phlant ifanc – mae’r rhain yn addas o enedigaeth hyd at 4 oed.
Ewch i’r wefan
Gwiriwch os ydych yn gymwys am dalebau Cychwyn Iach
Cliciwch yma ar gyfer asedau Cymraeg defnyddiol i hyrwyddo Cychwyn Iach