Ddydd Mawrth, Gorffennaf 23ain am 10.30yb, byddwn yn cynnal sesiwn yn ardal Dysgubor o’r Pentref Garddwriaethol yn Sioe Frenhinol Cymru i lansio cam diweddaraf ein prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.

Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Bydd y sesiwn yn Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid y prosiect yn ogystal â chynrychiolaeth o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gallwch ddysgu mwy am Lysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion trwy ymweld â’n gwefan a thrwy wylio ein fideo esboniadol.