Bydd Synnwyr Bwyd Cymru yn cynnal ein cynhadledd Bwyd mewn Cymunedau nesaf ar gyfer partneriaethau bwyd ddydd Iau, Hydref 10fed yn Nhorfaen. Mae’r gynhadledd drwy wahoddiad yn unig felly os ydych chi wedi derbyn e-bost gyda’r ddolen Eventbrite ond heb archebu lle eto, a fyddech cystal â gwneud hynny cyn gynted ag y gallwch os gwelwch yn dda?  Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad a bod gennych ddiddordeb mynychu, mae croeso i chi gysylltu gyda ni.  Os fedrwn ni gynnig lle i chi, byddwn yn cysylltu gyda chi’n syth.

Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy ebostio: foodsensewales@wales.nhs.uk