Cysylltiadau Bwyd a Thai: Cryfhau cymunedau trwy fwyd da

Mae Synnwyr Bwyd Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd yn trefnu digwyddiad yn edrych ar gysylltiadau bwyd a thai.

Mae bwyd yn rhan annatod o’n lles, yn ogystal â chartref da. Bydd y digwyddiad, a gynhelir ar Fai 22ain yng Nghanolfan YMa, Pontypridd, yn trin a thrafod sut y gall ymyriadau hanfodol tai cymdeithasol mewn cymunedau gysylltu â gwaith cenedlaethol uchelgeisiol a newid sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei fwyta a’i ddosbarthu.

  • Sut gall pŵer bwyd helpu darparwyr tai cymdeithasol i gyflawni eu nodau?
  • Sut gall cysylltiadau cymdeithasau tai â systemau bwyd wella lles preswylwyr?
  • Sut olwg fyddai ar dai a gynlluniwyd ar gyfer diogelwch bwyd cymunedol?
  • Pa bartneriaethau fydd yn galluogi cymunedau i fwynhau bwyd yn well ar gyfer iechyd bodau dynol ac iechyd y blaned?

Mae cymdeithasau tai eisoes yn gwneud cynnydd o ran bwyd: creu mannau ar gyfer tyfu, newid llwybrau caffael, gwella sgiliau coginio tenantiaid. Ond mae mentrau’n parhau i fod bob yn dipyn gan ganolbwyntio ar gymorth bwyd brys yn hytrach nag ymyrryd i atal newyn yn y cartref. Yn y cyfamser, mae gan Gymru brofiad cyfoethog a nodau uchel o ran helpu’r genedl i fwyta’n well. Gall yr arbenigedd hwn ysbrydoli a chefnogi cymdeithasau tai i gyflawni newid trwy fwyd.

Nod y gweithdy hwn yw meithrin cyfraniadau cymdeithasau tai at systemau bwyd mwy cyfiawn a chadarn yng Nghymru, drwy ddod â thair cymuned o arbenigwyr ynghyd :

  • ymarferwyr mewn tai cymdeithasol,
  • actorion yn llunio lleoedd bwyd cynaliadwy, ac
  • ymchwilwyr sy’n arbenigo mewn trawsnewid systemau bwyd a thai.

Bydd unigolion yn cyfnewid syniadau ac yn gwneud cysylltiadau, gan weithio tuag at uchelgais a rennir ar gyfer rhoi bwyd wrth galon tai cymdeithasol iach. Byddant yn nodi cyfleoedd ar gyfer cynnydd ar y cyd, ac yn awgrymu sut y gellir eu cefnogi orau yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gefnogi gan Gynllun Grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  Mae’n cael ei drefnu gan Synnwyr Bwyd Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

I archebu’ch lle, ewch i’r dudalen Eventbrite: Cysylltiadau Bwyd a Thai ¦ Food and Housing Connections Tickets, Thu, May 22, 2025 at 10:30 AM | Eventbrite