Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2024
Mae unig gynhadledd annibynnol Cymru ar fwyd a ffermio cynaliadwy yn ôl ar 20-22 Tachwedd 2024 ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Thema’r gynhadledd eleni yw ‘Mwy o Fwyd – Mwy o Ffermwyr – Mwy o Natur – Mwy o Wydnwch.’ Mae Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn gwahodd ffermwyr, tyfwyr, pobyddion, cogyddion ac addysgwyr bwyd i ddweud eu dweud, rhannu gydag arbenigwyr eraill mewn systemau cynaliadwy, ac i rwydweithio â chynrychiolwyr o’r sector bwyd ehangach ledled Cymru.
Bydd Derek Walker, ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn agor y Gynhadledd, sy’n cynnig amrywiaeth eang o drafodaethau, sgyrsiau a gweithdai panel i gyd mewn deuddydd llawn dop, gydag ymweliadau maes ysbrydoledig ar y trydydd diwrnod.
Os hoffech achi fynychu, gallwch archebu tocynnau yma. Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd, ewch i wefan Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.