Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn cymeradwyo papur briffio Cyswllt Amgylchedd Cymru
Ddoe, cyhoeddwyd papur briffio gan Gyswllt Amgylchedd Cymru yn trafod Cynhyrchu Bwyd Cynaliadwy a Sicrwydd Bwyd. Isod, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn amlinellu’r rhesymau dros gymeradwyo’r dull gweithredu:
“Mae system fwyd y DU yn wynebu heriau sylweddol sy’n dwyn ynghyd effeithiau’r pandemig; Brexit; argyfyngiadau natur, hinsawdd ac iechyd, a bellach, argyfwng daearwleidyddol sy’n cael effaith uniongyrchol. Mae ein calonnau a’n meddyliau gyda phawb sy’n cael eu heffeithio gan y digwyddiadau byd-eang.
“Mae’r digwyddiadau hyn wedi dwysáu’r ddadl fyd-eang ynglyn â diogelwch bwyd. Maent hefyd wedi’n hatgoffa o’r gwendidau sydd wrth wraidd ein system bwyd nwyddau fyd-eang; system sy’n dibynnu ar fasnach ryngwladol dorfol, mewnbynnau cemegol a phŵer tanwydd ffosil. Maent wedi dangos inni fod yn rhaid edrych ar wytnwch ein systemau bwyd a ffermio.
“Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn cymeradwyo’r dull gweithredu a amlinellir ym mhapur briffio Cyswllt Amgylchedd Cymru a gyhoeddwyd ddoe sy’n pwysleisio’r angen yng Nghymru i wella’r system fwyd yn ei chyfanrwydd – o’r fferm i’r fforc – os ydym am alluogi system wydn a all feithrin cenedlaethau’r dyfodol. Byddai symud tuag at arferion ffermio sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, megis agroecoleg, ffermio organig, ac amaeth-goedwigaeth, yn darparu llwybr i sicrhau diogelwch bwyd hirdymor, sofraniaeth bwyd, a chynaliadwyedd cyffredinol systemau bwyd. Byddai buddsoddi mewn ecosystemau gwydn sy’n gallu cynhyrchu bwyd, a’r holl wasanaethau eraill rydym yn dibynnu arnynt, yn cynyddu ein diogelwch bwyd ein hunain yn ogystal â diogelwch y blaned.”