Cyfrifiad Materion Bwyd: Llunio dyfodol cyllido ar gyfer bwyd a ffermio

Mae’r trydydd Cyfrifiad Materion Bwyd wedi’i lansio’r wythnos hon (Rhagfyr 11eg) a gwahoddir yr holl sefydliadau a chymunedau sy’n gweithio ac yn trefnu o amgylch materion sy’n ymwneud â bwyd yn y DU i gymryd rhan.

Bydd y Cyfrifiad yn darparu offeryn defnyddiol ar gyfer deall gwaith cymdeithas sifil y DU ar fwyd a ffermio, gan gynnwys pwy sy’n gweithio ar beth a beth yw anghenion a heriau allweddol y sector. Yn hollbwysig, mae hwn yn gyfle i rannu eich blaenoriaethau gyda chyllidwyr a llunio’r dirwedd cyllido ar gyfer bwyd a ffermio.

Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: https://form.jotform.com/243423813703047