Cyflwyno ‘Llwybr Bwyd y Fro’ am y tro cyntaf i ddathlu bwyd a diod cynaliadwy Bro Morgannwg
Bydd digwyddiad newydd yn taflu goleuni ar y sîn fwyd leol a bywiog Bro Morgannwg – gan ganolbwyntio’n benodol ar fwyd a diod cynaliadwy.
Bydd y digwyddiad Llwybr Bwyd y Fro cyntaf rhwng 9 – 18 Mehefin yn cynnwys calendr o ddigwyddiadau sydd wedi’u dylunio i leihau’r bwlch rhwng pobl, cynhyrchwyr a busnesau bwyd yn y Fro, tra’n dyfnhau cysylltiad pobl â’u cymuned.
Bydd ymwelwyr a phobl leol yn gallu teithio o amgylch y rhanbarth yn annibynnol, gan ymweld ag amrywiaeth o gynhyrchwyr, caffis, bwytai a busnesau eraill. Mae cyfanswm o 20 o fusnesau a sefydliadau wedi cofrestru i gynnal amryw ddigwyddiadau i gyflwyno bwyd sy’n dda i natur a’r hinsawdd (amaeth-ecolegol).
Bydd angen tocyn i fynd i rai digwyddiadau, gyda threfnwyr hefyd yn cynllunio cyfres o weithgareddau am ddim ar fwyd, lles, a newid hinsawdd.
Mae Llwybr Bwyd y Fro yn cael ei drefnu gan bartneriaid o Bwyd y Fro, sef Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Bro Morgannwg; Ymweld â’r Fro; Tim Adfywio a Strategaeth a Phartneriaethau Economaidd Cyngor Bro Morgannwg; a rhaglen cymorth busnes Cywain gan Menter a Busnes.
Mae Louise Denham yn gydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Fwyd y Fro, ac un o gydlynwyr yr ŵyl. Eglurodd: “Mae gan y Fro sîn fwyd fywiog, leol – o’r ffermwyr, tyfwyr, a phobyddion sy’n gwneud ein bwyd – i’r caffis a’r bwytai lleol sy’n ei goginio ac yn ei wasanaethu. Bydd Llwybr Bwyd y Fro yn dathlu hyn, tra hefyd yn cryfhau cysylltiadau cymunedol a chan bwysleisio pwysigrwydd hinsawdd a bwyd sy’n dda i natur drwy ystod o ddigwyddiadau ymarferol, gweithgareddau a sgyrsiau.”
Dywedodd Nia Hollins, Prif Swyddog Twristiaeth a Marchnata Cyngor Bro Morgannwg, “2023 yw Blwyddyn ‘Cymru, trwy Lwybrau’, felly rydyn ni’n falch iawn o gael bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n dathlu ein coginio lleol drwy gyflwyno’r gorau o’r Fro i’n trigolion a’n hymwelwyr. Mae Llwybr Bwyd y Fro yn gyfle gwych i roi llwyfan i Fro Morgannwg i ddenu ymwelwyr â diddordeb mewn bwyd.”
Mae Llwybr Bwyd y Fro wedi cael arian drwy grant ymgyrch Economi Bwyd Da a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a grant ‘Gwobrau i Bawb’ y Loteri Genedlaethol.
Llwybr Bwyd y Fro: pwy sy’n cymryd rhan?
Dyma rai o’r busnesau a’r sefydliadau sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o Lwybr Bwyd y Fro hyd yn hyn:
- Siop a Chegin Fferm Forage:Rhan o fferm deuluol Ystâd Penllyn a chanolfan fywiog i fwyd Cymreig lleol.
- Slade Farm Organics: Fferm deuluol sy’n darparu dewis arbennig o gig eidion, cig oen, porc a chig dafad organig Cymreig i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro
- Te Peterston: Fferm fechan gyda syniadau mawr sy’n tyfu te a ffrwythau Cymreig yn organig
- Tyddyn Garlic Meadow: Tyddyn 15 erw i’r gorllewin o Gaerdydd, cartref i haid fach o eifr yn ogystal â heidiau pedigri o ddefaid Dorset Down a Defaid Mynydd Cymreig Du.
- Deli a Chaffi Foxy’s:Caffi a hyb gymunedol leol ym Mhenarth ers mwy na 17 mlynedd.
- Siop Awesome Wales: Siopau ffordd o fyw Dim Gwastraff yn y Bont-faen a’r Barri.
Bydd manylion pellach am ddigwyddiadau penodol, busnesau eraill sy’n cymryd rhan a sut i archebu tocynnau yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf. I gael gwybod mwy, ewch i www.valefoodtrail.com, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, a cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr i dderbyn hysbysiadau a diweddariadau pellach.
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #LlwybrBwydyFro.