Carreg filltir i bolisi bwyd yng Nghymru

Ebrill 29ain 2025

Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol i bolisi bwyd yng Nghymru yn sgil rhyddhau dau gyhoeddiad pwysig – Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru. Mae’r dogfennau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer sbarduno a galluogi’r mudiad bwyd da sydd ar gynnydd yng Nghymru er mwyn hybu llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol Cymru drwy fwyd.

Mae’r ddau gyhoeddiad yn pwysleisio rôl ganolog Partneriaethau Bwyd Lleol yn y broses o lunio dyfodol bwyd yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at y ffordd y mae mentrau arloesol fel Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, yn gallu manteisio ar botensial prosesau caffael cyhoeddus drwy greu system fwyd fwy cynaliadwy.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod ar flaen y gad ers amser maith o ran meithrin partneriaethau bwyd lleol ledled Cymru fel rhan o’r rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac mewn cydweithrediad â chymunedau, a Llywodraeth Cymru, datblygwyd rhwydwaith o bartneriaethau cryf a chadarn.  Mae adroddiad statws sydd newydd gael ei gyhoeddi yn rhoi cipolwg ar y sefyllfa bresennol, gan amlygu arferion gorau ar draws y 22 o Bartneriaethau Bwyd Lleol yng Nghymru ac yn rhannu adborth gan aelodau’r bartneriaeth.

Yn 2023, cyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru y ddogfen Cymru Can – strategaeth ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor ac yn cyhoeddi mai’r system fwyd yw ei faes ffocws cyntaf. Ers hynny mae’r Comisiynydd wedi bod yn gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chyrff Cyhoeddus i integreiddio polisïau bwyd cynaliadwy yn eu cynlluniau llesiant, gan roi pwyslais arbennig ar gynlluniau bwyd cymunedol sy’n meithrin newid ar lefel leol.

“Mae’n wych gweld adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn hyrwyddo llu o gamau gweithredu sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys datblygu Cynllun Gwydnwch Bwyd Cenedlaethol; y gefnogaeth barhaus i Bartneriaethau Bwyd yn ogystal â chymorth pellach i arddwriaeth a Llythrennedd Bwyd,” meddai Katie Palmer, Sylfaenydd a Phennaeth Synnwyr Cymru.

“Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi buddsoddi llawer o adnoddau yn y maes bwyd ac rydym yn sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â gwaith y Partneriaethau Bwyd er mwyn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu cyngor i Gyrff Cyhoeddus ar Fwyd. Mae’r gwaith hwn wedi’i driongli â Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi’i chyhoeddi heddiw.

“Mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi cael eu cydnabod yn adroddiad y Comisiynydd a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol fel grym sy’n hanfodol i ddod â rhanddeiliaid, polisïau a mentrau ynghyd, gan alluogi gweithredwyr lleol i gydweithio i greu a chyflawni gweledigaeth a strategaeth gyffredin ar gyfer system fwyd fwy cynaliadwy, teg a gwydn,” meddai Katie.  “Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn falch iawn o weld gwaith pwysig Partneriaethau Bwyd Lleol yn cael ei gydnabod ac yn edrych ymlaen at weld sut y gall eu datblygiad pellach gael effaith gadarnhaol ar ein system fwyd yng Nghymru a meithrin gwydnwch mawr ei angen ar gyfer y dyfodol,” ychwanega Katie.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn cydlynu’r fenter arloesol Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, prosiect ymchwil weithredol gyfranogol gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o gynnyrch organig Cymreig mewn ysgolion. Yr wythnos ddiweddaf, cyhoeddwyd adroddiad newydd yn manylu ar effaith y prosiect a’i gamau yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn amlygu’r potensial i 25% o’r holl lysiau a ddefnyddir mewn prydau ysgolion cynradd yng Nghymru fod yn rhai organig sy’n cael eu tyfu’n lleol erbyn 2030.

Drwy fanteisio ar y cyfle yn y farchnad yn sgil polisi Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, a thrwy gefnogi cyrff cyhoeddus i fodloni eu gofynion statudol, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn sbardun i gynhyrchu llysiau organig yng Nghymru a meithrin gwytnwch ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r gwaith hwn yn hanfodol os yw cyrff cyhoeddus o ddifrif ynglŷn â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol a datblygu’r gallu i wrthsefyll siociau ac effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol”, ychwanega Katie Palmer.

“Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y gwaith y mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion wedi’i gyflawni ac rydym yn falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei defnyddio fel esiampl yn adroddiad blynyddol Comisiynydd Cenedlaethau ‘r Dyfodol yn ogystal â’r Strategaeth Bwyd Cymunedol,” meddai.

“Fel tîm, rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yma, ond gwyddom fod llawer o waith i’w wneud o hyd.  Mae’r gwaith hwn yn ymdrech enfawr ar y cyd ac mae ei lwyddiant yn dyst i’r egni cydweithredol a’r buddsoddiad gan nifer o randdeiliaid.”

Gallwch ddarllen Adroddiad Statws y Partneriaethau Bwyd Lleol yma a gwylio’r ffilmiau cysylltiedig yma.

Gallwch hefyd ddarllen adroddiad Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yma.

DIWEDD