Bwyd mewn Ysgolion?

Gyda safon bwyd ysgol yn y newyddion eto wythnos diwethaf, mae Katie Palmer o Synnwyr Bwyd Cymru yn myfyrio ar yr heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n gweithio gyda bwyd mewn ysgolion.

Mae bwyd mewn ysgolion wedi bod yn uchel ar yr agenda newyddion yn ddiweddar gyda phrifathro yn Lloegr yn cwestiynu ansawdd y prydau ysgol a ddarperir gan gwmni arlwyo preifat sydd wedi’i gontractio i’w ysgol.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi bod yn meddwl fwyfwy am fwyd mewn ysgolion trwy brosiectau fel Caru Cennin, Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru a’r Awr Fwyd – ac rwy’ wedi meddwl llawer am y bwyd mae plant yn ei fwyta mewn ysgolion: o ble mae’n dod, a’r hyn mae plant yn ei ddysgu am fwyd. Bydd y ffordd y mae plentyn yn cael profiad o fwyd yn yr ysgol yn dylanwadu ar ei ddewisiadau yn ei fywyd fel oedolyn, felly mae gennym ddyletswydd i sicrhau ein bod yn cael bwyd yn iawn yn ein hysgolion.

Gwlad fach yw Cymru ac mae ein plant wedi elwa’n aruthrol o wasanaeth cyhoeddus sydd, yn bennaf, yn darparu prydau ysgol yn uniongyrchol i ddysgwyr drwy arlwywyr awdurdodau lleol. Mae hyn yn wahanol i Loegr lle mae arlwyo yn fwy tebygol o gael ei ddarparu gan gontractwr preifat.

Fel y gwyddom, mae pob amser lle i wella, ond mae’r ddarpariaeth o fewn rhodd yr awdurdod lleol yn hytrach na busnesau neu fuddiannau preifat – pwynt allweddol, gan fod cymaint o’n system fwyd yn cael ei reoli gan gorfforaethau mawr. Mae’r ffaith fod ein gwasanaethau arlwyo yng Nghymru ar y cyfan yn ‘fewnol’, yn galluogi arloesi a chydweithio mewn ffordd ystyrlon na fyddai’n bosibl pe bai’r gwasanaeth yn cael ei breifateiddio, wedi’i dorri i fyny, ac yn dameidiog. Mae hefyd yn caniatáu i ni helpu economi ehangach Cymru, drwy gefnogi cyfanwerthwyr a chyflenwyr lleol.

Rydym wedi gweld pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn gyda datblygiad y cynllun brecwast; ry’n ni wedi gweld ei rôl ganolog wrth ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen Bwyd a Hwyl sydd wedi ennill gwobrau niferus, ac ry’n ni’n gweld y rhan hollbwysig y mae’r gwasanaeth yn chwarae wrth gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bawb mewn ysgolion cynradd yn Nghymru. Mae rheolwyr arlwyo ar draws awdurdodau lleol wedi bod yn cydweithio, yn cefnogi ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Ni fyddai llawer o’r arloesi sy’n digwydd ar hyn o bryd, fel y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, lle mae pum ardal awdurdod lleol yn cefnogi gwaith ar ddatblygu cadwyni cyflenwi garddwriaeth yn ysgolion, yn bosibl mewn gwasanaeth tameidiog gyda buddiannau penodol.

Ond mae’r pwysau cynyddol ar awdurdodau lleol ac ysgolion yn gwneud y rhai sy’n gweithio yn y system yn bryderus. Ac mae ganddyn nhw reswm i bryderu. Mae cadwyni cyflenwi yn mynd yn anoddach, mae cyllidebau’n mynd yn dynnach, ac mae’r angen i blant gael amser cinio hapus a maethlon yn fwy nag erioed. Mae cymaint o randdeiliaid ac arbenigwyr yn ymwneud â’r ecosystem bwyd ysgol fel bod dyfroedd yn gallu mynd yn ddryslyd ac mae’n mynd yn anoddach i bobl weld beth sydd ei angen mewn gwirionedd – ac yn fy marn i – gwasanaeth arlwyo awdurdod lleol ag adnoddau digonol yw hwnnw – un sydd wedi’u monitro ac un sy’n grymuso ac yn galluogi rheolwyr arlwyo a staff y gegin i ymfalchïo yn y bwyd y maent yn ei weini i’w plant. Yn ei dro byddai hyn yn galluogi pobl ifanc i gymryd llawenydd o’u cinio ysgol, cyfoethogi eu dysgu a helpu i greu dinasyddion bwyd da ar gyfer y dyfodol.

Mwy am Katie Palmer

Katie Palmer yw Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru. Mae gan Katie MSc mewn Maetheg o Kings College, Llundain ac mewn Polisi Bwyd o City University. Mae hi’n gweithio ym maes bwyd ers dros 20 mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn y sector preifat (Volac International), y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys 6 blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gyn-aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru).  Roedd Katie’n un o aelodau sefydlu Bwrdd Nerth Llysiau yn ogystal ag un o aelodau sefydlu Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.  Mae hi hefyd yn eistedd ar Grŵp Cynghori Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol CLlLC ac roedd yn un o’r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, a enillodd sawl gwobr, yng Nghaerdydd yn 2015.  Yn fwy diweddar, mae Katie wedi’i hethol yn aelod o Gyngor Mewnol Systemau Bwyd Ymwybodol sy’n cefnogi mudiad o ymarferwyr bwyd, amaethyddiaeth ac ymwybyddiaeth, a gynullwyd gan UNDP, ac yn unedig o amgylch nod cyffredin: i gefnogi pobl o bob rhan o systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin y galluoedd mewnol sy’n ysgogi newid systemig ac adfywio.