Addasu a Gwytnwch: System fwyd Cymru a heriau’r dyfodol

Yn ddiweddar, yn rhan o Sioe Deithiol Ranbarthol COP26 Llywodraeth Cymru, arweiniwyd sesiwn yn ymwneud ag Amaethyddiaeth ac Annibyniaeth Bwyd gan Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen, Synnwyr Bwyd Cymru, a hynny yn ystod y digwyddiad Addasu a Gwytnwch a gynhaliwyd yn Ne-orllewin Cymru.

Yma, mae Katie yn rhannu ei meddyliau, gan roi trosolwg o bwysigrwydd y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru, ac yn amlinellu pedair o’r prif heriau y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw os ydym am drosglwyddo i system bwyd a ffermio gadarn a chyfiawn:

“Mae data cyn y pandemig gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod gan fusnesau ledled y gadwyn gyflenwi yng Nghymru drosiant o £22.1 biliwn yn 2019 a marchnad allforio gwerth cyfanswm o £565 miliwn. Mae’r sector yn gyflogwr hanfodol yng Nghymru, ac roedd yn cyflogi 229,500 o weithwyr, sef 16.9% o’r holl swyddi, yn 2018 (gan gynnwys ffermwyr a gweithwyr amaethyddol). Mae’r gadwyn gyflenwi yn cynnwys safleoedd microfusnesau yn bennaf (sy’n cyflogi llai na 10 unigolyn), a oedd yn gyfrifol am 85% o’r holl safleoedd bwyd a diod yng Nghymru yn 2019.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei gweledigaeth ar gyfer y sector yn gynharach yn y flwyddyn, gweledigaeth i greu sector bwyd a diod o Gymru sy’n gryf, yn egnïol ac yn meddu ar enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, ac iddo un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Ond mae ein system bwyd a ffermio yn fwystfil cymhleth ac yn agored iawn i effeithiau grymoedd byd-eang.

Yr her gyntaf yw na allwn siarad am newid yn yr hinsawdd heb siarad am gytundebau masnach. Rydym yn dibynnu ar fasnachu byd-eang ar gyfer mewnbynnau a nwyddau, ac rydym yn dibynnu ar farchnadoedd rhyngwladol ar gyfer masnach. Gallai cytundebau masnach a wneir trwy Lywodraeth y DU bennu ansawdd ein bwyd yn y pen draw wrth i drafodwyr gytuno ar safonau sy’n disgyn ymhell islaw ein safonau domestig ar les anifeiliaid a’r amgylchedd. Sut y gall cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru gynnal y safonau cyfredol a gwneud cynnydd tuag at y safonau yn y Bil Amaethyddiaeth sydd ar ddod, a’r rhai sy’n ofynnol i fodloni cyllideb garbon Cymru, a hynny mewn marchnad nad yw’n gweithredu ar sail deg?

Yr ail her yw na allwn siarad am newid yn yr hinsawdd nac amaethyddiaeth heb edrych ar y system fwyd, ffermio a physgodfeydd yn ei chyfanrwydd. Rydym yn gwybod bod traean o’n bwyd yn cael ei wastraffu yn fyd-eang, ac y daw traean o’r allyriadau byd-eang o fwyd a ffermio. Daw’r allyriadau hyn o amrywiaeth o brosesau – o amaethyddiaeth a defnydd tir, i’r modd yr ydym yn storio, yn cludo, yn pecynnu, yn prosesu, yn gwerthu ac yn bwyta bwyd. Ac rydym hefyd yn gwybod bod y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y cynhyrchiant amaethyddol – sy’n her i ddiogeledd bwyd pan nad yw 10% o boblogaeth y byd yn cael digon o faeth.

Er gwaethaf hyn, mae pwysigrwydd bwyd yn absennol i raddau helaeth o drafodaethau rhyngwladol ar yr hinsawdd yn COP26. Galwyd ar Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, i gydnabod rôl hanfodol defnydd tir ac amaethyddiaeth, ac i ddeall y gall arferion ffermio mwy cynaliadwy gynhyrchu bwyd da, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a gwella natur ar yr un pryd. Mae’r rheiny a lofnododd lythyr a gydlynwyd gan Sustain, yn galw ar y llywodraeth i wobrwyo ffermwyr am drosglwyddo i amaethecoleg, ac i gynnal safonau uchel wrth lofnodi cytundebau masnach newydd, gan eiriol ar yr un pryd dros bolisïau bwyd a ffermio gwell yn fyd-eang. Maent hefyd yn galw am i fwyd yn y sector cyhoeddus adlewyrchu deiet iach a chynaliadwy ac am brynu gan ffermwyr mwy cynaliadwy ym Mhrydain.

Y drydedd her yw na allwn siarad am newid yn yr hinsawdd ar wahân, heb ystyried yr heriau eraill sy’n wynebu’r system fwyd yn ei chyfanrwydd. Mae angen ystyried y bwyd ar ein platiau yng nghyd-destun ehangach cynaliadwyedd, yn hytrach nag yn nhermau’r un nod o Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr. Mae’n ymwneud â’r modd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, o les anifeiliaid fferm, i gyflogau ac amodau gwaith pawb yn y gadwyn gyflenwi, a ph’un a yw’n cynnal bywyd gwyllt ac yn osgoi llygredd. Mae hefyd yn ymwneud â hanes a threftadaeth – a’n hiaith, sy’n cynnwys cysylltiadau emosiynol a diwylliannol cryf â bwyd a thir y mae angen eu parchu a’u dathlu.

Gan ddefnyddio iaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i esbonio’r pwynt hwn:

Ni allwn gael ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ tra bod 30% o’r tir dramor a ddefnyddir i dyfu nwyddau i’w mewnforio i Gymru mewn gwledydd sydd mewn categori risg uchel neu uchel iawn o ddatgoedwigo, trosi cynefinoedd, ac o ran materion cymdeithasol (fel yr amlygwyd yn yr Adroddiad Cyfrifoldeb Byd-eang a lansiwyd gan WWF Cymru, Maint Cymru ac RSPB Cymru yr wythnos hon).

Ni allwn gael ‘Cymru Iachach’ tra bod bron i draean y plant sy’n dechrau ysgol yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew a bron i draean y plant 5-10 oed yn bwyta llai nag un dogn o lysiau y dydd..

Ni allwn gael ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’ nes bod pob plentyn yng Nghymru y mae arno angen pryd ysgol maethlon yn cael hynny.

Ni allwn gael ‘Cymru lewyrchus’ tra bod y bobl hynny sy’n cynhyrchu ac yn cyflenwi ein bwyd ar gyflogau canolrifol, sef bron hanner cyflog y gweithiwr cyffredin yng Nghymru, ac yn fwy tebygol o ddioddef o ansefydlogrwydd o ran bwyd na’r rheiny sy’n gweithio mewn sectorau eraill.

Ni allwn gael ‘Cymru gydnerth’ tra ein bod yn cynhyrchu ¼ dogn o lysiau’r pen y dydd yn unig ar 0.2% o dir, ac yn y cyfamser yn mewnforio cynnyrch o wledydd sy’n wynebu heriau o ran yr hinsawdd a dŵr.

Ac ni allwn gael ‘Cymru o gymunedau cydlynus’ oni bai ein bod yn amddiffyn, yn dathlu, yn meithrin ac yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol am ein treftadaeth bwyd a ffermio unigryw.

Mae fy mhedwaredd her, a’r her olaf, yn ymwneud â democratiaeth a llywodraethu. Ni allwn liniaru’r heriau sydd o’n blaenau, ac addasu iddynt, heb gael sgyrsiau agored a gonest, a chydnabod cymhlethdod adeiladu system fwyd gadarn a chyfiawn. Mae arnom angen meddwl mewn modd integredig, arweinyddiaeth a llywodraethu cenedlaethol a lleol, a gweledigaeth a rennir ar gyfer ein system fwyd yng Nghymru.”

Mae cymhlethdodau’r ddadl ynghylch bwyd, ffermio a’r hinsawdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni wrando ar leisiau ystod amrywiol o bobl sy’n gweithio ledled y system fwyd yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod lleisiau bwyd a ffermio Cymru yn cael llwyfan, a dyna pam y mae Synnwyr Bwyd Cymru wedi cynhyrchu cyfres o bodlediadau, ar ran Cynghrair Polisi Bwyd Cymru, o’r enw ‘Bwyd. Hinsawdd. Newid?’

Wrth i’r byd ganolbwyntio ar Glasgow ac ar COP26, mae’n rhaid i ni ein hatgoffa ein hunain y gellir priodoli rhwng 21%-37% o’n holl allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang i’r system fwyd. Daw’r allyriadau hyn o amrywiaeth o brosesau – o amaethyddiaeth a defnydd tir, i’r modd yr ydym yn storio, yn cludo, yn pecynnu, yn prosesu, yn gwerthu ac yn bwyta bwyd.  

Pe byddai pawb sy’n gweithio ledled ein system fwyd yn dod ynghyd gyda’r nod o wneud newidiadau cadarnhaol – sef yr uchelgais i barhau ar daith i sero-net a’r ewyllys i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd – credaf y gallai Cymru yn bendant greu system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

DIWEDD

Os oes gennych ddiddordeb mewn bwyd a newid yn yr hinsawdd ac os ydych yn dymuno gwrando ar ragor o benodau, gallwch ddod o hyd i’r gyfres Gymraeg yma a’r gyfres Saesneg yma .

Gwybodaeth am Katie Palmer:

Katie PalmerKatie Palmer yw Rheolwr Rhaglenni y mudiad Synnwyr Bwyd Cymru. Mae gan Katie MSc mewn Maetheg o Kings College, Llundain ac mewn Polisi Bwyd o City University. Mae wedi gweithio ym maes bwyd ers dros ugain mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn y sector preifat (Volac International), y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys chwe blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd).  Ar hyn o bryd, mae Katie yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Bwrdd Gweithredu Pwysau Iach: Cymru Iach , ac mae’n un o aelodau Bwrdd Nerth Llysiau / Veg Power. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd yn un o’r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl yng Nghaerdydd yn 2015, a enillodd amryw o wobrau.