Cyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i’r blaned
Ein Cenhadaeth
Mae Synnwyr Bwyd Cymru am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru er mwyn sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.
Mwy amdanom ni a’n gwaith
Sefydlwyd Synnwyr Bwyd Cymru yn 2018 er mwyn datblygu ymagwedd traws-sector ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda chymunedau, sefydliadau, llunwyr polisi a’r Llywodraeth ar draws Cymru i greu system bwyd a ffermio sydd o les i bobl ac i’r blaned. Rydym am ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus.
I gyflawni hyn, credwn y dylai’r amgylchedd, iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, a’r economi gael eu hintegreiddio ym mhob meddylfryd polisi yng Nghymru. Gellir cyflawni’r dull “bwyd ym mhob polisi” hwn drwy gyfrwng ymchwil, cydweithredu traws-sector a thrwy ysgogi dinasyddion a rhanddeiliaid fel rhan o “Fudiad Bwyd Da Cymru” gan gynyddu ymwybyddiaeth o faterion bwyd ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau’n ymwneud â bwyd. Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn helpu i ddatblygu’r Mudiad Bwyd Da hwn trwy ddarparu a gweithredu nifer o raglenni sy’n gysylltiedig â bwyd ledled Cymru – llawer ohonynt fel rhan o bartneriaethau DU.
Yn gronfa o fewn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, fe gynhelir Synnwyr Bwyd Cymru gan dîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro. Fe’n cefnogwn gan amrywiaeth o bartneriaid cyllido, gan gynnwys Sefydliad Esmée Fairbairn.
Gallwch ddysgu mwy am systemau bwyd drwy wylio’r ffilm fer isod:
Ein gwerthoedd
Drwy ein gweithgareddau a'n gwaith eirioli, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn hyrwyddo:
Cydweithio
Meithrin perthynas waith a strategol gadarnhaol gyda chyfranogwyr ac asiantau eraill, yng Nghymru ac ar draws y DU, gan ein galluogi i helpu i lunio a chyd-greu system fwyd fwy cynaliadwy a llewyrchus i’n cenedl gan ddefnyddio dull cyfannol – gan ailadrodd pwysigrwydd ystyried y system fwyd fel un system gyfan.
Cynhwysiant
Dod â chymunedau o ddiddordeb ynghyd o bob rhan o Gymru; cael gwared ar rwystrau a stigma, a mynd ati i annog cyfranogiad yn ein prosiectau, ein rhaglenni a’n hymgyrchoedd.
Uniondeb
Hyrwyddo dyfodol teg, cyfiawn a llewyrchus i Gymru a’i phobl; yn benderfynol o sicrhau bod gan bawb o bob oed yng Nghymru fynediad urddasol at fwyd iach o safon.
Ystwythder
Bod yn ymatebol i newidiadau mewn cymdeithas yn ogystal ag unrhyw newidiadau i feysydd polisi y mae bwyd a systemau bwyd yn berthnasol iddynt; bod yn chwim ac yn barod i weithredu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Symbyliad
Ysbrydoli a dylanwadu ar bobl a chymunedau ar draws Cymru i ymgysylltu â bwyd; codi ymwybyddiaeth o faterion bwyd a hyrwyddo gweithgareddau arloesol sy’n gysylltiedig â bwyd i symbylu a thyfu Mudiad Bwyd Da yng Nghymru.
“Mae llawer i’w wneud, ond mae awydd anniwall hefyd gan y rhai sy’n gweithio yn system fwyd Cymru i yrru’r newid sydd ei angen ar ein cymunedau a’n planed. Fel tîm rydym yn teimlo’n freintiedig iawn i fod yn gweithio mewn gofod, yng Nghymru a gyda’n rhanddeiliaid yn y DU, lle mae cymaint o angerdd, egni a chymhelliant di-baid yn arwain at obaith a newid – waeth pa mor fawr yw’r her.”
Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen, Synnwyr Bwyd Cymru
Cwrdd â'r tîm
Caz Falcon
Rheolwr Cefnogi Prosiectau
Caz Falcon
Rheolwr Cefnogi Prosiectau
Ymunodd Caz â thîm prysur Synnwyr Bwyd Cymru ym mis Ionawr 2022, gan ddod â dros 30 mlynedd o brofiad yn cefnogi swyddfeydd proffesiynol, cwmnïau cyfreithiol, a’r GIG. Mae wedi cymhwyso yn Prince2 ac yn gyn-fyfyriwr rhaglen CEIC (Economi Gylchol) Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Fel Rheolwr Cefnogi Prosiectau, mae Caz yn darparu cymorth ariannol, gweinyddol, rheoli digwyddiadau, busnes a phrosiect i hyrwyddo amcanion strategol Synnwyr Bwyd Cymru. Mae’n cysylltu â rhanddeiliaid amrywiol ledled Cymru a’r DU i hwyluso cynllunio, cyfathrebu a meithrin perthnasoedd effeithiol.
Yn flaenorol, bu Caz yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol yn y GIG, a dyfarnwyd gwobr Cynorthwyydd Personol y Flwyddyn GIG Cymru iddi yn 2016 gan gael ei disgrifio fel Cynorthwyydd Personol anhygoel gydag agwedd ragweithiol.
Y tu allan i’r gwaith, mae Caz yn arweinydd cymunedol gweithgar, gan wasanaethu fel Ysgrifennydd ac Ymddiriedolwr ar Fwrdd Here for Good Collective/Hope Llaneirwg. Yn ei hamser hamdden, yn aml gallwch ddod o hyd iddi naill ai yn y gampfa neu’n gyrru ei Mini 1972 clasurol!
Mae Pearl yn un sy’n ysgogi newid o blaid cynaliadwyedd ac mae’n arwain rhaglen Dinas Bwyd Cynaliadwy Caerdydd trwy Fwyd Caerdydd. Mae Pearl hefyd yn eistedd ar Fwrdd Prosiect Pys Plîs i gefnogi gweithredu’n lleol trwy Dinasoedd Llysiau ac i hwyluso a grymuso llais pobl ar lysiau.
Bu Pearl yn arwain rhaglen uchelgeisiol a thrawsnewidiol ar gynaliadwyedd yn y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, gan ennill sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Prifysgol y Guardian am Brosiect Cynaliadwyedd yn 2016. Hefyd, datblygodd raglenni arloesol ar ymgysylltu a newid ymddygiad gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Mae ganddi radd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Bioleg Forol ac Ecoleg Gymdeithasol (arbenigodd mewn ymddygiad anifeiliaid) a gradd MSc (Rhagoriaeth) mewn Dylunio Amgylcheddol Adeiladau (arbenigodd mewn ymddygiad pobl). Mae hi hefyd yn Aelod Ymarferydd o’r Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol.
Katie yw Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru. Mae gan Katie MSc mewn Maetheg o Kings College, Llundain ac mewn Polisi Bwyd o City University. Mae hi’n gweithio ym maes bwyd ers dros 20 mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn y sector preifat (Volac International), y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys 6 blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru). Roedd Katie’n un o aelodau sefydlu Bwrdd Nerth Llysiau yn ogystal ag un o aelodau sefydlu Cynghrair Polisi Bwyd Cymru. Mae hi hefyd yn eistedd ar Grŵp Cynghori Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol CLlLC ac roedd yn un o’r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl, a enillodd sawl gwobr, yng Nghaerdydd yn 2015. Yn fwy diweddar, mae Katie wedi’i hethol yn aelod o Gyngor Mewnol Systemau Bwyd Ymwybodol sy’n cefnogi mudiad o ymarferwyr bwyd, amaethyddiaeth ac ymwybyddiaeth, a gynullwyd gan UNDP, ac yn unedig o amgylch nod cyffredin: i gefnogi pobl o bob rhan o systemau bwyd ac amaethyddiaeth i feithrin y galluoedd mewnol sy’n ysgogi newid systemig ac adfywio.
Wedi gweithio ym meysydd Cyfathrebu, Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau am dros ugain mlynedd, ymunodd Siân-Elin â Synnwyr Bwyd Cymru ym mis Hydref 2020 fel Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Yn ogystal ag arwain ar strategaethau ac allbynnau Cyfathrebu ac Ymgysylltu Synnwyr Bwyd Cymru, mae Siân-Elin hefyd yn aelod o Grŵp Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Ymgyrchoedd Pwysau Iach Cymru Iach; Rhwydwaith Cychwyn Iach Cymru ac mae’n aelod o grŵp llywio partneriaeth Bwyd Sir Gâr. Mae hi hefyd yn cefnogi Cynghrair Polisi Bwyd Cymru gyda chyflawniadau cyfathrebu’r grŵp ac mae’n Rhiant Lywodraethwr yn ei hysgol Gynradd leol.
Cyn ymuno â Synnwyr Bwyd Cymru, bu’n gweithio fel Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyn ei hamser yn sector y Brifysgol, treuliodd Siân-Elin chwe blynedd fel Cynhyrchydd Digwyddiadau gyda BBC Cymru a chyn hynny mwynhaodd sawl blwyddyn fel Swyddog y Wasg gydag ITV Cymru.
Dechreuodd Siân-Elin ei gyrfa yn gweithio i gwmni theatre fel Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, ac mae hi yr un mor angerddol heddiw ag yr oedd hi bryd hynny ynglŷn ag ymgysylltu a chyfathrebu â chymunedau a chynulleidfaoedd amrywiol mewn ffyrdd creadigol, perthnasol ac arloesol.
Grŵp Cynghori Synnwyr Bwyd Cymru
Mae Synnwyr Bwyd Cymru yn gweithio gyda thîm o Gynghorwyr sy'n ein helpu i bennu ein cyfeiriad strategol ac edrych ar fodelau cyllido ar gyfer y dyfodol. Mae'r Cynghorwyr i gyd yn arweinwyr yn eu meysydd gwaith ac yn darparu cyngor, cefnogaeth a chysylltiadau sy'n ein cynorthwyo gyda'n cenhadaeth i gyd-greu system fwyd i Gymru sydd o les i bobl ac i'r blaned.
Dr Angelina Sanderson Bellamy
Academydd - Systemau Bwyd
Dr Angelina Sanderson Bellamy
Academydd - Systemau Bwyd
Mae Dr Sanderson Bellamy yn Athro Cyswllt Systemau Bwyd yn Adran y Gwyddorau Cymhwysol a’r Ganolfan Ymchwil Biowyddorau ym Mhrifysgol Dwyrain Lloegr (UWE) ym Mryste. Cyn gweithio yn UWE, roedd Angelina yn Uwch Gymrawd Ymchwil a Deon Cyswllt ar gyfer Cynaliadwyedd Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Cadernid Stockholm a Sefydliad Amgylcheddol Prifysgol Stanford Woods.
Mae arbenigedd Angelina yn cwmpasu systemau cynhyrchu bwyd, y bwyd a fwyteir gan aelwydydd, cadwyni cyflenwi byr, defnydd tir a newid yng ngorchudd y tir, cadernid ecolegol a gwasanaethau ecosystem. Mae Dr Sanderson Bellamy yn defnyddio dulliau sy’n seiliedig ar systemau a lleoedd i ddeall heriau mawr cymdeithas yn enwedig mewn perthynas â’u cysylltiad â’r system fwyd. Er enghraifft, er mwyn cyrraedd targedau sero net, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â systemau bwyd. Mae angen y newidiadau hyn arnom hefyd er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a’r cynnydd mewn diffyg diogeledd bwyd. Dyna pam mae dull sy’n seiliedig ar systemau yn hollbwysig, a dyma’r math o arbenigedd sydd gan Angelina—dealltwriaeth o gymhlethdod y system fwyd a’r angen am newid sy’n cyd-fynd â’r cyd-destun ehangach.
Ar hyn o bryd mae Angelina yn cynghori Llywodraeth Cymru ar weithrediad ei Chynllun Adfer Natur, bu’n arwain ar weithredu’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chynghori ar ddatblygu Strategaeth Un Blaned Dinas Caerdydd (sy’n cynnwys bwyd fel un o’i 6 maes thematig ar gyfer newid). Mae’r profiadau hyn yn sail i’w dull ymarferol o gymryd camau i weithredu strategaethau’n effeithiol.
Simon Wright
Materion Cyhoeddus ac Addysg
Simon Wright
Materion Cyhoeddus ac Addysg
Mae Simon Wright wedi bod rhedeg yn lleoedd bwyta yn Sir Gaerfyrddin ers dros 30 mlynedd ac ar hyn o bryd ef yw perchennog Wright’s Food Emporium yn Llanarthne gyda’i wraig Maryann. Yn ogystal â hynny, mae Simon hefyd wedi cael gyrfa fel awdur bwyd, a darlledwr yn gwneud rhaglenni radio a theledu i BBC Cymru a Channel 4. Mae’n gyn-olygydd yr AA Restaurant Guide a bu’n gweithio am 10 mlynedd fel ymgynghorydd bwytai ar gynyrchiadau’r DU o’r rhaglen Ramsay’s Kitchen Nightmares. Ers blynyddoedd maith, mae wedi ymddiddori mewn materion yn ymwneud â bwyd cynaliadwy, ffermio a chadwyni cyflenwi lleol ac wedi bod yn ymgyrchu yn y meysydd hynny, a chafodd ei benodi’n Athro Ymarfer ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2021.
Dr Amber Wheeler
Garddwriaeth a Threftadaeth
Dr Amber Wheeler
Garddwriaeth a Threftadaeth
Mae Amber yn byw mewn tyddyn yn Sir Benfro ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes newid systemau bwyd, ar lawr gwlad ac fel ymchwilydd. Ei phrif faes arbenigedd a’i diddordeb pennaf yw sut i alluogi Cymru a’r DU i gynhyrchu a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau a’r rôl sydd gan gadwyni cyflenwi bach a byr i’w chwarae yn hynny o beth. Helpodd i sefydlu Pys Plîs ac mae’n dal i gefnogi Cynghrair Ffrwythau a Llysiau’r DU a Bord Gron Garddwriaeth Fwytadwy, yn ogystal â bod yn gydlynydd ymgysylltu aelodaeth Cymru o Gynghrair y Gweithwyr Tir ac ymchwilydd gweithredu llawrydd.
Diane McCrea
Strategaeth a Chynaliadwyedd
Diane McCrea
Strategaeth a Chynaliadwyedd
Dechreuodd gyrfa Diane yn y maes bwyd a hynny ym Mhrifysgol Middlesex. Mae’r angerdd hwn tuag at fwyd wedi parhau ac ymysg yr uchafbwyntiau mae gweithio ar gylchgrawn Which?, gwaith ymgynghori rhyngwladol ar fwyd a materion defnyddwyr gyda Sefydliad Iechyd y Byd, y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth a’r Comisiwn Ewropeaidd, a blynyddoedd lawer yn cynrychioli defnyddwyr yn Codex Alimentarius yn datblygu safonau bwyd ar gyfer masnach y byd. Mae wedi gwasanaethu ar sawl un o bwyllgorau bwyd ac amaethyddiaeth y llywodraeth ac ar hyn o bryd hi yw cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr – Cynnal Cymru-Sustain Wales, a chyn hynny bu’n gadeirydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Defnyddwyr Dŵr Cymru. Mae bwyd a chynaliadwyedd wedi bod yn brif ffocws iddi drwy gydol ei gyrfa.