Abertawe yn ennill gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae Abertawe yn dathlu ar ôl ennill gwobr fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae’r wobr yn cydnabod gwaith Bwyd Abertawe i hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy a lleol ac i fynd i’r afael â rhai o’n heriau cymdeithasol mwyaf; o dlodi bwyd ac afiechyd sy’n gysylltiedig â diet, i ddiriwiad ffermydd teuluol a cholli manwerthwyr bwyd annibynnol.

Mae Grŵp Llywio Bwyd Abertawe yn falch iawn gyda mudiad bwyd cynaliadwy’r bartneriaeth a’i hymdrechion ar y cyd hyd yn hyn.

Mae Bwyd Abertawe yn diweddaru aelodaeth yn rheolaidd, trwy gynnwys eu gweithgareddau a’u prosiectau bwyd cynaliadwy priodol drwy anfon e-gylchlythyr chwarterol, rhwydweithiau wyneb I wyneb a chysylltu drwy gyfryngau cymdeithasol. Eleni, mae’r bartneriaeth wedi canolbwyntio ar ddau brosiect a ariannir gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU sef Tyfu Gwirfoddolwyr a Mynediad at Gynnyrch Lleol, prosiect sy’n galluogi dinasyddion trefol i gael mynediad at sgiliau tyfu bwyd a choginio mewn safleoedd Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) gwledig. Mae’r bartneriaeth hefyd wedi bod yn gweithio ar raglan Amaethyddiaeth Mawr ac Ymgysylltiad Ffermwyr a Dadansoddiad Anghenion gyda’r ymgynghorwyr Communitas Cymru, a ddaeth i ben gyda chyfarfod Ffermwyr Abertawe yng Nghastell Howell ym mis Hydref.

Dywedodd Dawn Lyle, Cadeirydd Bwyd Abertawe a chyd-sylfaenydd 4theRegion:

“Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous ers i Bwyd Abertawe lansio Siarter Fwyd Abertawe yng Nghynhadledd Abertawe ym mis Mawrth 2023. Mae Bwyd Abertawe wedi tyfu i dros 500 o aelodau, gan ddod ynghyd mewn llawer o ffyrdd gwych a gwahanol i gymryd camau cyson tuag at fwyd cynaliadwy i Abertawe. Diolch i bawb sy’n rhan o’r fenter!”

Dywedodd Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy:

“Mae Bwyd Abertawe wedi dangos yn union yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl greadigol ac ymroddedig yn cydweithio i wneud bwyd iach a chynaliadwy yn nodwedd ddiffiniol o ble maent yn byw. Er bod llawer i’w wneud o hyd a llawer o heriau i’w goresgyn, mae Bwyd Abertawe wedi helpu i osod meincnod i’r 100+ o aelodau eraill o Rwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy y DU ei ddilyn. Dylent fod yn falch iawn o’r gwaith y maent wedi bod yn ei wneud i drawsnewid ein diwylliant bwyd a’n system fwyd gyfunol er gwell.”

Am fwy o wybodaeth ewch i www.bwydabertawe.org.uk neu e-bostiwch Mary Duckett: bwydabertawe@gmail.com