A yw’n bryd tanio’r stof? Y rheswm pam y mae ysgolion wrth wraidd yr ateb i argyfwng bwyd presennol Cymru

Neithiwr (17.11.21), cafodd cynnig gan Peter Fox AS i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd ei gefnogi mewn pleidlais gan y Senedd. Disgrifir y Bil arfaethedig yn un a fyddai’n sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru er mwyn cryfhau sicrwydd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella dewis y cwsmer.

Yn ddiweddar, wrth gymryd rhan mewn digwyddiad COP Cymru, bu Katie Palmer, sy’n Rheolwr Rhaglen gyda Synnwyr Bwyd Cymru, yn trafod rhai o’r materion sy’n gysylltiedig â’r Bil Bwyd, ac aeth ati i archwilio’r modd yr oedd datblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer system fwyd amrywiol a chydnerth trwy integreiddio polisïau, yn ogystal ag ymgysylltu â chynhyrchwyr, busnesau a’r gymuned yn un o heriau mwyaf Cymru. 

Yma, mae Katie’n dadlau y gall ysgolion ddarparu’r pair perffaith i ddangos pam y mae arnom angen yr ymagwedd hon, a pham mai ‘nawr yw’r adeg i danio’r stof.

“Mae pawb yn bwyta bwyd. Mae bron 17% o’n gweithlu yng Nghymru yn gweithio ar ein tir; yn pysgota yn ein môr; yn symud ein bwyd o le i le; yn gwerthu bwyd, neu’n rhoi prydau bwyd ar ein platiau. Ond a ydym yn addysgu “bwyd” mewn ysgolion? A ydym yn ysbrydoli plant i fod eisiau bod y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr bwyd?

Mae pob plentyn, pob diwrnod o’r wythnos, yn bwyta o leiaf un pryd bwyd yn yr ysgol (efallai eu hunig bryd bwys o’r diwrnod), sydd naill ai wedi’i ddarparu gan yr ysgol, neu wedi’i baratoi gartref. Ond a ydym yn rhoi’r pwys haeddiannol i’r ddefod gymdeithasol honno? Ac a allwn fod yn sicr ei bod yn brofiad maethlon a chynhwysol i bob plentyn?

Dylai holl blant Cymru gael y cyfle i fod yn Ddinasyddion Cenedlaethau’r Dyfodol, i ddeall y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu; yr hyn y mae’n ei gostio; ei botensial i borthi neu achosi salwch; i gefnogi natur neu ei yrru ymaith. Mae’n hanfodol bod ein plant yn deall goblygiadau bwyta bwyd a gynhyrchir gan lafur dan orfod mewn rhan arall o’r byd, neu fwyd sy’n achosi datgoedwigo – a sut y galli bwyd a gynhyrchir yn y ffordd honno ffeindio’i ffordd i mewn i’w prydau ysgol.

Gallwn ateb y cwestiynau hyn dim ond trwy ddatblygu polisi integredig mewn perthynas â bwyd yn yr ysgol. A ‘nawr yw’r cyfle i wneud hynny – nid yn unig am fod yr angen mor ddirfawr, nid yn unig am fod maint y wobr mor enfawr o ran lleihau anghydraddoldebau ac amddiffyn natur a bywoliaethau – ond hefyd am fod y cyfle mor ddwys.

Ni fu erioed y fath gyfle i gyfateb polisïau ar draws adrannau’r Llywodraeth; cyfleoedd i lunio safonau bwyd ysgol; i adolygu meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim; i ddatblygu polisi caffael newydd; i wneud gwahaniaeth i’r cwricwlwm a’r contract economaidd, yn ogystal ag i’r Bil Amaethyddiaeth a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol sydd i ddod; i ymgyrch yr Economi Sylfaenol; i safonau Prynu y Llywodraeth; i ymrwymiadau Sero Net … gallwn fynd ymlaen ac ymlaen! Maent oll yn bolisïau y gellir eu siapio gyda’r lleill mewn golwg, a hynny ar adeg unigryw – a chydag un nod clir. Y nod hwnnw yw sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael bwyd da, a’i fod yn cael ei ysbrydoli i barchu a dathlu bwyd, y tir y mae’n dod ohono, a’r rheiny sy’n ei gynhyrchu.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael â’r mater o gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim. Nid yw nifer o blant sy’n byw mewn tlodi yn gymwys ar hyn o bryd; nid yw hawl plant i gael bwyd yn cael ei gynnal, ac mae anghydraddoldebau o ran iechyd ac addysg yn dwysáu wrth i mi ysgrifennu. Yr unig beth y mae’n rhaid i ni ei wneud yw edrych ar effaith COVID i ddangos pa mor hanfodol yw prydau ysgol, a’r modd y bu i’r lefelau isel o ffrwythau a llysiau y mae plant yn eu bwyta ddisgyn ymhellach yn ystod y pandemig – gan ddisgyn hyd yn oed yn is ymhlith plant sy’n byw mewn cartrefi incwm isel. Byddai ymestyn prydau ysgol am ddim i bob dysgwr yng Nghymru yn costio llai nag 1% o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfamser, byddai polisi integredig yn cynnig cyfle heb ei gyffwrdd i’n ffermwyr, ein cynhyrchwyr, ein cadwyn gyflenwi a’n harlwywyr helpu i gyflenwi bwyd iach lleol. Gallai hefyd gefnogi addysg bwyd mewn partneriaeth ag ysgolion lleol, a chadw’r buddsoddiad hwnnw yn y cymunedau lleol yng Nghymru. Byddai hyn yn arwain at gyfle i ddatblygu safonau sy’n arwain y byd ac yn diogelu ein hamgylchedd ac iechyd ein plant, ac sy’n darparu enillion teg i’r gadwyn gyflenwi gyfan.

At hynny, credaf fod gennym hefyd gyfle i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddinasyddion bwyd, ffermwyr, cynhyrchwyr a pherchnogion bwytai – rhywbeth y mae gwir angen ei wneud. Dylem hefyd fod yn addysgu ein plant i goginio, gan rymuso cenedlaethau’r dyfodol i ddewis coginio gyda chynnyrch ffres, maethlon, lleol yn hytrach na gorfod dibynnu ar fwyd wedi’i brosesu fel yr unig opsiwn fforddiadwy. Rydym hefyd yn gweld bwytai yn lleihau eu horiau agor ar hyn o bryd, neu’n cau’n llwyr o ganlyniad i ddiffyg staff.  Mae prinder lladd-dai i brosesu ein cig, a’r ffaith bod llaeth Cymru yn cael ei anfon y tu allan i Gymru i’w brosesu cyn ei ddychwelyd – hefyd yn ffars sy’n cynyddu allyriadau. Dylem fod yn croesawu’r cyfle i gynnwys amrywiaeth a chydnerthedd yn ein system fwyd – system sydd mor agored i rymoedd byd-eang ar hyn o bryd.

Mae yna argyfwng o ran sgiliau a’r gweithlu yn y diwydiant bwyd a ffermio. Mae yna argyfwng o ran afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet. Mae yna argyfwng anghydraddoldeb. Mae yna argyfwng natur a hinsawdd. Rydym yn wynebu argyfyngau lluosog, ond mae gennym hefyd un man cychwyn clir a all gynnig ateb go iawn, a’r man cychwyn hwnnw yw ein hysgolion. Mewn sawl ffordd, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod hyn trwy ei hymrwymiad cynyddol i Fwyd a Hwyl, rhaglen addysg yn yr ysgol sy’n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau iach i blant yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Y cam nesaf yw adeiladu ar y sylfaen honno.

Nid ateb cyflym mohono. Bydd yn cymryd cenhedlaeth neu ragor, ond yr unig beth y mae ei angen i ddechrau arni yw arweinyddiaeth fentrus; modelau cyllido newydd sy’n rhoi ystyriaeth i’r costau a’r ffactorau allanol megis afiechyd cysylltiedig â deiet, y newid yn yr hinsawdd a cholli natur; ynghyd â chymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn modd dwfn ac ystyrlon, gan sicrhau bod hawl pob plentyn i gael bwyd da yn cael ei gynnal.”

DIWEDD

Gwybodaeth am Katie Palmer:

Katie PalmerKatie Palmer yw Rheolwr Rhaglenni y mudiad Synnwyr Bwyd Cymru. Mae gan Katie MSc mewn Maetheg o Kings College, Llundain ac mewn Polisi Bwyd o City University. Mae wedi gweithio ym maes bwyd ers dros ugain mlynedd, ac mae ganddi brofiad yn y sector preifat , y trydydd sector a’r sector cyhoeddus (gan gynnwys chwe blynedd ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd).  Mae Katie yn un o aelodau  Bwrdd Veg Power ac yn un o sylfaenwyr Cynghrair Polisi Bwyd Cymru.  Mae hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd yn un o’r tîm o bedwar a greodd y rhaglen Bwyd a Hwyl yng Nghaerdydd yn 2015, a enillodd amryw o wobrau.

Darllen pellach:

Child Poverty Action Group/Covid Realities (2021) https://cpag.org.uk/sites/default/files/files/policypost/Fixing_Lunch.pdf

Sefydliad Bevan – Expanding the provision of Free School Meals in Wales: https://www.bevanfoundation.org/resources/expanding-the-provision-of-free-school-meals-in-wales/

Sefydliad Bevan – Expanding the provision of Free School Meals in Wales: Practical considerations: https://www.bevanfoundation.org/resources/expanding-the-provision-of-free-school-meals-in-wales-practical-considerations/

Cymru a’i chyfrifoldeb byd-eang (WWF Cymru; Size of Wales ac RSPB Cymru) –  https://www.wwf.org.uk/sites/default/files/2021-11/wwf_risky_b_wales.pdf

Llywodraeth Cymru – Gwerthusiad Economaidd o Sector Bwyd a Diod Cymru – Diweddariad 2019 – Gwerthusiad Economaidd o Sector Bwyd a Diod Cymru – Diweddariad 2019 (gov.wales)