Barod am newid?

Gyda’r drafodaeth ynglyn â phrydau ysgol am ddim yn cael cryn dipyn o sylw yn y wasg, mae Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru yn mynd i’r afael â’r anawsterau y mae llawer o deuluoedd yn eu hwynebu ac yn trafod sut y gallai adolygu system Prydau Ysgol Am Ddim Cymru ddarparu atebion posib.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i’r 90,000 o deuluoedd cymwys yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo ac yn ystod gwyliau ysgol tan Pasg 2022, ni fydd tua 70,000 o blant eraill, sy’n byw islaw’r llinell dlodi, yn elwa o’r cymorth mawr ei angen hwn.  Mae hyn oherwydd nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a bennwyd gan y Llywodraeth.

Mae Covid wedi gwaethygu dwy her ac wedi dod â nhw i amlygrwydd, sef rhwydi diogelwch annigonol y wladwriaeth a gwaith â chyflog isel.  Mae Brexit hefyd yn debygol o gael effaith ar fforddiadwyedd bwyd yn y DU ac yn y tymor byr, mae biliau ein cartrefi yn sicr o gynyddu. 

Amlygwyd sut y mae plant yn cael eu hawl i fwyd da drwy ymgyrchoedd fel un Marcus Rashford lle y llofnododd mwy nag 1 filiwn o bobl ddeiseb yn galw ar lywodraethau’r DU i ehangu prydau ysgol am ddim i bawb dan 16 oed os yw ei riant neu warcheidwad yn cael Credyd Cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol.

Mae rhai teuluoedd ar incwm isel yn ymdopi heb y cymorth hwn. Mae llawer o rieni yn bwyta llai eu hunain er mwyn sicrhau bod gan eu plant ddigon o fwyd. Bydd eraill yn troi at fanciau bwyd. Bydd rhai yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gymunedol fel Pantrïau a bydd eraill yn dibynnu ar ffrindiau a theulu. Ond mae llawer yn cael salwch corfforol a/neu feddyliol o ganlyniad i fethu â chael gafael ar ddigon o fwyd mewn ffordd urddasol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhieni hyn yn gweithio ac ar incwm isel.  Mae llawer ohonynt yn rhieni sengl.

Mae ACE (Gweithredu yn Nhrelái a Chaerau) yn gweld niferoedd cynyddol o deuluoedd sy’n gweithio nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond sy’n dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae prosiect Your Local Pantry ACE bellach yn targedu’r teuluoedd hyn sy’n profi tlodi mewn gwaith i ddarparu cymorth parhaus gyda chostau bwyd. Dywedodd un o’i aelodau (Teulu A) nad oedd yn gwybod sut y byddai wedi ymdopi heb ddefnyddio’r pantri yn ystod y cyfnod clo: “Rwyf wedi cael fy rhoi ar ffyrlo ac er gwaethaf gostyngiad mewn incwm, dydyn ni dal ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae’r plant yn bwyta mwy gartref, yn bennaf oherwydd diflastod. O’r blaen, bydden nhw’n mynd i’r clwb brecwast ac yn cael pecyn cinio bach. Mae’n rhaid i ni dalu costau ychwanegol am nwy a thrydan yn ogystal â’r costau bwyd ychwanegol sydd wedi mynd drwy’r to. Mae defnyddio’r pantri wedi golygu y gallaf gael rhywfaint o fwyd o ansawdd da am lai o gost sy’n golygu bod gennyf ychydig o arian ychwanegol ar gael i helpu gyda’r costau tanwydd a biliau eraill. Rwy’n teimlo y dylai mwy o help fod ar gael i rieni a allai fod yn gweithio ond sydd wedi colli incwm heb fod dim bai arnyn nhw eu hunain. Rwyf wedi colli 20% o fy nghyflog ond mae’r biliau’n aros yr un fath ac rwy’n dal i orfod eu talu.”

Nid yw’r sefyllfa bryderus hon yn newydd. Mae Covid wedi ei gwaethygu.

Yn 2018 adolygodd Llywodraeth Cymru gymhwysedd prydau ysgol am ddim yn unol â chyflwyno Credyd Cynhwysol. Bryd hynny ysgrifennais am sut roedd newidiadau i feini prawf ar gyfer y rhai a allai gael prydau ysgol am ddim yn gyfle i roi blaenoriaeth  i faeth plant. Ar ôl ymgynghori, penderfynodd Cymru ar reolau sy’n golygu bod teuluoedd ar gredyd cynhwysol yn gallu ennill dim ond £7,400 y flwyddyn cyn iddynt ddod anghymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nid yw’r trothwy yn cael ei addasu i ystyried nifer y plant yn y teulu, nac i ystyried aelwydydd ble mae dau riant, ac ni chaiff ei gynyddu’n awtomatig yn unol â chodiadau yn y cyflog byw cenedlaethol. Dewisodd Iwerddon feini prawf ehangach sy’n caniatáu enillion o hyd at £14,000 ac er bod Lloegr a’r Alban, sydd hefyd â’r trothwy o £7,400, mae’r ddwy wlad wedi cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i fabanod – sy’n golygu bod pob plentyn mewn dosbarthiadau derbyn a blynyddoedd 1 a 2 yn cael cinio poeth am ddim.  Fodd bynnag, penderfynodd Cymru ddarparu brecwast am ddim i ysgolion cynradd ac mae wedi addo treialu lwfans ychwanegol i blant Blwyddyn 7 sy’n derbyn prydau ysgol am ddim i’w galluogi i gael brecwast am ddim yn yr ysgol.

Felly ni ddylai fod yn syndod bod y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi canfod mai Cymru sydd â’r ddarpariaeth leiaf hael o ran prydau ysgol am ddim ledled y DU. Mae’n golygu bod plant yng Nghymru yn waeth eu byd na phlant sy’n cael eu magu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oherwydd bod gan Gymru brawf modd tynnach a darpariaeth gyffredinol i fabanod sy’n llai hael na gwledydd eraill. O ganlyniad, mae’r ddau bolisi hyn yn golygu na all llawer mwy o rieni a gofalwyr mewn swyddi â chyflog isel yng Nghymru gael prydau ysgol am ddim i’w plant.

Mae llawer o deuluoedd yn cael cymorth yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau ond mae llawer o blant eraill nad ydynt yn cael dim.  Dim brecwast ysgol am ddim (oherwydd Covid); dim prydau ysgol am ddim (oherwydd cymhwystra) nac unrhyw fath o ddarpariaeth dros y gwyliau. Yn wir, cafodd Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf flaenllaw Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi llawer o blant ar incwm isel, nid dim ond y rhai sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim, ei chanslo eleni ac ailddefnyddiwyd y cyllid i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Unwaith eto, mae’n galonogol gwybod bod plant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim yn gallu elwa o’r taliadau gwyliau ond beth a ddigwyddodd i’r teuluoedd hynny a oedd yn anghymwys a allai fod wedi manteisio ar y ddarpariaeth fel arall?

Myfyriais ar hyn yn ystod diwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar (10 Rhagfyr). Mae Cymru wedi ymgorffori Hawliau’r Plentyn yn ein deddfwriaeth ddomestig. Onid yw’n bryd cynnal Asesiad o Effaith ar Hawliau’r Plentyn i weld sut mae’r polisïau cyfredol yn effeithio ar yr holl blant hynny sy’n byw mewn teuluoedd ar incwm isel? Does bosibl mai nawr yw’r amser i sicrhau bod y cymorth yn cyfateb i’r angen? Ac mae’r angen hwnnw’n debygol o ddod hyd yn oed yn fwy dybryd wrth i ganlyniadau Covid arwain at ostyngiadau mewn incwm cartrefi (cynnydd mewn diweithdra) a chynnydd mewn biliau cartrefi.

Mae Tesco eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn disgwyl cynnydd o 5% ym mhrisiau bwyd ym mis Ionawr ac mae ymchwil wedi dangos y gallai Brexit heb gytundeb arwain at deulu’n talu 4% yn fwy ar gyfartaledd am eu ffrwythau a’u llysiau dros gyfnod o flwyddyn.

Gan weithio fel clymblaid o sefydliadau, mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn System Fwyd a fyddai’n cysylltu pob elfen o’r system fwyd – o gynhyrchu a chyflenwi i fwyta – ac a fyddai’n rhoi sylw dyledus i’r holl heriau yn y system fwyd gan gynnwys iechyd y cyhoedd, newid yn yr hinsawdd, colli byd natur, gwaith teg a chynnydd mewn ansicrwydd ynghylch y cyflenwad bwyd.

Os yw’r rhagfynegiadau y bydd tlodi plant yn cyrraedd 39% erbyn 2022 yn gywir mae angen i ni ailfeddwl yn radical am strategaeth sy’n cysylltu’r elfen “rhwyd ddiogelwch” o Brydau Ysgol Am Ddim â’r safonau cynhyrchu mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd; safonau bwyd ysgol; addysg bwyd a pholisïau caffael cyhoeddus. Gallai hyn helpu i leihau anghydraddoldebau, diogelu’r amgylchedd a chefnogi’r sector bwyd a ffermio – yn enwedig pe bai’r Llywodraeth yn ystyried gweini pryd ysgol maethlon poeth am ddim i bob plentyn yng Nghymru o ffynonellau cynaliadwy sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Cymru. Hynny yw, gwasanaeth Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Un sy’n diogelu eu hiechyd, eu heconomi leol a’u planed.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Essex ei hadroddiad terfynol ar effaith prydau ysgol am ddim cyffredinol i fabanod. Mae’n dangos cynnydd yn nifer y plant cofrestredig a’r rhai nad ydynt yn gofrestredig sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim; gostyngiad ym mhwysau corff plant ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol; cyfraddau absenoldeb gwell ac arwyddion bod y bwlch cyrhaeddiad yn 5 oed yn lleihau rhwng plant sydd wedi’u cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt wedi’u cofrestru. Nid oedd y dystiolaeth hon ar gael yn 2018 pan adolygwyd y meini prawf cymhwystra ddiwethaf. Mae gan Gymru un o’r cyfraddau uchaf o ordewdra ymysg plant o blith y 4 gwlad ac mae’n gweithio’n galed i leihau’r bwlch cyrhaeddiad ond unwaith eto, dyma darged arall sydd wedi’i lesteirio gan effaith Covid.

Felly beth allwn ni ei wneud nesaf?

Yn ddiweddar, mae aelodau clymblaid Gwrth-dlodi Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Ymestyn prydau ysgol am ddim i bob teulu sy’n derbyn credyd cynhwysol (neu fudd-daliadau cyfatebol)
  • Ymestyn prydau ysgol am ddim yn barhaol i deuluoedd na allant fanteisio ar arian cyhoeddus
  • Adeiladu ar lwyddiannau’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf drwy barhau i fuddsoddi mewn darpariaeth y tu allan i’r tymor ysgol

Ond rwy’n credu y gallai Llywodraeth Cymru fynd ymhellach. Hoffwn weld y Llywodraeth yn gwneud ymchwil i ddichonoldeb ac effaith darparu Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol – polisi a allai fod o fudd i bob plentyn yng Nghymru yn ogystal â darparu marchnad gadarn i’n cynhyrchwyr bwyd a chodi safonau amgylcheddol ar yr un pryd.

Cafodd y syniad o ddarparu gofal iechyd i bawb ei greu yng Nghymru.  Yng Nghymru y mae gwreiddiau’r GIG. Hoffwn weld Cymru’n parhau i arloesi a dod y genedl gyntaf yn y DU i greu gwasanaeth prydau ysgol am ddim cyffredinol o’r radd flaenaf sy’n cefnogi pob plentyn, eu heconomi leol ac yn amddiffyn eu planed.

DIWEDD