Dechrau’r diwrnod yn y ffordd orau posibl: gwella’r brecwast a gynigir mewn ysgolion cynradd yng Nghymru – blog gwadd gan Ellie Harwood, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG)
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) a Parentkind ganlyniadau astudiaeth ymchwil a geisiodd ddeall mwy am argaeledd a hygyrchedd clybiau brecwast ac ar ôl ysgol yng Nghymru. Yma, mae Ellie Harwood o CPAG yn trafod y canfyddiadau hynny a pha gamau sydd angen eu cymryd nesaf.
Mae rhaglen frecwast ysgolion cynradd Llywodraeth Cymru yn 18 oed eleni. Ers i’r polisi ddechrau, dosbarthwyd 10 miliwn o brydau brecwast iach am ddim i blant ysgolion cynradd yng Nghymru. Dechreuodd y polisi gyda dau nod – gwella cyrhaeddiad addysgol drwy roi’r cyfle i bob plentyn fwyta brecwast iach a maethlon cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau, a lleihau’r arfer o ‘fynd heb frecwast’, gan arwain at sefydlu patrymau bwyta iachach o’r blynyddoedd cynnar ymlaen.
Un o brif nodweddion y polisi brecwast ar gyfer ysgolion cynradd Cymru yw’r ffaith ei fod ar gael i bawb. Mae’r rheoliadau yn nodi’n eglur, pan fydd ysgol yn dewis darparu brecwast am ddim, bydd yn rhaid i bob dysgwr allu manteisio ar y ddarpariaeth, heb unrhyw brawf modd na meini prawf eraill i benderfynu ar ei hawl i hynny. Canfu gwerthusiad o’r cynllun gan Brifysgol Caerdydd y gall natur gyffredinol y ddarpariaeth helpu i leihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol drwy fwyta brecwast iach, a lleihau’r arfer o fynd heb frecwast.
Mae rhieni a gofalwyr hefyd yn cydnabod bod y clybiau brecwast yn cynnig amrywiaeth o fanteision ychwanegol i’w teuluoedd. Cynhaliodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant (CPAG) a Parentkind arolwg o 7000 o rieni a gofalwyr yng Nghymru yn ddiweddar i’w holi am eu rhesymau dros ddefnyddio clybiau brecwast ar gyfer eu plant. Yn ogystal â darparu brecwast maethlon, dywedodd y teuluoedd wrthym hefyd eu bod yn defnyddio clybiau brecwast i’w helpu i gyrraedd y gwaith mewn pryd, oherwydd bod eu plant yn mwynhau chwarae â ffrindiau cyn i’r ysgol ddechrau, ac oherwydd ei bod yn haws na darparu brecwast gartref. Yn hollbwysig, dywedodd nifer sylweddol o deuluoedd hefyd ei fod yn helpu i leihau costau byw y cartref. Roedd teuluoedd sy’n byw ar incwm isel bron ddwywaith yn fwy tebygol na’r sampl ehangach (23% o gymharu â 13%) i ddweud bod defnyddio clybiau brecwast wedi’u helpu gyda chostau byw.
Fodd bynnag, datgelodd ein harolwg hefyd batrymau sy’n peri pryder o ran manteision ar frecwast am ddim yn yr ysgol. Dywedodd tuag un o bob 10 cartref wrthym eu bod yn dymuno anfon eu plant i glwb brecwast yn yr ysgol gynradd ond nad oeddent yn gallu cael lle – fel arfer, gan nad oedd digon o lefydd ar gael, neu gan nad oedd yr ysgol yn cynnig clwb brecwast o gwbl. Roedd teuluoedd ar incwm isel yn fwy tebygol o ddweud bod angen lle mewn clwb brecwast arnynt ond nad oedd un ar gael – gydag un o bob 7 yn dweud wrthym mai dyma sefyllfa, ac mae hynny’n destun pryder. Dengys ymchwil dilynol gan Magic Breakfast mai dim ond 81% o ysgolion Cymru sy’n darparu brecwast am ddim ar hyn o bryd.
Gyda chynnydd aruthrol mewn costau byw ac ansicrwydd ynghylch bwyd i blant yn gwaethygu fwyfwy, mae’n hanfodol bod pob plentyn sydd angen brecwast am ddim yn gallu ei gael. Dywedodd arweinwyr ysgolion wrthym bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid a chymorth ychwanegol er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth brecwast am ddim ar i bawb. Mae’r CPAG yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r broses o gyflwyno cinio i bawb mewn ysgolion cynradd i sicrhau bod pob ysgol gynradd yn gallu cynnig brecwast am ddim hefyd i bob plentyn sydd ei angen.
Blog gwadd a ysgrifennwyd ar gyfer Synnwyr Bwyd Cymru gan Ellie Harwood, Rheolwr Datblygu Cymru, Grŵp Gweithredu Tlodi Plant