Gallai buddsoddi mewn cynllun grantiau garddwriaeth ar raddfa fach gynyddu’n sylweddol faint o lysiau a gynhyrchir yng Nghymru
Mae gwerthusiad o astudiaeth beilot ddiweddar a gynhaliwyd gan Synnwyr Bwyd Cymru wedi dangos y gall buddsoddiad ar raddfa fach gael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fusnesau garddwriaeth, gyda gwerthiant llysiau yn cynyddu 74.5% ar gyfartaledd.
Gyda chyllid gan Pys Plîs ac wedi’i hwyluso gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru gynllun peilot grantiau bach i ariannu cyfarpar ar gyfer tyfwyr cynnyrch garddwriaethol ar raddfa fach yng Nghymru nad oeddent wedi cael llawer o gyfleoedd i fanteisio ar grantiau buddsoddi cyfalaf yn y gorffennol.
Ar ôl astudio canfyddiadau’r prosiect peilot hwn, mae Synnwyr Bwyd Cymru bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried datblygu peilot o gynllun seilwaith grantiau bach ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru. Byddai hyn yn cyflymu twf y sector – yn ogystal â chynyddu gwerthiant llysiau ledled Cymru.
Dyfarnodd yr astudiaeth beilot grantiau bach gwerth rhwng £2,500 a £5,000, i bum menter fwyd gyda dim mwy na 5-Hectar o dir cynhyrchu mewn ymgais i helpu mentrau llai i gynyddu eu cynhyrchiant ac yn eu tro, cynyddu’r llysiau a fwyteir gan bobl.
Y pum enillydd llwyddiannus oedd Paramaethu Henbant yng Ngwynedd; Troed y Rhiw Organics yng Ngheredigion; Gardd Furiog Angle yn Sir Benfro; Ash & Elm Horticulture yn Llanidloes a Glasbren yn Sir Gaerfyrddin. Defnyddiodd y pum busnes y cyllid i i ganolbwyntio ar ddarparu gwahanol atebion er mwyn galluogi eu mentrau i ehangu ac i gynyddu faint o lysiau maen nhw’n eu cynhyrchu ar gyfer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Canfu’r astudiaeth, a gynhaliwyd gan Dr Amber Wheeler, fod y gronfa o £20,000 a ddyrannwyd i bum busnes ffrwythau a llysiau wedi arwain at dwf o 74.5% ar gyfartaledd mewn gwerthiant llysiau ac yn gyffredinol, roedd 79 o deuluoedd ychwanegol yr wythnos yn elwa o focs llysiau.
“Yn 2020 canfu astudiaeth waelodlin Tyfu Cymru fod tua 200 o fusnesau cynnyrch garddwriaethol bwytadwy yng Nghymru, er bod mwy erbyn hyn. Bryd hynny, amcangyfrifwyd bod y busnesau hynny’n cynhyrchu ¼ dogn o ffrwythau a llysiau y pen o’r boblogaeth yng Nghymru,” meddai awdur yr adroddiad, Dr Amber Wheeler. “Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r cynllun peilot hwn, gallai cynllun grantiau ar raddfa fach gynyddu hyn yn sylweddol ac arwain at 74.5% o gynnydd y flwyddyn ar gyfartaledd mewn gwerthiant llysiau yng Nghymru.”
Amlygodd yr astudiaeth beilot hon hefyd y manteision cymunedol sy’n gysylltiedig â buddsoddiad ar raddfa fach. Yn ogystal â thyfu mwy o lysiau mewn ffordd gynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gwelwyd gwelliant yn amgylchedd gwaith y gwirfoddolwyr; cynnydd yng ngallu tyfwyr i gynnal ymweliadau addysgol a digwyddiadau cymunedol, a mwy o lysiau’n mynd i deuluoedd incwm isel. Roedd manteision amgylcheddol hefyd gan gynnwys gwelliant mewn bioamrywiaeth ac iechyd y pridd, mwy o gynhyrchiant, mwy o effeithlonrwydd a llai o wastraff, mwy o allu i wrthsefyll prinder dŵr.
Penderfynodd Synnwyr Bwyd Cymru dreialu’r cynllun grantiau bach hwn ar gyfer cynhyrchwyr cynnyrch garddwriaethol bwytadwy ar raddfa fach (llai na 5 hectar) yng Nghymru fel rhan o’i nod o ddylanwadu ac effeithio ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a’i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd a ffermio cynaliadwy wrth wraidd system fwyd gyfiawn, gysylltiedig a llewyrchus. Nod y grantiau oedd ariannu cyfarpar a seilwaith ac ariannwyd y gwaith gan Pys Plîs, rhaglen a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn y DU y mae cynyddu’r llysiau a fwyteir yn brif nod iddi. Synnwyr Bwyd Cymru sy’n arwain gwaith Pys Plîs yng Nghymru ac mae’n dod â ffermwyr, manwerthwyr, bwytai cadwyn, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd i weithio tuag at nod gyffredin o’i gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau.
“Roedd y rhesymeg ar gyfer y cynllun peilot yn seiliedig ar dystiolaeth bod garddwriaeth, yn enwedig cynhyrchwyr ar raddfa fach, wedi bod yn brin o adnoddau yn hanesyddol gan fod cynhyrchwyr sy’n gweithio ar dir llai na 5 hectar wedi bod yn llai cymwys i gael grantiau neu gymhorthdal gan y Llywodraeth,” meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru. “Roeddem eisiau profi a gwerthuso’r gwahaniaeth y gallai grantiau cyfalaf bach eu gwneud i gynhyrchu garddwriaethol, ac yn benodol a allai’r grantiau arwain at gynyddu gwerthiant ffrwythau a llysiau mewn cymunedau ledled Cymru.
“Ar ôl ystyried canlyniadau’r prosiect peilot llwyddiannus hwn, mae Synnwyr Bwyd Cymru ynghyd â’n partneriaid yn y prosiect hwn – Pys Plîs a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol – bellach yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau’r gwerthusiad hwn i ddatblygu peilot mwy o gynllun seilwaith grantiau bach ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru,” atega Katie Palmer.
“Mae angen i ni sicrhau y gall Cymru ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i gynyddu cynhyrchiant garddwriaeth gynaliadwy yng Nghymru. Mae rhai o gynhyrchwyr mwyaf Cymru, fel Puffin Produce, yn rhan hanfodol o’r cymysgedd hwn ac fel rhan o’i addewid Pys Plîs diweddaraf, ei nod yw cynyddu cynhyrchiant cynaliadwy hyd yn oed ymhellach. Ond er mwyn cynyddu cynhyrchiant llysiau’n gyffredinol yng Nghymru, byddai creu seilwaith ar gyfer darparu cynllun grantiau bach yn cyflymu twf y sector garddwriaeth graddfa fach yn sylweddol – ac yn cynyddu gwerthiant llysiau yn ogystal ag arwain at fanteision cymunedol ac amgylcheddol ehangach ledled Cymru.”
Ychwanegodd Emma Maxwell o Ash & Elm Horticulture, un o’r cwmniau a dderbyniodd grant: “Mae wedi bod yn wych i ni; mae wedi newid bywyd y busnes mewn gwirionedd…Mae cael mewnbwn o fuddsoddiad fel ry’n ni wedi’i gael gyda’r gronfa hon yn medru sbarduno’ch busnes gan ei symud ymlaen yn gynt nag y gallech ei wneud ar yr elw o dyfu llysiau yn unig.”
Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma ac i glywed mwy am yr astudiaeth beilot, gwrandewch ar bodlediad diweddar Synnwyr Bwyd Cymru a gyflwynir gan Dr Amber Wheeler yma sy’n cynnwys lleisiau rhai o’r bobl hynny a dderbyniodd grantiau wrth iddyn nhw drafod canlyniadau ac effeithiau’r prosiect ymhellach.
DIWEDD