Llinos Hallgarth
Mae Llinos yn swyddog datblygu gyda Cered, Menter Iaith Ceredigion, ac yn rhinwedd ei swydd dechreuwyd prosiect Yr Ardd yn ardal Llandysul. Prosiect gardd gymunedol newydd a chyffrous yw Yr Ardd. Ei bwrpas yw creu ardal gymunedol groesawgar a saff, lle gall pobl o bob oedran dod at ein gilydd i dyfu pob math o blanhigion, i ddysgu sgiliau newydd ac i gymdeithasu yn yr awyr agored yn ardal Llandysul a Phontweli yn y Gymraeg.
Yn ogystal â’i gwaith cymunedol yn y fenter, mae Llinos yn therapydd cyflenwol gyda Clinig Bach y Wlad ac yn gymwys mewn amryw driniaethau. Mae Llinos a’i chwaer Siân a’i Mam Lorraine wedi bod yn rhedeg y clinig nawr ers 10 mlynedd, ac mae’r tair yn credu’n gryf ac yn angerddol am hybu a hyrwyddo lles ac iechyd da mewn amryw ffyrdd. Dros y blynyddoedd maent yn gweld pwy mor bwysig yw’r berthynas rhwng bwyd a maeth a’r corff ffisegol ac feddyliol o ran salwch, iechyd a lles. Nid yw’n pwnc sydd yn gallu eistedd ar ben ei hun. Pam yn trin y corff, mae’n rhaid cwestiynu’r hyn i ni’n rhoi yn ein corff, y ffordd i ni’n ymdrin â’r corff, ac hefyd ffordd all hwn oll cael ei integreiddio i wneud ni’n bobl iach, hapus, a hyfyw.
Mae Llinos yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r rôl yma i rannu’r hyn y mae hi yn gwybod yn barod â eraill. Mae hi hefyd am fachu’r cyfle i ddysgu fwy wrth eraill, yn enwedig am dyfu a thrin bwyd a thir, ac o hyn, rhoi ar waith yr hyn y mae’n dysgu mewn ffordd holistaidd yn ei bywyd hi a’i chymuned.