Jude Thoburn-Price
Mae gan Jude Thoburn-Price lawer o brofiad o weithio ym maes ymgysylltu â’r gymuned a’i datblygu, cyllid, cyflwyno gweithdai, cyfryngau creadigol a’r celfyddydau. Mae ganddi ddiddordeb mewn helpu eraill fel hi sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi o ddydd i ddydd yn ystod cyfnod COVID.
Graddiodd Jude yn ddiweddar o’r Brifysgol gyda Gradd mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig, ond o ganlyniad i’r pandemig, a llai o gyfleoedd yn y diwydiant cerddoriaeth ac addysg, penderfynodd beidio â mynd ymlaen i wneud Doethuriaeth a mynd ati i helpu pobl yn ei chymuned yn Trowbridge, Caerdydd i gael mynediad at fwyd a’i dyfu. Mae’n awyddus i helpu pobl yn ei chymuned i ddysgu am dyfu bwyd ac mae am eu helpu i ddysgu sut y gellir tyfu llysiau a’u defnyddio i greu prydau bwyd maethlon ac iach iddyn nhw a’u teuluoedd.
Drwy ddefnyddio potiau plannu, gerddi neu randiroedd, mae Jude hefyd yn awyddus i helpu’r broses o sefydlu cymuned tyfu a chyfnewid, a hoffai gysylltu â phobl eraill o’r un anian â hi i geisio hyrwyddo hyn fel agenda’r ddinas a helpu pobl Caerdydd.
Ar ôl byw drwy gyfnod anodd yn ystod y 1970au a’r 80au, dywed Jude ei bod yn credu bod garddio a thyfu llysiau a bwyd yn llesol i iechyd meddwl a llesiant pobl, a bod tyfu eich llysiau eich hun yn sicrhau bod gennych fynediad at fwyd da a maethlon, a’i fod yn hanfodol gwybod sut i’w coginio a’u paratoi.