Mynediad at Ffrwythau a Llysiau yn ystod Cyfnod Clo

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chael gwell cydbwysedd rhwng cost bwydydd iach a chost bwydydd afiach oedd y ddau beth a grybwyllwyd amlaf mewn adroddiad diweddar o’r enw Llysiau Covid a gomisiynwyd gan Pys Plis, rhaglen a ariennir gan Loteri Genedlaethol y DU i gynyddu defnydd llysiau.

Rhwng Mehefin ac Awst 2020, yng nghanol y cyfnod o gyfyngiadau COVID-19, casglodd Pys Plîs straeon gan bron i gant o bobl ledled y DU, gyda 42% ohonynt yn byw yng Nghymru.

Mae canfyddiadau’r arolwg ansoddol hwn yn cyflwyno darlun o brofiadau pobl o gael mynediad at ffrwythau a llysiau ar adeg o argyfwng cenedlaethol ac yn cynnig cipolwg ar yr ymdeimlad ar draws y DU, ac yn enwedig yng Nghymru.

Mae’r argyfwng parhaus wedi amlygu problemau’n gysylltiedig â system fwyd sy’n darparu bwyd iach am gost sydd bellach yn uwch nag y gall cyfran sylweddol o’r boblogaeth ei fforddio (Adroddiad Broken Plate y Food Foundation).

Roedd y profiadau a rannwyd gan y cyfranogwyr ar draws y DU yn dangos yn glir:

  • bod gallu prynu digon o ffrwythau a llysiau yn broblem i’r rhai ar incwm is na’r cyfartaledd
  • bod mwy o bobl yn defnyddio siopau lleol a chynlluniau bocsys llysiau yn ystod y cyfnod hwn
  • bod pris yn rhwystr
  • bod yr ansawdd yn wael weithiau
  • bod mwy o bobl yn tyfu eu cynnyrch eu hunain

Y swm o ffrwythau a llysiau a fwyteir yw’r arwydd mwyaf o anghydraddoldeb dietegol, gyda’r rhai ar incwm is yn bwyta cryn dipyn yn llai ohonynt. Gan fod cyfnod clo cenedlaethol ar ein gwarthau unwaith eto oherwydd COVID-19, gwn bod pobl ar incwm is yn cael eu heffeithio fwyaf (IFS, 2021).

“Drwy gydol yr arolwg, buon ni’n edrych ar brofiadau pobl o gael gafael ar ffrwythau a llysiau yn ystod y cyfnod clo cyntaf a’r hyn y dywedwyd sydd angen ei wneud er mwyn cynyddu’r swm a fwyteir a gwella ein hiechyd yn y pen draw. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chael gwell cydbwysedd rhwng cost bwydydd iach a chost bwydydd afiach oedd y ddau beth a grybwyllwyd amlaf,” meddai Dr Amber Wheeler, awdur yr adroddiad.

“Yn y data ansoddol a gasglwyd, dim ond pobl ar incwm o lai na £2000 y mis a nododd eu bod yn cael problemau’n cael gafael ar ffrwythau a llysiau, a nododd y rhai ag incwm o lai na £500 y mis eu bod yn bwyta swm sylweddol is o lysiau. Mae hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth bod fforddiadwyedd yn rhwystr allweddol o ran bwyta deiet iach yn y DU.

“Roedd yr anallu i gael gafael ar ddigon o ffrwythau a llysiau, yn enwedig ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf ac yn enwedig mewn perthynas ag archfarchnadoedd, yn cael ei ystyried yn broblem, gyda chanfyddiad bod yr ansawdd yn is a’r prisiau’n uwch. Soniodd rhai fod silffoedd gwag yn yr archfarchnadoedd wedi tynnu eu sylw at ba mor fregus yw’r system cyflenwi bwyd hefyd.”

Mynegwyd llawer o ddiolch i gyflenwyr bwyd lleol gan y cyfranogwyr. Ond roedd y rhai a oedd yn defnyddio cyflenwyr lleol neu annibynnol yn fwy tebygol o fod ar incwm cartref uwch ac o ddweud bod ganddynt fynediad dibynadwy at ffrwythau a llysiau o ansawdd. Roedd pawb heblaw un o’r cyfranogwyr yn y grŵp incwm o £3000+ y mis yn defnyddio siop fferm neu gynllun bocsys llysiau, neu’n tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain.

Nododd llawer eu bod wedi troi at dyfu ffrwythau a llysiau yn eu gerddi a’u rhandiroedd eu hunain, neu gyda phrosiectau tyfu cymunedol. Pan ofynnwyd iddynt beth y gellid ei wneud i helpu pobl i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, roedd cynyddu nifer y cynhyrchwyr/manwerthwyr ffrwythau a llysiau lleol yn cael ei ystyried yn bwysig, ynghyd ag addysg / dosbarthiadau coginio a mwy o fentrau tyfu eich bwyd eich hun / tyfu cymunedol.

“Awgrymodd y cyfranogwyr fod angen newid strwythurol mawr i’n system fwyd er mwyn gallu goresgyn rhwystrau mewn unrhyw ffordd ystyrlon, yn enwedig cael mwy o gydbwysedd rhwng cost bwydydd iach a chost bwydydd afiach,” atega Dr Amber Wheeler.

“Roedd sawl cyfranogwr o’r farn mai gwraidd y broblem o ran cael gafael ar ffrwythau a llysiau oedd strwythurau economaidd ehangach ac anghydraddoldeb, gan awgrymu bod angen i’r rhain newid yn hytrach na dim ond y pris a roddir ar ffrwythau a llysiau yn y man gwerthu.”

Meddai Katie Palmer, Rheolwr Rhaglen Synnwyr Bwyd Cymru, y sefydliad sy’n arwain ar waith Pys Plîs yng Nghymru: “Fel rhan o waith parhaus Pys Plîs i gael y genedl i fwyta mwy o lysiau, roedd Synnwyr Bwyd Cymru yn falch iawn o fedru annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae’r straeon hyn yn ffordd wych o ddangos profiadau amrywiaeth o bobl o ran eu mynediad at fwyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

“Mae ein deietau’n arwain at lefelau uchel o ordewdra, diabetes math 2 a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig â deiet – ac mae angen i ni i gyd fwyta mwy o lysiau.  Mae Pys Plîs yn edrych ar yr ysgogiadau ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan sydd â’r potensial i gynyddu’r llysiau a fwyteir mewn modd cynaliadwy ac rydym yn cydnabod bod angen i ni weld newidiadau ar draws ein system fwyd er mwyn cefnogi defnyddwyr i wneud dewisiadau iachach.  Mae’n ddiddorol iawn felly bod canfyddiadau adroddiad Llysiau Covid yn dangos bod llawer o gyfranogwyr wedi nodi bod angen newidiadau strwythurol mawr i wneud ffrwythau a llysiau yn gymharol fwy fforddiadwy fel bod pawb, nid dim ond y rhai ar incwm uwch, yn gallu fforddio diet iach a’r buddion iechyd a ddaw yn ei sgil.”

Fel rhan o’r rhaglen Pys Plîs yng Nghymru, mae Synnwyr Bwyd Cymru yn ddiweddar wedi dyfarnu grantiau i bum busnes garddwriaethol bach yng Nghymru i dyfu eu busnesau garddwriaethol bwytadwy er mwyn gwasanaethu cymunedau ledled Cymru. Bydd y gefnogaeth hon yn galluogi mentrau garddwriaethol llai yng Nghymru i gynyddu eu cynhyrchiad ac yn ei dro, cynyddu’r defnydd o lysiau ac argaeledd o lysiau mewn ardaloedd ar draws Cymru.

Mae canfyddiadau adroddiad Llysiau Covid yn nodi bod mwy o bobl wedi defnyddio siopau lleol a chynlluniau bocsys llysiau yn ystod cyfnod yr arolwg. Gyda chymorth mentrau fel y grantiau garddwriaethol bwytadwy, bydd busnesau ar raddfa lai yn gallu tyfu a datblygu, gan helpu i ateb y galw am gynnyrch iach, cynaliadwy, a dyfir yn lleol.

O ran fforddiadwyedd ffrwythau a llysiau, mae Synnwyr Bwyd Cymru hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun Cychwyn Iach ledled Cymru, gan annog teuluoedd cymwys i gael mynediad at gymorth ariannol a fyddai’n eu helpu i brynu bwydydd iach.

Menter gan y Llywodraeth yw Cychwyn Iach sy’n darparu talebau i deuluoedd cymwys bob wythnos i’w gwario ar laeth, ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi ac mewn tun, corbys ffres, sych ac mewn tun, a llaeth fformiwla i fabanod.  Ym mis Ebrill, bydd gwerth talebau Cychwyn Iach yng Nghymru yn cynyddu o £3.10 yr wythnos i £4.25 i ddarparu cymorth gyda maeth ymysg plant a theuluoedd ar incwm isel.

Darllenwch yr adroddiad lawn yma.

DIWEDD