Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes – Plannu a Rhannu yn Trowbridge
Rhwng 8 a 15 Mai, bydd pobl sy’n byw yn ardal Trowbridge, Caerdydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiect tyfu newydd sbon dan arweiniad y Pantri lleol.
Mae’r Pantri, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymunedol Trowbridge, wedi derbyn grant gan raglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes i ariannu prosiect sy’n dod â phobl o wahanol oedrannau ac o wahanol gefndiroedd ynghyd i gryfhau a chysylltu’r gymuned trwy dyfu, coginio a rhannu bwyd.
Mae prosiect ‘Tyfu, Rhannu, Bwyta’ Trowbridge yn gobeithio ymgysylltu â mwy na 100 o deuluoedd wrth i’r Pantri sefydlu ei hun yn ei ardal leol. Yn fenter dan arweiniad Eglwys Bethania, Ysgol Uwchradd y Dwyrain a CAST (Coronavirus Action Llaneirwg a Trowbridge), mae’r Pantri yn rhan o rwydwaith Eich Pantri Lleol sy’n helpu i greu datrysiad cynaliadwy a hirdymor i dlodi bwyd.
Mae’r prosiect penodol hwn yn Trowbridge yn rhan o Fis Tyfu a Rhannu Bwyd Am Oes, ymgyrch sy’n galw ar bobl ledled y DU i dyfu a rhannu cynnyrch gyda’u cymunedau lleol rhwng Ebrill 19 a Mai 19.
“Yn ogystal â chychwyn y Pantri, rydw i hefyd yn wirioneddol awyddus i annog a chefnogi pobl leol sydd eisiau rhoi cynnig ar dyfu eu bwyd eu hunain, p’un ai yn eu gerddi neu ar sil eu ffenestri,” meddai Jude Thoburn-Price, Rheolwr Pantri Trowbridge.
“Bydd y grant a gawsom gan Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yn caniatáu i mi dyfu’r hadau mewn hambyrddau hadau ac yna gwneud bwndeli bach o eginblanhigion i’w rhoi i aelodau’r gymuned leol, ynghyd â gwybodaeth am sut i ofalu amdanynt.
“Bydd pobl yn derbyn casgliad o eginblanhigion i geisio tyfu gartref. Y nod yw ein bod yn annog y gymuned – pobl o bob oed – i gymryd rhan. Ac wrth i’r planhigion dyfu, gall pobl rannu ac ymhyfrydu yn eu sgiliau garddio newydd ac, wrth gwrs, blasu’r cynnyrch rhyfeddol,” ychwanega Jude.
“Bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn elwa o gefnogaeth i dyfu eu bwyd da eu hunain a byddwn hefyd yn rhannu ryseitiau yn rhoi syniadau am sut i goginio gyda’r cynnyrch ac yn annog pobl i rannu unrhyw gynnyrch sydd dros ben gyda’r gymuned ehangach.”
Dywed Louise Shute, Rheolwr Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes yng Nghymru, ei bod hi wrth ei bodd yn gweld cymuned Trowbridge yn ymuno â Mis Plant a Rhannu ac mae’n awyddus i annog cymunedau ledled Cymru i gymryd rhan.
“P’un a ydych yn tyfu llysiau mewn potiau iogwrt am y tro cyntaf neu’n hen law arni ac yn tyfu ar randir, mae Mis Plannu a Rhannu yn addas i chi,” meddai Louise.
“Gallwch naill ai gymryd rhan yn y gweithgareddau dan arweiniad Jude yn Trowbridge neu roi cynnig arni’ch hun – mae’n hawdd iawn cymryd rhan. Mae angen i chi blannu’ch hadau, helpu’ch hadau i dyfu ac yna rhanu’ch eginblanhigion, gan gofio dweud wrthym sut y gwnaethoch hynny ar Facebook neu Twitter gan ddefnyddio #MisPlannuaRhannu
“Mae gan Dewch at Eich Gilydd Bwyd am Oes ddigon o adnoddau i’ch help chi i blannu. Cofrestrwch yma i gael mynediad atynt!
“Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich sgiliau; edrych ar ein hadnoddau tyfu, ac ymuno â’n cymuned ddigidol i gyfnewid awgrymiadau a syniadau.”
DIWEDD